Neges gan Gadeirydd newydd Cyfeillion CGWM: Clive Wolfendale

Neges gan Gadeirydd newydd Cyfeillion CGWM: Clive Wolfendale

Fel Cadeirydd newydd Cyfeillion CGWM, rwy’n falch iawn o gyflwyno fy hun ac annog eich cefnogaeth barhaus o waith gwych Canolfan Gerdd William Mathias wrth feithrin addysg gerddorol ar draws ein rhanbarth.

Ar ôl symud i Ogledd Cymru o Fanceinion yn 2001, treuliais y ddau ddegawd canlynol mewn gwasanaeth cyhoeddus ac elusennol, gyda Heddlu Gogledd Cymru a CAIS / ADFERIAD. Rwyf  bellach wedi dychwelyd at fy mhrif diddordeb: gwneud cerddoriaeth a chefnogi eraill ar eu siwrne cerddorol.

Ar ôl bod yn aelod o Fwrdd y Cyfeillion am nifer o flynyddoedd, cefais yr anrhydedd o gael fy ethol yn Gadeirydd—er fy mod yn llwyr ymwybodol bod esgidiau mawr iawn i’w llenwi ar ôl arweinyddiaeth ysbrydoledig Elinor. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i gydnabod cyfraniad arbennig Clive Smart, sydd wedi rheoli cyllid y Cyfeillion yn ofalus ac yn ymroddedig dros nifer o flynyddoedd.

Mae’r Ganolfan yn parhau i ddarparu cefnogaeth sydd ei fawr-hangen ar gyfer addysg cerddorol, ac hynny ar adeg pan fo toriadau’n rhoi straen enfawr ar wasanaethau traddodiadol. Gallwch ddysgu mwy am waith y Ganolfan a thanysgrifio i’r cylchlythyr ar: www.cgwm.org.uk.

Drwy aelodaeth i’r Cyfeillion, mae eich cyfraniad at y gwaith a wneir yn y Ganolfan wedi bod yn amhrisiadwy. Ni fyddai llawer o’r gweithgareddau a gynhaliwyd wedi bod yn bosibl heb eich haelioni. Rwy’n gobeithio y byddwch yn teimlo eich bod chi’n medru parhau â’ch tanysgrifiad blynyddol ac unrhyw rodd arall y carech chi ei roi, gan fod yn sicr y bydd yr holl gyfraniadau yn cael eu defnyddio i’r achos teilwng hwn.

Y ffordd fwyaf effeithlon o danysgrifio yw drwy archeb sefydlog (standing order). Mae modd hefyd ychwanegu Rhodd Cymorth hefyd ar eich rhoddion – gan ddarparu buddion treth gwerthfawr i’r elusen. Mae ffurflen aelodaeth ar gael ar wefan y Cyfeillion: https://cgwm.org.uk/cefnogi

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau neu os ydych am ddad-danysgrifio o’n rhestr bostio. Yn yr un modd, lledaenwch y gair am y sefydliad unigryw hwn a’i nod.

Mae gennym nifer o gyngherddau wedi’u cynllunio dros y misoedd nesaf yn arddangos talentau ein myfyrwyr, a gobeithio y caf gyfle i gwrdd â chi yn y digwyddiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â post@cyfeillion.cgwm.org.uk

Darlith gan Dafydd Wigley: ‘Murray the Hump – Perthyn i Gangstar’

Darlith gan Dafydd Wigley: ‘Murray the Hump – Perthyn i Gangstar’

Ar yr 8fed o Dachwedd 2024, fe roddodd Dafydd Wigley ddarlith hynod ddifyr dan y teitl ‘Murray the Hump: Perthyn i Gangstar’, yn olrhain hanes y cymeriad lliwgar Llywelyn Humphreys.

Roedden ni’n ddiolchgar iawn i Lowri o gwmni Lingo am wirfoddoli ei hamser i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ystod y digwyddiad, gan sicrhau bod y cynnwys ar gael i bawb.

Fe gododd y digwyddiad o leiaf £210 tuag at elusen Cyfeillion CGWM – diolch o galon i bawb a gyfrannodd!

Yn ogystal â’r ddarlith, cafwyd perfformiadau cerddorol gan ddisgyblion dawnus o’r Ganolfan Gerdd, gan gynnwys Rio Chung, a Thriawd Ffliwt Canolfan Gerdd William Mathias (Christina, Fflur, ac athrawes y Ganolfan – Rhiannon).

Ocsiwn addewidion Llwyddiannus!

Ocsiwn addewidion Llwyddiannus!

Ar y 5ed o Orffennaf 2024, fe gynhaliwyd Ocsiwn Addewidion yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon.

Digwyddiad oedd hwn wedi ei drefnu i godi arian at ddau achos arbennig: Cyfeillion CGWM a Ward Alaw Ysbyty Gwynedd. Bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng y ddau achos.

Fel rhan o’r noson hwyliog yma cafwyd adloniant gan Hogiau Bodwrog, Cor Law yn Llaw, ensemble jazz ynghyd a llu o ddisgyblion o Ganolfan Gerdd William Mathias.

Cafodd yr Ocsiwn ei gynnal gan Morgan Evans.

Diolch yn i bawb am eu cefnogaeth ar y noson, am yr holl siopau lleol a unigolion gyfrannodd eitemau i’r ocsiwn.

Diolch hefyd yn arbennig i Edith Jones am ei gwaith yn trefnu’r digwyddiad arbennig hwn.

Mae’r arian yn dal i ddod i mewn, ond rydym yn amcangyfrif bod elw’r digwyddiad tua £5,772.