Newyddion

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol
Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o...

Osian Ellis (1928-2021)
Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru. Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn...

Newid i ddosbarthiadau ar-lein yn galluogi telynores flaenllaw i ddysgu disgybl 7,500 milltir i ffwrdd ym Mhatagonia
Mae newid i ddosbarthiadau ar-lein oherwydd argyfwng Covid-19 wedi galluogi canolfan gerddoriaeth nodedig yng ngogledd Cymru i ddarparu gwersi ledled y byd. Ymhlith y tiwtoriaid yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a...

Covid-19: Diweddariad Hydref 2020
Ar ôl dros 6 mis o beidio cynnal gweithgareddau wyneb i wyneb rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod gwersi un i un wyneb i wyneb wedi ail gychwyn yn ein canolfannau yn Galeri Caernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gyfer y tiwtoriaid a’r disgyblion sy’n dymuno dychwelyd wyneb...

Fideo Canfod y Gân yn ystod y Cyfnod Clo
https://youtu.be/nEa1Novc0Po Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth. Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â...

Gwersi a Gweithgareddau Ar-lein
Mae drysau ein canolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gau ar hyn o bryd ond gyda chydweithrediad ein tîm gwych o diwtoriaid mae’r gerddoriaeth yn parhau. Dyma flas o’r gweithgareddau sydd gennym ar-lein ac mae mwy i ddod yn yr wythnosau nesaf…...

Swydd: Derbynnydd
Mae CGWM yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd rhan amser ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig). Cais trwy lythyr a...

Athrawon cerdd yn taro’r nodau uchel mewn achlysur codi arian
Bydd tiwtoriaid cerdd o ganolfan gerddoriaeth nodedig yn gweld y byrddau’n cael eu troi fis nesaf pan fyddant yn perfformio o flaen cynulleidfa sy’n llawn myfyrwyr fel rhan o achlysur i godi arian i ŵyl biano arbennig. Yn ymuno â'r pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan...

Soprano byd-enwog i serennu mewn cyngerdd i ddathlu penblwydd Canolfan Gerdd
Bydd un o sopranos enwocaf Cymru yn cymryd rhan flaenllaw mewn cyngerdd i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu Canolfan Gerdd sydd â changhennau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun. Ynghyd â bod yn unawdydd o fri rhyngwladol, mae Mary Lloyd-Davies wedi dysgu yng Nghanolfan...

Cerddorfa gymunedol i Gaernarfon yn taro tant yn ystod eu cyfarfod cyntaf
Ar y 5ed o Fawrth, mi gynhaliwyd ymarfer cyntaf ensemble offerynnol newydd i oedolion, Cerddorfa Gymunedol Caernarfon, yng Nghaernarfon. Dan arweiniad y sielydd, Nicki Pearce o Fae Colwyn a Steven Evans, yn wreiddiol o Gaernarfon fel repetiteur, mae’r gerddorfa...