Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi bod.

Diwrnod Piano

21 Tachwedd, 2020

Dyma gyfle gwych i bianyddion o bob cyrhaeddiad a phob oed i berfformio mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol fel rhan o weithgareddau sy’n arwain at Gŵyl Biano Rhyngwladol Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaernarfon 30 Ebrill – 3 Mai 2021.

Cynhelir y diwrnod piano eleni ar-lein drwy ZOOM dydd Sadwrn yr 21ain o Dachwedd o 9.30am. Mae nifer o ddosbarthiadau (unawdol a deuawdau) ac mae croeso i bawb gymryd rhan mewn hyd at 3 dosbarth, gyda’r pwyslais ar berfformio o flaen cynulleidfa (rithiol) a derbyn adborth gan y beirniaid. Bydd bob pianydd sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif llwyddiant.

Yn hytrach na gosod perfformiadau yn 1af, 2il a 3ydd, bydd y beirniaid yn dewis nifer penodol o berfformiadau sydd wedi creu argraff arnynt yn ystod y dydd i berfformio mewn cyngerdd rhithiol ychydig ddiwrnodau ar ôl y Diwrnod Piano.

I ddarganfod mwy, ymwelwch â https://www.pianofestival.co.uk/cy/diwrnod-piano/

Manylion

Dyddiad:
21 Tachwedd, 2020