Mae newid i ddosbarthiadau ar-lein oherwydd argyfwng Covid-19 wedi galluogi canolfan gerddoriaeth nodedig yng ngogledd Cymru i ddarparu gwersi ledled y byd.
Ymhlith y tiwtoriaid yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun, y mae’r delynores o fri Elinor Bennett sydd bellach yn dysgu un o’i phrotégés ifanc 7,500 milltir i ffwrdd yng ngwladfa Gymreig Patagonia yn yr Ariannin.
Mae’r tiwtora o bell trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwireddu breuddwyd i’r delynores ddawnus Helen Green sydd wrth ei bodd yn cael gwersi gan ei heilun cerddorol.
Mae’r Ganolfan Gerdd wedi llwyddo i barhau i gynnal 65 y cant o’i gwersi un i un ers i’r pandemig coronafeirws daro.
O fewn wythnos i gychwyn y cyfnod clo ym mis Mawrth, symudodd y Ganolfan ei gwersi ar-lein – rhywbeth a oedd hefyd yn caniatáu iddi ymestyn ei gweithgareddau ymhell y tu hwnt i’w hardal draddodiadol.
Erbyn hyn mae rhai gwersi wyneb yn wyneb wedi ailddechrau ond datgelodd cyfarwyddwr y Ganolfan, Meinir Llwyd Roberts, fod y gwersi rhithwir yma i aros i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu gwersi yn bersonol.
Roedd hynny’n fiwsig i glustiau Helen, 15 oed, a ddywedodd: “Rwy’n teimlo mor ffodus bod gennym y dechnoleg i wneud hyn. Mae cael Elinor fel fy mentor yn fraint go iawn, ac yn gyfle i ddysgu cymaint. Dyma’r peth ail orau i’w chael hi yn yr ystafell gyda mi. Mae hi’n athrawes eithriadol, yn delynores anhygoel.”
Mae’r cysylltiad traws-Iwerydd yn un o lwyddiannau rhyfeddol y Ganolfan sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod gwersi cerdd yn parhau i fod ar gael a chadw ei hathrawon mewn gwaith trwy’r pandemig.
Mae’r gwersi byw yn digwydd ar-lein trwy gyfrwng platfform cyfathrebu fideo Zoom.
Dywedodd Elinor ei bod hi’n edrych ymlaen yn fawr at y gwersi bob pythefnos gyda Helen ac yn mwynhau dal i fyny â’r newyddion o ‘Batagonia hyfryd’, gan iddi fod yno ar ymweliad deirgwaith.
Meddai: “Mae gwyrthiau technoleg fodern wedi bod yn hynod fuddiol yn ystod y cyfnod anodd hwn i gerddorion ledled y byd.
“Er gwaethaf yr anawsterau rydym wedi ffurfio cyswllt cyffrous y mae Helen a minnau yn edrych ymlaen ato bob pythefnos.
“Mae’n cymryd tipyn o waith paratoi ar y ddwy ochr i wneud iddo weithio, ac mae’n rhaid i ni ystyried y gwahaniaeth amser tair awr ond hyd yma mae’r gwersi wedi mynd yn rhyfeddol o dda.”
Mae gan Elinor OBE ac mae wedi perfformio gyda Cherddorfa Siambr Lloegr, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa’r Philharmonia, yn ogystal â rhoi datganiadau rheolaidd ar radio a theledu’r BBC. Mae ei chyn-fyfyrwyr yn cynnwys Catrin Finch, sydd bellach yn gerddor clasurol enwog ac a fu’n delynores swyddogol i’r Tywysog Charles rhwng 2000-2004.
Dywedodd Elinor na fyddai’n gallu mentora Helen mor hwylus heb gymorth Canolfan Gerdd William Mathias, canolfan y mae hi wedi ei chefnogi ers blynyddoedd lawer.
Sefydlwyd Canolfan Gerdd William Mathias yn 1999 er mwyn gwella mynediad i wersi offerynnol a chanu ar gyfer cymuned gogledd Cymru a darparu ffynhonnell o waith rheolaidd i athrawon cerdd hunangyflogedig.
Mae’n cwmpasu 42 o diwtoriaid sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain ac sy’n cynnig hyfforddiant unigol a grŵp i fwy na 500 o bobl yn wythnosol, yn amrywio o blant oed cyn-ysgol i bobl hŷn o oed pensiwn.
Mae’r rhain fel arfer yn weithgareddau wyneb yn wyneb yn Galeri Caernarfon, neu ganolfannau lloeren yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, a Chapel Tabernacl, Rhuthun ac yn y gymuned ehangach.
Gohiriwyd gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ystod cyfnod clo’r haf a chyfnod clo dros dro diweddar Cymru. Ond gyda chymorth cyllid o gronfa sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol, a pharodrwydd tiwtoriaid i addasu, trosglwyddwyd y rhan fwyaf o brosiectau cerdd y Ganolfan ar-lein.
Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts: “Does dim dwywaith ein bod ni wedi wynebu rhwystrau digynsail wrth geisio cynnal y ddarpariaeth addysg gerddorol yn ystod y pandemig, ond rydym wedi llwyddo i addasu ein holl brosiectau rheolaidd i gynnig rhywfaint o ddarpariaeth ar-lein. Mae wedi agor ein llygaid i’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio hyn fel dull o ddarparu gweithgareddau yn y dyfodol.
“Gwersi wyneb yn wyneb yw’r opsiwn gorau ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i allu dychwelyd i gynnal ein holl brosiectau wyneb yn wyneb, ond mewn rhai amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosibl mae’r cyfleuster ar-lein yn opsiwn amgen gwych. Byddwn yn parhau i’w gynnig yn y tymor hir, ar ôl y pandemig.”
“Nid oes ond rhaid edrych ar enghraifft ryfeddol Elinor a Helen i weld sut y gall addysg gerddorol fynd y tu hwnt i ffiniau – rhai daearyddol, corfforol neu emosiynol.”
Rhoddwyd Elinor mewn cysylltiad â Helen a’i theulu sy’n caru cerddoriaeth, gan un arall o’i chyn-fyfyrwyr, sef Esyllt Roberts de Lewis, a gafodd ei magu yng Nghymru ond a symudodd i Batagonia i ddysgu.
Ar ôl iddynt gyfarfod, mi welodd Esyllt fod gan Helen botensial mawr ac y byddai’n elwa o diwtora mwy datblygedig. Cysylltodd Esyllt gydag Elinor i ofyn a allai argymell mentor da ac roedd wrth ei bodd pan benderfynodd Elinor ymgymryd â’r dasg ei hun.
Roedd Helen a’i mam, sy’n feiolinydd, wrth eu boddau.
Meddai Elinor: “Mae Helen yn fyfyriwr mor frwd a hunanysgogol, ac mae’n bleser pur gweithio efo hi. Roedd hi’n gwella’n amlwg ar ôl pum sesiwn yn unig ac ar hyn o bryd mae’n paratoi i ymuno â pherfformiad rhithwir ar-lein gyda myfyrwyr eraill Canolfan Gerdd William Mathias. A’r gobaith yw trefnu hynny’n fuan. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn gŵyl gerddoriaeth yn Buenos Aires.”
Gwladfa Gymreig ar ffin yr Ariannin a Chile yw Patagonia a wladychwyd gyntaf gan ymfudwyr o Gymru yn y 19eg ganrif. Dyma’r unig ran o’r byd heblaw Cymru lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn gyffredin. Mae Helen yn byw yn Gaiman, ger Trelew, yn ardal Chubut.