Bydd sioe gerdd newydd feiddgar yn seiliedig ar un o nofelau antur mwyaf gafaelgar Cymru yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf mewn gŵyl nodedig.
Mae Madam Wen, stori am smyglwyr, lleidr pen-ffordd a merch ddewr, wedi’i hail-ddychmygu ar gyfer y llwyfan gan y sgriptiwr Manon Wyn Williams a’i gosod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Guto Pryderi Puw.
Bydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Biano Ryngwladol Cymru sy’n cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon rhwng 16-20 Hydref.
Bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Bodedern ar Ynys Môn yn ymuno â chast proffesiynol Madam Wen ar nos Wener, Hydref 17, gan berfformio ochr yn ochr â’r soprano Glesni Rhys Jones, y pianyddion Elain Rhys Jones ac Angharad Wyn Jones, a’r offerynnwr taro Dewi Ellis Jones.
Dywedodd Manon Wyn Williams ei bod wedi ei swyno gan arwres y nofel, Einir Wyn, sy’n byw bywyd dwbl fel gwraig barchus uchel mewn cymdeithas ac arweinydd criw o smyglwyr.
Yn ganolog i’r sioe y mae stori garu rhyngddi hi a Morys Williams, sgweier gonest o Ynys Môn, nad yw’n ymwybodol o’i hanturiaethau anghyfreithlon fel Herwr.
Dywedir iddi ddefnyddio cuddfan mewn ogof yn Llanfair-yn-Neubwll, sydd heddiw dafliad carreg o ganolfan yr Awyrlu yn y Fali.
Meddai Manon Wyn Williams: “Mae’n ymddangos bod Madam Wen sef Einir Wyn wedi cael ei hysbrydoli gan wraig go iawn o’r ardal, Margaret Williams.
“Roedd sôn ei bod hi’n arweinydd criw o smyglwyr yn yr un ardal er nad oedd hi’n rhannu’r un egwyddorion â’r cymeriad ffuglennol a oedd yn dwyn oddi wrth y cyfoethog ac yn rhoi i’r tlawd.
“Rwyf wedi addasu’r nofel yn bum adran fer y byddaf yn eu hadrodd yn ystod y perfformiad gyda cherddoriaeth ar gyfer piano, lleisiau, ac offerynnau taro wedi’u cyfansoddi gan Guto.
“Wedi’i gymysgu â’r gair llafar bydd darnau ar gyfer deuawd piano a chaneuon yn cael eu perfformio gan y soprano, Glesni Rhys, a phlant Ysgol Gynradd Bodedern.”
Ymddangosodd Madam Wen am y tro cyntaf fel stori gyfres ym mhapur newydd Y Genedl Gymraeg yn ystod 1914 ond ni chafodd ei chyhoeddi fel nofel tan 1925.
Yn drist, bu farw yr awdur W.D. Owen, cyfreithiwr o Ynys Môn, bythefnos yn ddiweddarach o twbercwlosis.
Dywedodd adolygiad yn y Liverpool Daily Post: “Mae Mr Owen yn rhoi deunydd da i ni, yn y byd cymylog hwn, diolch iddo. Dyma’r math o lyfr Cymraeg rydyn ni ei eisiau: stori gyffrous sy’n mynnu bod yn wir.”
Mae perfformiad cyntaf y sioe gerdd newydd yn nodi canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel a marwolaeth yr awdur.
Ychwanegodd y cyfansoddwr Guto Pryderi Puw, Darllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, elfen unigryw i’r perfformiad.
Dywedodd: “Bydd y ddeuawd piano yn cael ei pherfformio ar un piano sydd ychydig yn wahanol a bydd y plant hefyd yn perfformio darn dan arweiniad yr offerynnwr taro Dewi Ellis Jones ar offerynnau maen nhw wedi’u creu eu hunain o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu o dan arweiniad y dylunydd creadigol a’r artist Catrin Williams.
Yn ôl Puw, nid oedd wedi darllen y nofel tan yn gynharach eleni ond roedd yn ymwybodol o’r stori oherwydd bod ffilm wedi cael ei gwneud gan S4C ar ddechrau’r 1980au.
“Rwy’n cofio ychydig o’r ffilm ond wnes i ddim ei gwylio eto gan nad oeddwn i eisiau cael fy nylanwadu gan ei sgôr gerddoriaeth, a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr adnabyddus Gareth Glyn,” meddai.
Ymwelodd Puw a Manon Williams â’r bobl ifanc yn Ysgol Bodedern i drafod y stori gyda nhw ac yn ddiweddarach ceisiodd ddod o hyd i ogof Madam Wen.
“Mae’r ardal o amgylch Llyn Traffwll yn eithaf corsiog ac yn llawn tyfiant gwyllt ac ar ôl peth amser yn chwilio wnaethon ni ddim llwyddo i ddod o hyd i’r ogof a bu’n rhaid i ni rhoi’r gorau iddi, felly gallwn gydymdeimlo’n llwyr â’r milwyr a gafodd y dasg o ddod o hyd a dal Madam Wen,” meddai.
Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, fod y cyngerdd yn rhan o ddiwrnod cymunedol yr Ŵyl sy’n rhoi pwyslais ar ddod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i greu cerddoriaeth.
“Mae’n ddarn comisiwn yr Ŵyl eleni ac mae’n coffáu nid yn unig canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel ond hefyd canmlwyddiant marwolaeth yr awdur.
“Mae’n bwysig bod pobl yn dathlu eu hardal leol, ac mae W D Owen a Madam Wen yn arbennig iawn i Ynys Môn,” meddai.
Mae’r ŵyl, a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei chynnal dros bum niwrnod. Yn ogystal â gweithdai, dosbarthiadau meistr a darlithoedd, mae dau gyngerdd arall wedi’u cynllunio yn ogystal â Madam Wen.
Bydd y cyngerdd cyntaf, yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor ar Hydref 16, yn tynnu sylw at gerddoriaeth siambr Ffrengig. Bydd yn cynnwys y soprano Erin Gwyn Rossington, y sielydd Rosie Biss a’r feiolinydd Sara Trickey gydag Iwan Llewelyn-Jones ar y piano.
Bydd y pianydd jazz Gwilym Simcock yn perfformio yn Galeri Caernarfon ar y nos Sadwrn.
Mae tair cystadleuaeth hefyd gydag adrannau ar gyfer pianyddion dan 18 a thros 18 ond o dan 26 oed a gwobr cyfeilyddion sy’n agored i bob oedran.
Mae llwyfannu’r ŵyl wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth noddwyr ariannol, gan gynnwys Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Tŷ Cerdd, Ymddiriedolaeth Colwinston, Sefydliad Vaughan Williams, Sefydliad Foyle, Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones, sefydliad gofal Parc Pendine drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine a nifer o noddwyr unigol a busnes yn ogystal â’r cyllid refeniw blynyddol y mae Canolfan Gerdd William Mathias yn ei dderbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at gostau craidd.
Mae rhagor o fanylion am yr ŵyl ar-lein yn www.pianofestival.co.uk Mae tocynnau ar gael ar wefan Galeri Caernarfon www.galericaernarfon.com neu’r Swyddfa Docynnau ar 01286 685222.