Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru.
Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn Ninbych, yn fab i’r Parch T.G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid, a’i athrawes gyntaf oedd Alwena Roberts (Telynores Iâl). Fel plentyn, bu’n canu penillion a chaneuon gwerin mewn cyngherddau yng Nghymru gyda’i fam ac aelodau eraill o’i deulu.
Yn dilyn cyfnod yn astudio’r delyn gyda Gwendolen Mason yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, olynodd ei athrawes fel Athro’r delyn yn y sefydliad hwnnw 0 1959 i 1989. Yn gynnar yn ei yrfa, ymddangosodd mewn rhaglenni teledu poblogaidd ar y BBC yng Nghymru, a rhoddodd nifer o berfformiadau o farddoniaeth a cherddoriaeth gydag actorion megis Dame Peggy Aschcroft, Dame Sybil Thorndyke, Cecil Day-Lewis, Hugh Griffith a Richard Burton.
Fel telynor gorau ac amlycaf ei gyfnod, fel athro telyn, cyfansoddwr, trefnydd, canwr penillion ac ysgolhaig, cyfrannodd yn helaeth i fyd cerddoriaeth werin y genedl yn ogystal â cherddoriaeth glasurol Ewropeaidd ei ddydd. Trwy gyfrwng recordiadau gyda chwmni Sain, Philips, Lyrita, Meridian a Decca, llwyddodd i ddwyn sylw i repertoire amrywiol y delyn, gan gynnwys cyfansoddiadau y 18fed, y 19eg a’r 20fed ganrif o Gymru. Teithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa, a hyrwyddodd y delyn a cherddoriaeth ei fam-wlad ym mhellafoedd byd.
Osian Ellis oedd Prif Delynor y London Symphony Orchestra o 1961 ymlaen, a gweithiodd gydag arweinyddion mawr y cyfnod megis Pierre Monteux, Pierre Boulez, Colin Davis, Antal Dorati, André Previn a Claudio Abbado. Bu’n unawdydd cyson gyda’r gerddorfa honno ac, fel telynor gwreiddiol y grŵp siambr Melos Ensemble, enillodd ei recordiad o’r Introduction et Allegro gan Ravel y Grand Prix du Disque ym Mharis yn 1962.
O ddechrau’r 60’au bu cydweithio dygn ac arwyddocaol rhyngddo ef a’r cyfansoddwr mawr Seisnig, Benjamin Britten, a chwaraeodd Osian mewn llawer perfformiad a recordiad yng Ngŵyl Britten yn Aldeburgh. Bu’r cyswllt a’r cydweithio parod hwn yn gyfrwng i’r delyn ennill ei lle yng ngweithiau Britten – gweithiau fel y War Requiem (1962), Midsummer Night’s Dream, Curlew River (1964), The Prodigal Son (1968) a’r gwaith pwysig i’r delyn – Suite for Harp(1969).
O 1973 – 1980 wedi salwch Benjamin Britten, cynhaliodd Osian Ellis lawer o gyngherddau gyda Peter Pears, ac ysgrifennodd sawl gwaith newydd ar eu cyfer. Yn ddiweddarach, ffurfiodd ddeuawd gyda’i fab, y diweddar Tomos Ellis (tenor), gan roi llawer perfformiad yng Nghymru a thramor.
Anogodd Osian Ellis nifer o gyfansoddwyr cyfoes o Gymru a thu hwnt i lunio gweithiau newydd ar gyfer y delyn – gan gynnwys William Mathias, Alun Hoddinott, Rhian Samuel, David Wynne, Malcolm Arnold, Robin Holloway, Elizabeth Machonchy, William Alwyn, Carlo Menotti a Jorgen Jersild.
Fel ysgolhaig, ymddangosodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfrolau ac erthyglau o sylwedd ar hanes y delyn yng Nghymru, Llawysgrif Robert ap Huw, John Parry ‘Ddall’ (Rhiwabon) a Cherdd Dant. Cyhoeddwyd ei The Story of the Harp in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru a chymerodd ran mewn myrdd o raglenni teledu a radio yng Nghymru a Llundain.
Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.
Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, deffrodd yr awen, a chyfansoddodd ddau waith newydd : ‘Cylch o Alawon Gwerin Cymru’ (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn ‘Lachrymae’.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i fab, Richard Llywarch, ei ferch-yng-nghyfraith Glynis, a’i wyrion, David a Katie, yn eu profedigaeth.