Gitarau@Galeri – 22-24 Mai 2015
Bydd yr unawdydd gitâr enwog Gary Ryan yn ymuno â thîm o gitarwyr profiadol i hyfforddi a pherfformio yn nigwyddiad Gitarau@Galeri y mis hwn yng Nghaernarfon. Bydd Canolfan Gerdd William Mathias unwaith eto yn cynnal digwyddiad hyfforddi cerddorol yn Galeri, y gofod celfyddydol a pherfformio yng nghalon y dref hanesyddol.
Mae Gitarau@Galeri yn benwythnos o hyfforddiant, perfformiadau a gweithdai gan dîm o diwtoriaid rhagorol sydd wedi ei hanelu yn benodol at gitarwyr acwstig, trydanol a bas. Bydd dysgwyr o bob oedran a gallu yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai bach mix’n’match gan ddysgu am amrywiaeth o destunau a genres cerddorol. Mae’r elfennau o diwtoriaeth yn addas ar gyfer oedolion a gitarwyr ifanc dros 15 mlwydd oed ac nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr.
Mae’r ŵyl yn cychwyn gyda digwyddiad meic agored ar nos Wener lle mae pob perfformiwr ac arddull yn cael eu croesawu.
Bydd gweithgareddau’r dydd Sadwrn yn cychwyn gyda perfformiad byr ac anffurfiol gan bedwar prif diwtor y cwrs, a bydd y diwrnod yn dod i ben gyda phrif gyngerdd yr ŵyl gyda pherfformiad gan Gary Ryan.
Ynghyd â chyfansoddiadau ei hun, bydd Gary yn chwarae cerddoriaeth gan Praetorius, Dowland, Bach, Dyens, Brouwer, a threfniannau o Gerddoriaeth Werin Geltaidd gan David Russell. Bydd y cyngerdd yn cychwyn gyda pherfformiad byr gan ‘Fragile Egosystem’ Neil Browning yn cynnwys gitâr atsain, wedi ei ddilyn gan doriad byr.
Bydd cyfleoedd ar gyfer sesiynau jamio drwy gydol y penwythnos hefyd!
Mae amser i gymryd rhan yn y digwyddiad yn dal i fod – cysylltwch â Chanolfan Gerdd William Mathias am y manylion. Cysylltwch â Swyddfa Docynnau Galeri am docynnau ar gyfer y perfformiad gyda’r nos.