Prosiect Cymru-Wcráin: Cerddoriaeth, Diwylliant a Thraddodiadau

Rydym wedi cychwyn ar daith anhygoel sy’n uno dau fyd diwylliannol cyfoethog – Cymru ac Wcráin.

Cyfres o weithdai rhyngweithiol a gychwynodd yn 2024 yw ein prosiect, lle mae pawb yn gallu llwyr ymgolli yn awyrgylch y ddau ddiwylliant gwahanol.

Rydym yn cynnig taith o ddarganfyddiad diwylliannol gwirioneddol.

Ym mhob gweithdy, byddwch yn:

    •  dysgu geiriau a brawddegau newydd yn y ddwy iaith;
    • dod i adnabod offerynnau traddodiadol a’u sain unigryw;
    • mwynhau canu corawl a darnau cerddorol arbennig;
    • meistrioli symudiadau yn nawnsfeydd cenedlaethol – yr hopak Wcreineg, a chlocsio Cymreig;
    • archwilio traddodiadau diwylliannol hudolus a gwyliau y ddwy wlad;
    • a hyd yn oed yn creu eich caneuon eich hun.

 

Hyn i gyd, mewn ffurf ryngweithiol gyda cherddoriaeth, fideos, barddoniaeth, darluniau, a thudalennau lliwio.

Mae pob gweithdy yn gorffen â chwis cyffrous lle gallwch brofi eich gwybodaeth.

Wrth gwrs, byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i’r cyngerdd sy’n cael ei drefnu ar ddiwedd pob cyfres o weithdai.

Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o’r profiad diwylliannol lliwgar hwn.

Ymunwch â ni a darganfyddwch orwelion newydd!