Band Jazz
Mae’r Band Jazz ar gyfer offernwyr a chantorion ifanc oedran uwchradd sydd yn awyddus i arbrofi a chreu mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol.
Mae’r band yn barneriaeth rhwng CGWM, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Mon a Galeri Caernarfon fel rhan o weithgareddau Gwynedd o dan y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth
Lleoliad : Galeri Caernarfon
Tiwtoriaid: Marie-Claire Howorth a Gabriel Tranmer
Amser : Dyddiau Sadwrn 2-3:30pm
I gofrestru : cliciwch yma
Canllaw : mae’r band yn addas i offerynwr sydd yn chwarae i safon gradd 3 ac uwch
Cost : Nid oes cost i ymuno
Ensembles Sielo
Caiff Ensemblau Cellos CGWM eu harwain gan Nicki Pearce sy’n diwtor ac yn sielydd proffesiynol. Mae’r Ensemblau wedi rhedeg yn llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd bellach ac yn cynnig darpariaeth i fyfyrwyr o’r rhan fwyaf o lefelau.
Yn gyffredinol bydd y grwpiau’n cyfarfod unwaith y mis.
Anela’r grwpiau i berfformio deirgwaith y flwyddyn mewn cyngherddau neu ddigwyddiadau. Yn ychwanegol i gyngerddau arferol, yn aml ai’r grwpiau gam ymhellach ac wedi perfformio yn y stryd, ac ar gopa’r Wyddfa! Yn ogystal â derbyn cyfleoedd perfformio, mae’r aelodau wedi cael budd o dderbyn hyfforddiant mewn Dosbarth Meistr gan y sielydd dawnus Steffan Morris, ac wedi cymeryd rhan mewn gweithdy dan arweiniad Anup Biswas; sielydd Indiaidd a chyd-sylfaenydd yr Ysgol Gerdd Mathieson, Kolkata.
Ymdreacha Nicki i ddarparu’r grwpiau ag amrediad eang o gerddoriaeth o’r cyfnod Baroc, Clasurol a gan gynnwys trefniadau o alawon poblogaidd a jazz. Hoffa Nicki gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth ei hun yn arbennig ar gyfer yr Ensemblau. Caiff y myfyrwyr gyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau cryf mewn cyd chwarae a thechneg.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu os hoffech ddod yn aelod o’r Ensemble Cellos.
Triawdau a Phedwarawdau
Mae Ensemblau Llinynnol Canolfan Gerdd William Mathias yn cyfarfod yn wythnosol, am sesiynau ½ awr neu ¾ awr. Ar hyn o bryd mae gennym 4 ensemble – triawd piano hŷn ac iau a Pedwarawd Llinynnol Hŷn ac Iau.
Mae bob ensemble yn perfformio yn rheolaidd unai mewn cyngherddau a drefnwyd gan CGWM neu yn y gymuned ehangach mewn eisteddfodau a digwyddiadau. Mae perfformiadau’r gorffennol yn cynnwys pedwarawd llinynnol yn gweithio gyda Catrin Finch, Triawd Sonata Baróc yn gweithio gydag Iwan Llewelyn-Jones, a gwaith ensemble llinynnol gyda phedwarawd llinynnol Mavron o Gaerdydd ar Octet gan Mendelssohn a Choncerto Brandenburg rhif 3 gan Bach. Cafwyd nifer o gyfleoedd perfformio mewn nifer o leoliadau gan gynnwys Gŵyl Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy a Neuadd John Ambrose (Rhuthun) gan hyrwyddo’r Ganolfan yn Ninbych.
Mae’r ensemblau llinynnol yn cael eu hyfforddi gan Nicki Pearce.