Cyngerdd Lansio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru

Cyhoeddwyd: 16 Tachwedd, 2015

Roedd Theatr Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau cerddoriaeth y piano o bedwar ban byd brynhawn Sul yr 8fed o Dachwedd. Er gwaetha’r tywydd garw, prin iawn oedd y seddau gwag a’r gynulleidfa frwdfrydig – oedd yn amrywio o 4 mis i 80+ mewn oedran  – wedi cael gwledd gerddorol i lansio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016.

Fe berfformiodd dim llai na deuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias raglen o ddeuawdau a thriawdau o’r repertoire clasurol, jazz a phoblogaidd gyda delweddau i gyd-fynd efo’r gerddoriaeth. Ar ôl y cyngerdd fe fwynhaodd y gynulleidfa baned a darn o gacen a wnaethpwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Enlli Vaughan o Langernyw.  

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Iwan Llewelyn-Jones ragflas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn yr Ŵyl yn 2016. Bydd y rhaglen yn cynnwys  datganiad gan y pianydd byd-enwog Peter Donohoe, noson yn cynnwys y gorau o gerddoriaeth a cherddorion Cymru, a chyngerdd gala ‘Ffiesta’ i’r teulu oll. Gyda chystadlaethau, dosbarthiadau a chyngherddau anffurfiol mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn addo i fod yn bedwar diwrnod bythgofiadwy

Yn ystod y gyngerdd cafwyd lansiad swyddogol menter codi arian yr Ŵyl – Noddi Nodyn – cyfle arbennig i unigolion a busnesau gyfrannu tuag at yr Ŵyl drwy noddi unrhyw nodyn ar y piano am £50.

Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts:

Roedd o’n deimlad ffantastig gweld ein tiwtoriaid piano yn dod at ei gilydd i rannu llwyfan. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt ac i Gyfarwyddwr yr Ŵyl Iwan Llewelyn-Jones am eu gwaith caled. Rydym hefyd yn estyn ein gwerthfawrogiad i Ian Jones (Pianos Cymru) am gefnogi’r cyngerdd. Yn gryno, roedd yr achlysur yn llwyddiant ysgubol!

Bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn cael ei chynnal rhwng Dydd Gwener 29ain o Ebrill a Dydd Llun yr 2il o Fai 2016 yn Galeri Caernarfon.

Erthyglau Eraill

Llwyddiannau Eisteddfod yr Urdd 2025

Llwyddiannau Eisteddfod yr Urdd 2025

Llongyfarchiadau i bawb oedd yn cystadlu lawr yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025. Rydym yn hynod falch o'r unigolion sydd yn derbyn eu hyfforddiant yng Nghanolfan Gerdd William Mathias a'r tiwtoriaid sydd yn eu hyfforddi. Alaw Werin bl 6 a Iau Mali Fflur Barker -...

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl Biano 2025 nawr ar agor!

Cofrestru ar gyfer cystadlaethau Gŵyl Biano 2025 nawr ar agor!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer Cystadlaethau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2025 nawr ar agor! Yn digwydd yn Galeri Caernarfon ym mis Hydref eleni, mae’r cystadlaethau’n rhan bwysig o’r ŵyl ac yn cynnig llwyfan cyffrous i bianyddion arddangos eu talent....

Hysbyseb Swydd: Derbynnydd

Hysbyseb Swydd: Derbynnydd

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd rhan amser ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon. Am ragor o fanylion gweler y Swydd Ddisgrifiad....