
Canfod y Gân yn ystod 2022-2024
Dyma edrych yn ôl dros Newyddlenni Canfod y Gân ryddhawyd yn ystod 2022-2024.
Dyma edrych yn ôl dros Newyddlenni Canfod y Gân ryddhawyd yn ystod 2022-2024.
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi ein bod ni wedi derbyn grant gan y Steve Morgan Foundation i barhau gyda gwaith Canfod y Gân.
“Wedi’i sefydlu yn 2001 gan y dyn busnes a dyngarwr, Steve Morgan CBE, rydym yn darparu cyllid, cymorth, arbenigedd ac arfer gorau i’r elusennau a’r sefydliadau rydym yn eu cefnogi. Drwy harneisio pŵer cydweithio, rydym yn mynd i’r afael ag ystod o feysydd gan gynnwys tlodi, digartrefedd, iechyd a lles, ac addysg a hyfforddiant, ac rydym wedi helpu i wella ansawdd bywyd dros bedair miliwn o bobl.”
I ddysgu mwy am waith arbennig y Steve Morgan Foundation ewch i’w gwefan nhw: stevemorganfoundation.org.uk
Nadolig Llawen gan Canfod y Gân. Bu criw Harlech yn brysur iawn yn ysgrifennu cân Nadolig newydd gwreiddiol. Mae’r gân yn gyfuniad o hoff agweddau Nadolig yr aelodau o goleuadau Nadolig i grefi blasus. I gyd fynd gyda’r gân wnaethon ni ffilmio fideo cerddoriaeth – fedrwch chi wylio’r fideo isod!
Mwynhewch a Nadolig Llawen!!
Tu Nôl i’r Llen: Nadolig Canfod y Gân
Dechreuon ni trwy ysgrifennu ein hoff bethau am y Nadolig a buom yn gweithio ar eu rhoi mewn penillion. Yn y sesiwn nesaf natho ni recordio’r gân mewn rhannau gyda offerynnau a chanu.
Y cam dwythaf oedd i ffilmio fideo i fynd gyda’r cân, felly wnaethom ni gyda gwisgo yn Nadoligaidd, dawnsio a chanu i fynd gyda’r cerddoriaeth.
Cafodd criw Canfod y Gan ddiwrnod sbesial iawn ar yr 2il o Fedi 2022 yn nathliad swyddogol Canfod y Gan yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Ar ôl 3 blynedd o redeg y prosiect, mi oedd hi’n hen bryd i ni ddathlu’r holl waith caled mae’r aelodau, tiwtoriaid a phawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect wedi ei roi i mewn i Canfod y Gan!
Cafodd pob grŵp gyfle i berfformio rhai o’u hoff caneuon i ni fel rhan o’r dathliad. Cawsom glywed amryw o gerddoriaeth wahanol yn amrywio o ganeuon adnabyddus fel ‘Ceidwad y Goleudy’ gan Bryn Fôn a ‘The Wonder of You’ gan Elvis Presley i rai o ganeuon gwreiddiol sydd wedi eu hysgrifennu gan aelodau Canfod y Gan megis ‘Can Adra’ a chafodd ei sgwennu gan griw Harlech a ‘Running Around in My Mind’ gan un o aelodau Criw Caernarfon.
Roedd yn gyfle gwych i ni allu dathlu’r holl dalent sydd i’w gweld yn sesiynau Canfod y Gan, ac roedd pawb o’r gynulleidfa i’w gweld wrth eu bodd gyda’r wledd o gerddoriaeth roedd y criwiau wedi eu paratoi!
Mi wnaethom orffen y perfformiadau i ffwrdd wrth i’r 3 grŵp ddod at ei gilydd i ganu can gwreiddiol o’r enw ‘Can Cadw’n Bositif’ – ond doedd yr hwyl ddim drosodd eto…
Er mawr syndod i’r holl aelodau daeth Dafydd Iwan yn cerdded mewn i’r ystafell, yn gafael yn ei gitâr, yn barod i orffen y perfformiad i ffwrdd wrth gyd ganu ‘Mam Wnaeth Got i Mi’ ac ‘Yma o Hyd’ gyda’r aelodau!
Ar ôl y sioc hynny, ac ar ôl i bawb gael cyfle i dynnu llun gyda’r gwestai arbennig, cawsom ni de parti bach i ddathlu llwyddiant y digwyddiad, yn ogystal â dathlu llwyddiant y 3 mlynedd diwethaf o’r prosiect Canfod y Gan!
Diwrnod i’w gofio i bawb a gymerodd ran, dwi’n siŵr!
Cawsom ddiwrnod arbennig iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar y 30ain o Orffennaf.
Cafwyd perfformiadau gwych gan griwiau Meirionydd ac Arfon, gyda chymysgedd perffaith o ganeuon gwreiddiol sydd wedi eu hysgrifennu gan y criwiau, a pherfformiadau o ganeuon Cymreig adnabyddus megis ‘Harbwr Diogel’ a ‘Mam Wnaeth Got i Mi’.
Roedd y gynulleidfa i weld wrth eu boddau gyda’r wledd o ganeuon gafodd eu perfformio, wrth iddynt forio canu gyda ni!
Diolch enfawr i’r Eisteddfod Genedlaethol am y gwahoddiad, a diolch enfawr i’n haelodau o grwpiau Meirionydd ac Arfon am eu perfformiad gwych!
Cafodd ein grŵp Arfon eu gwahodd i fod yn rhan o Ŵyl Undod Hijix (grŵp theatr intergredig) yn Pontio, Bangor ar 29 Mehefin.
Bu’r criw yn perfformio cymysgedd o ganeuon poblogaidd gan gynnwys, Ysbyrs y Nos gan Edward H, What About Now gan Westlife a Love Yourself gan Justin Bieber. Perfformwyd Cân Canfod y Gân a chyfansoddwyd gan y grŵp yn ystod blwyddyn cyntaf y prosiect a byrfyfyrio ar alaw Elin ar y glockenspiel. Yn ogystal perfformiodd Matthew ei gân Newydd ‘Running Around in My Mind’, cân sydd a rei EP mae o wedi rhyddhau ar Bandcamp. Gorffenwyd y sêt gyda’r “crowd pleasers” Sosban Fach a Mam Wnaeth Gôt Imi lle bu’r gynulleidfa yn ymuno mewn gyda ni!
Diolch i Gwmni Theatre Hijinx am ein cynnwys ni yn eu gŵyl arbennig iawn!
Cafwyd gwahoddiad i grŵp Dwyfor gan Gwasanaeth Dementia i fod yn rhan o Ddawns Tê oedd yn cael ei gynnal yng Nghapel y Drindod, Pwllheli mis Mehefin.
Mi gafwyd digonedd o ddawnsio, canu, cacennau a phanediau i gadw’r grŵp i fynd trwy’r prynhawn. Perfformiodd ein aelod Merfyn gân cyfansoddod am Canfod y Gân, dyma’r geiriau:
Ganwyd fudiad Newydd
Yn fudiad Newydd sbon,
Ni does un yn unman
Ond ‘man yn unigryw a llon,
‘Mae llawer or offerynnau
I bawb yn ddiwahan
I gael chwarae gyda phleser
A chreu bob mathau o gân
Perfformiodd y grŵp gerddoriaeth y gallai’r gynulleidfa ddawnsio “ballroom” iddynt ac ymuno mewn gyda ni.
Diolch i’r Gwasanaeth Dementia, myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor ac i Edwin am y wahoddiad,
Roedd aelodau Canfod y Gân Harlech wrth ei boddau yn cael cyfle i berfformio yn fyw mewn cyngerdd am y tro cyntaf ers 2019. Cafwyd bore gwych ar fore dydd Sadwrn y 14eg o Fai yng nghynhadledd Merched y Wawr yn Rhydymain.
Cafwyd perfformiad gwych ar y Cellos gan Debbie ac Elin i ddechrau’r bore, cyn i’r grŵp symud ymlaen i berfformio ychydig o glasuron Cymreig megis ‘Ar lan y Môr’ a ‘Ceidwad y Goleudy’, cyn i ni orffen gyda gan wreiddiol gan griw Canfod y Gan o’r enw ‘Can y Clo’.
Diolch yn fawr i Merched y Wawr am ein cael ni yno – cawsom ddiwrnod gwych!
Pob dymuniad da i bawb dros y Nadolig. Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol gyda’r pandemig ond rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu ail gychwyn ein sesiynau wyneb i wyneb ers mis Medi. Diolch i galon i bawb am eu cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at 2022 llawn cerddoriaeth. Dyma berfformiad arbennig gan ein aelodau i ddymuno Nadolig Llawen i bawb.
Nôl ym mis Ionawr ar ôl y sioc a ddaeth cyn y Nadolig ein bod mewn cyfnod clo arall. Roedd hi’n teimlo’n wahanol tro ma. Fyddai’n Nadolig yma ddim yr un fath, ac am ba hyd oedd y cyfnod clo yma yn mynd i bara? Roeddem ni gyd yn wynebu cyfnod digon ansicr eto. Wrth ddod nol at ein gilydd ar ôl y Nadolig, roedd hi’n bwysig iawn i ni gyd helpu’n gilydd. Dywedodd Terry, un o’n haelodau :
“Mae’n bwysig iawn i ni gyd gadw’n bositif a dal i fynd. Ma dod i Canfod yn helpu fi, a bod yn greadigol”
Gyda geiriau Terry yn ein hysbrydoli, dyma ddechrau holi pawb beth oedd pawb yn edrych mlaen i gael gwneud unwaith y byddai pethau’n gwella. Roedd pawb yn llawn syniadau.
Dyma rai o’n syniadau :
Aeth y tri grwp ati i feddwl am negeseuon fyddai’n codi calon. Roedd ‘daw eto haul ar fryn’ yn neges bwysig iawn i bawb. Mae llawer o’n haelodau yn mynychu Clwb Enfys hefyd drwy www.llwybraullesiant.cymru felly dyma benderfynu cydweithio gyda’r clwb er mwyn creu negeseuon positif a gwaith celf lliwgar i’w gynnwys yn ein fideo. Diolch i aelodau’r clwb am gyfrannu at ein fideo, roedd eich gwaith celf yn wych, mor bositif a lliwgar!
Aeth Elin, un o’n tiwtoriaid ati i roi syniadau pawb at ei gilydd. A dyna sut cawsom ni gân newydd ‘Cadw Ffydd’. Buom yn brysur wedyn yn recordio ein hunain yn cyd-chwarae gyda’n gilydd. Cawsom bob math o fideos o’r organ geg i glychau a’r glocenspiel a’r cello. Dystiodd Mared y llwch oddi ar ei ffliwt hefyd er mwyn cael perfformio hefo’r criw.
Mwynhewch ein cân!