Gwersi Ar-Lein Gydag Elinor Bennett

Hoffech chi wella ac adnewyddu eich sgiliau telyn? Hoffech chi ddysgu darnau newydd a chael eich tiwtora gan arbenigwraig sydd â nifer o flynyddoedd o brofiad dysgu?

Bywgraffiad

Cydnabyddir fod ELINOR BENNETT yn un o delynorion ac athrawon telyn uchaf eu parch yn rhyngwladol. Dechreuodd gael gwersi telyn gyda’r enwog ddiweddar Alwena Roberts, yn y Bala ac wedyn astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain gydag Osian Ellis, ar ôl graddio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Derbyniodd hyfforddiant hefyd gan dair athrawes ardderchog – Tina Bonifacio, Gwendolen Mason yn Llundain a Jaqueline Borot ym Mharis.

Bu Elinor yn chwarae’n gyson gyda phrif gerddorfeydd Prydain, a rhoddodd laweroedd o gyngherddau yng ngwledydd Prydain, Ewrop, UDA, Rwsia, Siapan, Awstralia a Seland Newydd. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth glasurol i’r delyn o’r 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru.

Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth yn arbennig i Elinor, a bu’n cyfarwyddo astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod dros 30 mlynedd. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, OBE a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Bu Elinor yn gyfrifol am gyfarwyddo cyrsiau telyn ym Mangor ers 1978 a hi yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai. Mae’n frwdfrydig ac yn awyddus iawn i basio’i gwybodaeth am gerddoriaeth ymlaen i delynorion eraill ac i rannu ei chariad tuag at ei hofferyn.

I ddysgu mwy am Elinor, ewch i www.elinorbennettharp.com

Yr hyn mae Elinor yn ei gynnig

Mae Elinor Bennett yn cynnig gwersi un-i-un ar-lein (drwy Skype neu Zoom). Trefnir y gwersi gan Ganolfan Gerdd William Mathias.

Croeso i delynorion o unrhyw ran o’r byd i wneud cais a bydd y gwersi trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg neu Saesneg.

Cynllunnir y gwers ar gyfer yr unigolyn a chynigir un wers 30 munud am ddim i roi amlinelliad o gynnwys a bwriad y gwersi ac i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

  • Hyfforddiant a chyngor ar faterion technegol ( cynhyrchu sain, ymlacio, a byseddu clir)
  • Astudio darnau yn repertoire y delyn bedal glasurol (er enghraifft darnau ym maes llafur byrddau arholiad DU fel yr ABRSM, Trinity,)
  • Y delyn deires gyda’i thechnegau arbennig, tiwnio, a cherddoriaeth.
  • Cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn cynnwys Cerdd Dant, a chaneuon gwerin i gyfeiliant y delyn.

Am resymau technegol, nid yw’r gwersi hyn yn addas i ddechreuwyr sydd heb gael gwers o’r blaen.
Mae angen i delynorion o dan 18oed gael eu goruchwylio gan oedolyn yn ystod y gwersi.

Ffi gwersi ar-lein: £55 yr awr (Ffi hanner awr yn £30).

Mae gwersi ar gael ar gyfer telynau pedal, teires a cheltaidd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi rhoi caniad i ar (+44) 01286 685 230 neu ebostio gwydion@cgwm.org.uk