Y seren jazz leol Gwilym Simcock yn dychwelyd i chwarae mewn gŵyl biano yng ngogledd Cymru

Cyhoeddwyd: 2 Hydref, 2025

Bydd pianydd o fri rhyngwladol a fagwyd ger Caernarfon yn dychwelyd i’w wreiddiau yr hydref hwn – gyda sioe unigol mewn gŵyl gerddoriaeth nodedig.

Bydd Gwilym Simcock, a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Mhontllyfni, yn camu ar  y llwyfan yng Ngwyl Biano Ryngwladol Cymru a gynhelir yn Galeri Caernarfon o ddydd Iau, 16 Hydref i ddydd Llun, 20 Hydref.

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu unwaith eto gan Ganolfan Gerdd William Mathias, wedi sefydlu ei hun fel un o uchafbwyntiau y calendr diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd y cerddor arobryn, sy’n enwog am ei gyfuniad llyfn o jazz a cherddoriaeth glasurol, yn cyflwyno perfformiad unigol a phersonol a fydd yn sicr o gof yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl

Mae’r cyngerdd ar nos Sadwrn, 18 Hydref, yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Celf a Chymuned Pendine a sefydlwyd gan Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, perchnogion sefydliad gofal Parc Pendine.

Dywedodd Mario: “Mae Gwilym yn un o dalentau mawr ei genhedlaeth ac mae’r gynulleidfa yn mynd i gael gwledd gerddorol felly roeddem yn falch iawn o allu cefnogi’r cyngerdd hwn.

“O’n safbwynt ni mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â’n hethos. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw’r celfyddydau yn ei holl ffurfiau i’n bywydau.

“Mae cerddoriaeth yr un mor bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn gofal cymdeithasol ag ydyw i bobl hen ac ifanc yn y gymdeithas ehangach.”

Mae Gwilym, 44 oed, wedi torri’n ôl ar deithio ers dechrau teulu, sy’n gwneud y cyngerdd yng Nghaernarfon yn ddigwyddiad arbennig iawn i ddilynwyr cerddoriaeth.

Dywedodd: “Dim ond llond llaw o gyngherddau unigol rydw i’n eu gwneud bob blwyddyn ac rydw i wedi torri’n ôl ar deithio nawr bod gen i deulu felly bydd yna ffresni i’m chwarae.

“Rwy’n edrych ymlaen at greu rhaglen yn arbennig ar gyfer y lleoliad hwn. Bydd yn cynnwys rhai o fy nghyfansoddiadau fy hun yn ogystal â darnau o’r ‘Great American Songbook’ a rhywfaint o gerddoriaeth glasurol.

“Rydw i eisiau cael profiad emosiynol pan fyddaf yn gwrando ar gerddoriaeth ac felly byddaf yn chwarae’r gerddoriaeth yr hoffwn wrando arno fy hun,” meddai.

Ychwanegodd fod cyngherddau unigol yn arbennig o bleserus oherwydd nad yw’n cael ei gyfyngu gan gerddorion eraill.

“Mewn cyngerdd unigol gallaf fynegi fy hun a chwarae mewn arddull byrfyfyr.

“Mae byrfyfyr yn rhan ganolog o jazz, ond mewn triawd neu bedwarawd efallai nad yw hynny’n bosibl bob tro,” meddai.

Dywedodd Gwilym fod ei ddylanwadau yn eang, o bianyddion chwedlonol jazz fel Keith Jarrett a Chick Corea i gyfansoddwyr clasurol gan gynnwys Maurice Ravel a Béla Bartók.

Er ei fod yn bianydd jazz yn bennaf, mae Gwilym wedi cyfansoddi nifer o weithiau ar gyfer ensembles mwy clasurol, gan greu sain sy’n unigryw a gwreiddiol. Mae’n Athro Piano Jazz yn yr Academi Gerdd Frenhinol.

Roedd dawn Gwilym fel cerddor yn amlwg o oed ifanc.

Yn un ar ddeg oed enillodd y marciau uchaf mewn arholiadau ar y piano a’r corn Ffrengig.

Astudiodd offerynnau a chyfansoddi yn Ysgol Gerdd Chetham, Manceinion, ac yn ddiweddarach astudiodd biano jazz yn Academi Gerdd Frenhinol, Llundain a graddiodd ar ôl ennill “Gwobr y Prifathro” am gyflawniad rhagorol.

Ers hynny mae Gwilym wedi meithrin gyrfa i’w hun fel un o’r pianyddion a’r cyfansoddwyr mwyaf dychmygus yn Ewrop.

Mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd, corau, bandiau mawr, dawnswyr a theithio gyda’r feiolinydd enwog Nigel Kennedy.

Gwilym oedd Artist Cenhedlaeth Newydd cyntaf y BBC o gefndir Jazz, a chyrhaeddodd ei albwm ‘Good Days at Schloss Elmau’ restr fer gwobr fawreddog Mercury yn 2011.

Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru: “Mae Gwilym Simcock yn un o bianyddion mwyaf arbennig ac amlbwrpas ei genhedlaeth, gan gyfuno byd jazz a byd cerddoriaeth glasurol yn ddiymdrech gyda’i gyffyrddiad mynegiannol a’i ysbryd dyfeisgar.

“Mae ei gyngerdd yn addo bod yn noson gyfareddol o ddisgleirdeb cerddorol ac mae’n siŵr o fod yn uchafbwynt cofiadwy i’r gynulleidfa.”

Yn ôl y pianydd o Ynys Môn, mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyngherddau gan ddechrau gyda Chyngerdd Cerddoriaeth Siambr Ffrengig yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor ar ddydd Iau 16 Hydref.

Yn perfformio ar y llwyfan bryd hynny bydd y soprano Erin Gwyn Rossington, y sielydd Rosie Biss a’r feiolinydd Sara Trickey gydag Iwan Llewelyn-Jones ei hun ar y piano.

“Bydd y cyngerdd yn talu teyrnged i bedwar o gyfansoddwyr mwyaf arbennig Ffrainc, gan gynnwys Maurice Ravel, cyfansoddwr Bolero a Gabriel Fauré a gyfansoddodd rhai o darnau cerddoriaeth siambr gorau erioed ar gyfer y piano. Byddwn hefyd yn cynnwys detholiad o ganeuon gan Cécile Chaminade a Lily Boulanger.”

Y noson ganlynol, ddydd Gwener, Hydref 17 yn Galeri Caernarfon bydd gwaith comisiwn yr ŵyl a phrosiect addysg, Madam Wen, yn cael ei berfformio.

Wedi’i sgriptio a’i adrodd gan Manon Wyn Williams a’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan Guto Pryderi Puw, mae’r prosiect yn coffáu’r nofel Madam Wen a ysgrifennwyd gan William David Owen.

Ychwanegodd Iwan: “Cyn y cyngerdd bydd yr artist adnabyddus Catrin Williams, ynghyd â thiwtor offerynnau taro Canolfan Gerdd William Mathias, Dewi Ellis Jones, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Bodedern i gynnal cyfres o weithdai celf lle bydd y plant yn creu offerynnau ac yn archwilio a dewis synau sy’n adleisio’r stori.

Cyhoeddwyd Madam Wen ar ffurf llyfr yn 1925 ond ymddangosodd gyntaf fel cyfres ym mhapur newydd y Genedl Gymraeg yn 1914.

Mae’r nofel yn adrodd stori arwres o Ynys Môn, nid annhebyg i gymeriad Robin Hood.

Nid yw’r cefndir yn glir ond dywedir ei fod yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol go iawn a oedd yn byw ar Ynys Môn ar ddiwedd y 19eg ganrif. Bu farw W.D. Owen bythefnos ar ôl i’r nofel gael ei chyhoeddi.

Mae’r cyngerdd yn cynnwys Côr Ysgol Gynradd Bodedern, gyda Dewi Elis Jones ar yr offerynnau taro, y pianyddion Elain Rhys Jones ac Angharad Wyn Jones a’r soprano Glesni Rhys Jones.

Mae rhagor o fanylion am yr ŵyl a sut i brynu tocynnau ar gael ar-lein yn https://www.pianofestival.co.uk/cy/

Erthyglau Eraill

Hysbyseb Swydd: Derbynnydd

Hysbyseb Swydd: Derbynnydd

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd rhan amser ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolyn i weithio...