Cyngherddau Blaenorol: 2020

16 Rhagfyr 2020

9 Rhagfyr 2020

27 Hydref 2020
Yr wythnos hon bydd Iwan Llewelyn-Jones yn sgwrsio efo ein tiwtor offerynnau taro Dr Dewi Ellis-Jones. Enillodd Dewi Ddoethuriaeth mewn Perfformio a Chyfansoddi o Brifysgol Bangor, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie. Yn ogystal a dilyn gyrfa lwyddiannus fel perfformiwr a thiwtor offerynnau taro mae Dewi hefyd yn rhedeg cwmni TARO (www.tarodrums.com) gan adeiladu drymiau a ffyn arbenigol a’u gwerthu i gerddorion o bob cwr o’r DU ac Ewrop.

6 October 2020
Y delynores Elen Hydref fydd yn cynnal cyngerdd yr wythnos hon o’i chartref yng Nghaerdydd. Mae Elen yn un o gyn-ddisgyblion disglair y Ganolfan sydd bellach yn gweithio fel telynores broffesiynol. Mae hi wedi gweithio gyda nifer o  gerddorfeydd yn cynnwys Cerddorfa y Tŷ Opera Brenhinol, Llundain, Cerddorfa Aurora a Cherddorfa Opera a Ballet Norwy.

Yn ogystal â cherddoriaeth gan John Parry, John Thomas a Renié bydd Elen yn perfformio deuawdau efo’i gŵr, y sacsoffonydd Joe Wright. Hoffem gymryd y cyfle i longyfarch Elen a Joe ar enedigaeth Ffion fach a chydymdeimlo yn ddwys gyda’r teulu yn dilyn marwolaeth Arthur, tad Elen yn gynharach eleni.  Bu Arthur yn ymwelydd cyson â’r Ganolfan am flynyddoedd lawer ac mae teyrnged gerddorol hyfryd iddo gan Elen yn y cyngerdd yma.

29 Medi 2020

22 Medi 2020
Cyngerdd gan Elfair Grug sydd gennym ar eich cyfer yr wythnos hon. Mae Elfair yn un o gyn ddisgyblion CGWM sydd bellach yn gweithio fel telynores broffesiynol. Rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth gan Hasselmans, John Thomas a Parish Alvars.

15 Medi 2020