Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Telynau Clwyd ar ddydd Sul y 4ydd o Hydref yn adeilad Hwb Dinbych, gan groesawu telynorion ar draws Ogledd Cymru i’r sesiwn, ac hynny yn dilyn sesiwn blasu rhagarweiniol gynhaliwyd ym mis Gorffennaf er mwyn asesu’r galw am weithgaredd o’i fath yn ardal Ddinbych.
Y telynorion adnabyddus Morwen Blythin a Dylan Cernyw fydd a arweiniodd y côr telyn newydd a hynny dan adain Canolfan Gerdd William Mathias sydd wedi bod yn darparu gwersi cerdd yn Ninbych ers 2012 pan agorwyd ei gangen yn y dref.
Mae sefydlu Côr Telynau yn ardal Dinbych wedi bod yn freuddwyd i Morwen Blythin ers peth tro.
‘Rwy’n meddwl ein bod ni gyd fel tiwtoriaid telyn yn yr ardal wedi bod yn gobeithio i weld côr telyn megis Telynau Clwyd am nifer o flynyddoedd. Rwyf wrth fy modd o gael bod yn rhan o’r grŵp newydd a chyffrous hwn’, eglura Morwen sydd hefyd yn dysgu’r delyn yn Ninbych fel un o diwtoriaid Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae’r Ganolfan Gerdd yn ddiolchgar tu hwnt i gwmni rhentu telynau – Telynau Tandderwen sydd wedi cytuno i gefnogi’r grŵp newydd yn ystod y misoedd cyntaf.
Dywedodd Hefina Williams ar ran gwmni Telynau Tandderwen:
‘Braf oedd clywed fod Canolfan Gerdd William Mathias yn ehangu eu darpariaeth o addysg gerddorol yn yr ardal drwy gyfrwng Côr Telynau Clwyd. Rwyf yn ymfalchïo mewn darparu cefnogaeth i’r grŵp newydd hwn ac yn dymuno’r gorau i’r prosiect’.
Daeth 12 o delynorion i’r sesiwn gyntaf gan ddysgu 2 darn newydd. Roedd Dylan Cernyw wrth ei fodd gyda’r cynnydd a welodd gyda’r grŵp. Dywedodd:
‘I feddwl mai dyma cyfarfod cyntaf y grŵp mae nhw wedi gwneud cynnydd ardderchog. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at gyfarfod nesaf Telynau Clwyd ac i barhau â’r dysgu’.
I blant ysgol uwchradd safon gradd 3 ac uwch gan fwyaf fydd y prosiect yn ei dargedu i gychwyn. Ond mae’r Ganolfan yn dymuno i unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu er mwyn dod i ddeall y galw am weithgareddau cerdd eraill.