Côr Siambr CGWM: Croeso i aelodau newydd!!

Cyhoeddwyd: 1 Hydref, 2017

Bu Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias yn cymryd rhan mewn cyngerdd yng Nghadeirlan Llanelwy dydd Sul y 24 Medi fel rhan o Gorws Opera Genedlaethol Cymru gan ganu’r premiere Cymreig gan Oliver Tarney a Paul Mealor.

“Roedd hwn yn brofiad gwych i’r côr i fod yn rhan o gorws yr Opera Genedlaethol ac i ganu mewn lleoliad mor anhygoel â Chadeirlan Llanelwy” meddai Jenny Pearson, arweinydd y côr.

Mae Jenny Pearson wedi bod yn arwain Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias ers bron iawn i ddegawd bellach, a dan ei arweinyddiaeth, mae’r côr wedi gweld nifer o lwyddiannau, gan gynnwys cymryd rhan mewn taith gyfnewid gyda chôr Incantanti o’r Swistir dim ond y llynedd.

Mae rhai o berfformiadau mwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus y Côr yn cynnwys: Bach Magnificat, Handel Zadok the Priest, Fauré Cantique de Jean Racine ac Offeren Mozart.

Mae’r Côr wedi cyflawni amryw o berfformiadau llwyddiannus, gyda rhai aelodau wedi mynd ymlaen i ganu gyda Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Opera Ieuenctid WNO, ac ymlaen i golegau cerdd adnabyddus.

Gydag amryw o aelodau’r côr wedi mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion a cholegau cerdd ym mis Medi, mae’r côr yn awr yn awyddus iawn i ddenu aelodau newydd i ymuno â’r tîm.

Mae’r côr yn agored i gantorion rhwng 12 – 25 oed, a mae Jenny Pearson yn awyddus i bwysleisio nad oes angen profiad blaenorol o fod mewn corau er mwyn ymuno:

“Mae’r Côr Siambr CGWM yn agored i bawb – does dim angen profiad blaenorol, does dim angen bod yn derbyn gwersi llais, a does dim clyweliad. Os yw eich plentyn yn ‘geek’ cerddorol o unrhyw fath, mi fydden nhw wrth eu boddau! Mae bod yn rhan o’r côr hefyd o fudd i’r rhai sydd yn dysgu offerynnau – gan eu helpu efo sain glust a darllen ar yr olwg gyntaf.”

Cynhelir ymarfer cyntaf y gyfres yn rhad ac am ddim, ar nos Iau y 5ed o Hydref rhwng 4:45 – 6:00yh, yn SP3, Galeri Caernarfon.

Mi fydd yr ymarfer cyntaf yma am ddim, yn rhoi cyfle da i blant rhoi cynnig ar y côr cyn cofrestru i’r tymor, ynghyd â rhoi cyfle i gael sgwrs anffurfiol efo Jenny.

Erthyglau Eraill

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl Biano 2025 nawr ar agor!

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl Biano 2025 nawr ar agor!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer Cystadlaethau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2025 nawr ar agor! Yn digwydd yn Galeri Caernarfon ym mis Hydref eleni, mae’r cystadlaethau’n rhan bwysig o’r ŵyl ac yn cynnig llwyfan cyffrous i bianyddion arddangos eu talent....

Hysbyseb Swydd: Derbynnydd

Hysbyseb Swydd: Derbynnydd

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd rhan amser ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon. Am ragor o fanylion gweler y Swydd Ddisgrifiad....