Sgwrs a Chân
Prosiect sy’n rhedeg ers 2016 mewn partneriaeth gyda Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yw Sgwrs a Chân. Cyfle i oedolion ddod ynghyd i gymdeithasu a chanu dros baned neu i eistedd nol a mwynhau gwrando ar y canu.
Ers sefydlu y prosiect rydym wedi cynnal sesiynau yn y gymuned ym mewn pentrefi a threfi ar draws Gwynedd. Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau ym mhrosiectau fflatiau gofal ychwanegol Grwp Cynefin yn y Bala, Tremadog, Dolgellau a Phorthmadog ac yn Porthi Dre, Caernarfon a Chlwb y Dyffryn, Bethesda.
Sesiynau Medi 2024-Pasg 2025
Canolfan Fenter Cong Meinciau, Botwnnog
2-3pm Prynhawniau Mercher
Medi 18, Hydref 2,9,16, 23
Tachwedd 6, 13, 20, 27, Rhagfyr 4
Dyddiadau 2025 i’w cadarnhau
Croeso i bawb – ddim angen archebu lle o flaen llaw.
Porthi Dre
1.30-2.30pm
Dyddiau Llun
16/9/24, 14/10/24, 18/11/24, 16/12/24, 13/1/25
Cysylltwch efo Porthi Dre am fanylion llawn ac i archebu lle – 01286 532222
Bydd sesiynau misol hefyd yn mhrosiectau fflatiau gofal ychwanegol Grwp Cynefin yn y Bala, Dolgellau, Tremadog a Phorthmadog ac yng Nghlwb y Dyffryn, Bethsda.