
Camau Cerdd
Mae Camau Cerdd yn brosiect a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire Howorth.
Mae’r dosbarthiadau wedi eu llunio’n ofalus gan Marie-Claire er mwyn rhoi’r cychwyn gorau posib a sylfaen cerddorol cadarn i’ch plentyn.
Credwn bod gan addysg gerddorol y gallu i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu, deallusrwydd emosiynol, cydsymud, y cof a sgiliau cymdeithasol eraill ynghyd â bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff.
Dosbarthiadau

Penrhosgarnedd
Camau Cyntaf Cerdd: Addas i blant 6mis-4 oed a’u rhiant/gofalwr
Gweler rhagor o fanylion drwy ddilyn y ddolen gofrestru.

Caernarfon
Camau Nesaf Cerdd: Addas i blant 4-7oed.
Gweler rhagor o fanylion drwy ddilyn y ddolen gofrestru.
Tiwtoriaid Camau Cerdd

Marie-Claire Howorth

Elin Taylor

Charlotte Pulsford
Lluniau
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


