Grŵp Telyn Newydd: ‘Telynau Clwyd’ i ffurfio yn Ninbych

Cyhoeddwyd: 5 Awst, 2015

Cynhaliodd cangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias ddiwrnod agored ym mis Gorffennaf 2015. Un o’r gweithgareddau a gynhaliwyd ar y diwrnod oedd grŵp telyn er mwyn asesu’r diddordeb mewn ffurfio grŵp telynau a fyddai’n cyfarfod ar sail reolaidd yn yr ardal.

Y telynorion adnabyddus Morwen Blythin a Dylan Cernyw fu’n arwain y grŵp, ac fe gafwyd ymateb da iawn i’r syniad o ffurfio grŵp telyn a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd.

Roedd Morwen a Dylan wrth eu boddau gyda’r cynnydd sylweddol a wnaeth y grŵp yn ystod y sesiwn gan iddynt fedru dysgu dau ddarn newydd ac yna rhoi perfformiad anffurfiol i’r rhieni ar y diwedd.

Dywedodd Morwen Blythin:

Mae dysgu ac yna perfformio dau ddarn o’r newydd yn dipyn o gamp gan feddwl mai dyma’r tro cyntaf i’r grŵp gyfarfod! Rydw i a Dylan wrth ein boddau bod Canolfan Gerdd William Mathias am gychwyn y grŵp Telynau Clwyd nawr ar sail barhaol.

Yn dilyn y llwyddiant hwn, bydd y grŵp telyn yn cyfarfod ar sail reolaidd, gan gyfarfod unwaith y mis yn Ninbych.

Mae Telynau Clwyd nawr yn gwahodd rhagor o aelodau i ymuno â’r grŵp. Cysylltwch â’r Ganolfan er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn ymuno.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu gwersi cerdd o’r safon uchaf yn ei changen yn Ninbych, ynghyd â’i phrif gangen yng Nghaernarfon.

Mae’r Gangen wedi bodoli yn Ninbych ers 2012, a bellach yn cynnig gwersi cerdd gyda thiwtoriaid profiadol, ynghyd â phrosiectau arloesol Camau Cerdd sy’n cyflwyno plant chwe mis i saith mlwydd o oed i gerddoriaeth, a phrosiect Doniau Cudd sy’n cynnig sesiynau cerdd i bobl ag anableddau dysgu, ynghyd â phrosiectau eraill yn y gymuned.

Nod Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych yw efelychu’r llwyddiant a welwyd yn ei phrif ganolfan yng Nghaernarfon sydd erbyn hyn yn darparu gwersi cerdd wythnosol i dros 400 o bobl o bob oed gyda dros 45 o diwtoriaid profiadol.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...