Gwyliau

Trosolwg

Ers sawl blwyddyn mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi trefnu Gwyliau Cerdd llwyddiannus yn canolbwyntio ar offerynnau penodol. Gwahoddir artistiaid o fri rhyngwladol i berfformio a chynnig hyfforddiant o’r safon uchaf yn y digwyddiadau hyn.

Mae pob gŵyl yn ymdrechu i ymgysylltu gyda’r gymuned leol yn ogystal â denu cyfranogwyr o bob cwr o Brydain a thramor i Gaernarfon.

Gŵyl Delynau Cymru

Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru yn flynyddol o dan gyfarwyddyd y delynores o fri rhyngwladol Elinor Bennett. Lleolir y digwyddiad yn nhref Caernarfon a cheir cyfuniad o hyfforddiant, darlithoedd, gweithdai a pherfformiadau. Mae’r hyfforddiant yn addas ar gyfer telynorion o bob oed a gallu.

Bydd yr Ŵyl nesaf yn cael ei chynnal ym mis Ebrill 2019. Rhagor o fanylion i ddilyn.

Bob pedair mlynedd cynhelir yr Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru sy’n ddigwyddiad wythnos o hyd sy’n denu telynorion o dros 20 o wledydd i Gaernarfon. Mae’r Ŵyl yn cynnwys cyngherddau, cystadlaethau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, perfformiadau anffurfiol a rhaglen addysgol a chymunedol. 

Cynhaliwyd yr Ŵyl Ryngwladol ddiwethaf 1-7 Ebrill 2018. Ceir rhagor o wybodaeth ar  wefan yr Ŵyl Delynau.

Gŵyl Biano Ryngwladol cymru

Cynhaliwyd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn Galeri Caernarfon rhwng y 29ain o Ebrill a’r 2il o Fai 2016. O dan gyfarwyddyd y pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones cyflwynodd yr Ŵyl raglen o weithgareddau yn canolbwyntio ar dri maes penodol: 

  • Cyngherddau cyhoeddus / digwyddiadau perfformio
  • Cystadlaethau
  • Dosbarthiadau meistr / gweithdai / darlithoedd a chyfweliadau4

Dyma fideo o Iwan Llywelyn Jones yn cyflwyno’r Ŵyl:

Yn dilyn pedwar niwrnod o gystadlaethau, cyngherddau a dosbarthiadau daeth Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru i ben ar nodyn uchel Nos Lun (2il o Fai), gyda phianydd o Wlad Belg, Yulia Vershinina yn cyrraedd y brig yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn. Mae Yulia yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ac enillodd y brif wobr o £2,000 yn rhoddedig gan Gwmni Roberts of Port Dinorwic. 

Domonkos Csabay o Hwngari enillodd y wobr gyntaf o £1,250 yn rhoddedig gan y Sickle Foundation yn y gystadleuaeth i Gyfeilyddion piano. Mae Domonkos yn astudio yn y  Conservatoire yn Birmingham.

Aeth y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Iau i Callum McLachlan, 17, o Stockport. Derbyniodd Callum, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gerdd Chetham’s, wobr o £700 wedi ei chefnogi gan diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias. 

Trefnwyd yr Ŵyl, a gynhaliwyd yn Galeri o’r 29 Ebrill – 2 Mai, gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Cyfarwyddwr yr Ŵyl oedd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones.

Llongyfarchiadau mawr i’r pianyddion ar eu llwyddiant

Cystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn

1af Yulia Vershinina (Gwlad Belg)
Y 3 phianydd arall a gyrhaeddodd y Cylch Terfynol oedd
William Bracken (Lloegr)
Adam Davies (Lloegr)
Domonkos Csabay (Hwngari)

 

 

 

 

 

 

Cystadleuaeth Piano Unawdol Iau

1af Callum McLachlan (Lloegr)
2il Lauren Zhang (America)
3ydd William Bracken (Lloegr)
Y ddau bianydd arall a gyrhaeddodd y Cylch Terfynol oedd
Tomos Boyles(Cymru)
Ellis Thomas (Cymru)

Mae’r Wyl Biano yn arfer digwydd bob 4 mlynedd gyda’r nesaf i’w chynnal yn 2020.

Gitarau@Galeri

Digwyddiad dan Gyfarwyddyd Neil Browning yw Gitarau@Galeri sy’n dod a gitarwyr â diddordebau amrywiol ynghyd am benwythnos lawn o hyfforddiant, gweithdai a pherfformiadau. Ceir cyfle i’r cyfranogwyr dderbyn hyfforddiant gan y tiwtor sy’n addas ar eu cyfer yn ôl eu maes o ddiddordeb (trydan, acwstig, clasurol, bâs) yn ogystal â’r cyfle i archwilio pynciau a genres newydd fel effeithiau electronig a’r llithriad blŵs mewn gweithdai ‘mix’n’match’.

Gwahoddir diwtoriaid a pherfformwyr o bob rhan o’r DU i gynnig cyfleoedd arbennig i gitarwyr lleol. Rhai o’r tiwtoriaid sydd wedi cyfrannu yw Gary Ryan, John Wheatcroft, Andy Mackenzie, Stewart Ryan a Colin Tommis. Digwyddiadar gyfer oedolion a phobl ifanc dros 15eg mlwydd oed yw Gitarau@Galeri. Cafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn Chwefror 2013, ac yna Mai 2015.