Siec o £7,000 i CGWM gan y Loteri Genedlaethol

Cyhoeddwyd: 18 Tachwedd, 2016

Cafodd Canolfan Gerdd William Mathias gryn syndod pan ddaeth un o chwaraewyr y Loteri Genedlaethol draw i ddweud bod eu cais am nawdd wedi bod yn llwyddiannus.

Cyflwynwyd siec o £7,000 i’r Ganolfan fel rhan o ymgyrch ‘Diolch Cymru’ y Loteri Genedlaethol. Mae’r ymgyrch yn caniatáu i chwaraewyr ddysgu mwy am y prosiectau sydd ar eu hennill bob tro maen nhw’n prynu tocyn.

Fe wnaeth Bernii Owen, 22 oed o Lanfair Pwllgwyngyll, sydd wedi chwarae’r Loteri Genedlaethol ers iddi fod yn gymwys i chwarae chwe blynedd yn ôl, dreulio diwrnod yng nghwmni’r delynores Elinor Bennett, a dysgu mwy am y sefydliad a sut mae’n helpu pobl sy’n caru cerddoriaeth, gan gynnwys rhai ag anableddau dysgu a dementia.

Esboniodd Elinor sut fydd yr arian yn helpu’r ganolfan i brynu offerynnau newydd, uwchraddio ei chyfleusterau a gwella’i darpariaeth addysgu i bobl o bob oed o bob cwr o’r ardal.

Elinor Bennett, y delynores o fri rhyngwladol, oedd un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd William Mathias, ac mae’n dal i addysgu yno heddiw. Meddai:

“Bydd cyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn hwb mawr i’n sefydliad ni. Mae cerddoriaeth yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i fywydau pobl hen a’r ifanc fel ei gilydd, boed hynny’n eu helpu i fynegi’u hunain yn greadigol, cyfathrebu ag eraill, meithrin doniau, magu cyfeillgarwch, cynnig dihangfa neu wella eu lles meddyliol – gall gynnig manteision di-rif.

“Yn ogystal â buddsoddi mewn mwy o offer, bydd y cyllid yn ein galluogi i gynnal rhagor o ddosbarthiadau ar draws y gogledd-ddwyrain hefyd, lle mae gennym gangen bellach, a chreu cysylltiadau â mwy o gymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, bydd yn ein helpu i ddatblygu’r dosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnig i blant ifanc ar hyn o bryd yn ogystal â’n galluogi i ddatblygu’n rhaglenni Doniau Cudd ac Atgofion ar Gân – sydd â’r nod o helpu pobl ag anableddau dysgu a dementia i gyfathrebu ag eraill.”

Meddai Bernii Owen, sy’n gweithio fel goruchwylydd ym mwyty Wal yn nhre’r Cofis: “Mae’n wych dysgu mwy am sefydliad lleol sydd wedi elwa ar arian y Loteri Genedlaethol, a bod yn rhan o syrpréis mor fawr hefyd.

“Nid bob dydd mae rhywun yn cael cyfle i gyflwyno siec i rywun gan wybod bod yr arian hwnnw’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cymaint o bobl.

“Roedd hi mor gyffrous trosglwyddo’r amlen i Elinor a disgwyl iddi ddarllen y cynnwys. Roedd hi wrth ei bodd ac mor ddiolchgar. Sôn am wenu a chofleidio mawr – profiad emosiynol tu hwnt a dweud y gwir.

“Wrth brynu tocyn, y wobr ariannol yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl fel arfer, ond doeddwn i erioed wedi meddwl rhyw lawer am y ffaith fod rhywfaint o’r arian yn mynd i sefydliadau gwerth chweil lleol fel Canolfan Gerdd William Mathias.

“Mae cymryd rhan yn yr ymgyrch wedi bod yn brofiad gwych, a dw i’n siŵr fod chwaraewyr eraill y Loteri Genedlaethol wedi mwynhau profiad cystal wrth ymweld â phrosiectau eraill ledled Cymru. Heb os, bydda i’n dweud wrth eraill i ble mae’r arian yn mynd o hyn ymlaen, yn enwedig ar ôl gweld ei effaith gyda’m llygaid fy hun, a faint o bobl sydd wedi elwa.”

Meddai Jackie O’Sullivan, Cyfarwyddwr Achosion Da y Loteri Genedlaethol:

“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi swm enfawr o £1.6 biliwn i  ariannu prosiectau o Fôn i Fynwy. Nod ymgyrch ‘Diolch Cymru’ yw diolch i chwaraewyr y loteri – fyddai dim o hyn yn bosib hebddyn nhw. Rydym am i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn ymwybodol o’r miloedd o brosiectau rhagorol ar hyd a lled Cymru na fyddai wedi gweld golau dydd heb eu harian nhw.”

Mae Canolfan Gerdd William Mathias, a sefydlwyd ym 1999, wedi ymgartrefu yn Galeri Caernarfon. Mae’n cynnig gwersi cerdd unigol o lefel dechreuwyr i broffesiynol. Ar hyn o bryd, mae dros 350 o fyfyrwyr rhwng 5 ac 80+ oed yn mynychu gwersi unigol yn gyson sy’n cael eu darparu gan dîm o ddeugain o diwtoriaid yn y Ganolfan yng Nghaernarfon ac yng nghangen Dinbych hefyd.

Mae’r Ganolfan yn darparu cyfleoedd cerdd eraill hefyd gan gynnwys:

  • ‘Camau Cerdd’ ar gyfer plant hyd at 7 oed
    • ‘Doniau Cudd’ ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau dysgu
    • Côr ac ensemble siambr i bobl ifanc
    • Côr oedolion yn ystod y dydd
    • Dosbarthiadau theori a chyfansoddi • Cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth amrywiol
    • Gweithdai a dosbarthiadau meistr gan gerddorion blaenllaw • Sesiynau mewn cartrefi henoed

    Bydd y grant o gymorth i adnewyddu a gwella stoc o offerynnau cerdd a chyfarpar cysylltiedig (megis stolion) y Ganolfan yn ogystal â phrynu gliniadur ar gyfer golygu fideos a dibenion eraill.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...