Bydd pianyddion dawnus o bob cwr o’r byd yn cystadlu am wobrau ariannol o hyd at £3,000 mewn gŵyl rhyngwladol o fri yng ngogledd Cymru.
Cynhelir Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn Galeri yng Nghaernarfon rhwng Hydref 16-20 a bydd hefyd yn cynnwys cyngherddau, dosbarthiadau meistr a darlithoedd.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu unwaith eto gan Ganolfan Gerdd William Mathias, wedi sefydlu ei hun bellach fel un o uchafbwyntiau y calendr diwylliannol rhyngwladol.
Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, sydd hefyd yn bianydd ddawnus: “Mae cynllunio’r ŵyl wedi bod yn heriol ac yn gyffrous.
“Mae’n digwydd dros bum diwrnod am y tro cyntaf erioed ac mae gan bob un o’r diwrnodau thema arbennig.
“Mae’r Ŵyl yn cychwyn gyda Diwrnod Astudiaethau Ymchwil sy’n archwilio rôl y piano mewn cerddoriaeth siambr lleisiol ac offerynnol.
“Yn cael ei gynnal yn Adran Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, mae hwn yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng y Brifysgol, y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, gyda siaradwyr gwadd a pherfformwyr o Ffrainc, Gwlad Belg a’r Deyrnas Unedig.
“Y thema ar yr ail ddiwrnod fydd ‘Piano y Bobl’ gyda chyfres o ddigwyddiadau cymunedol sy’n cynnwys cyfansoddwyr fel Erik Satie a ysgrifennodd y Gymnopédies gwych ar gyfer piano a darnau bach rhyfeddol eraill rydym i gyd yn gyfarwydd â nhw a’r cyfansoddwr Eidalaidd bythol boblogaidd Ludovico Einaudi, sef cyfansoddwr clasurol mwyaf poblogaidd yn 2023.”
“Am weddill dyddiau’r ŵyl, meddai, mi fydd y ffocws yn symud i’r tair cystadleuaeth yn yr ŵyl, gyda chystadleuwyr o mor bell i ffwrdd ag Awstralia, De Corea a Mecsico yn cystadlu i ennill clod ac anrhydedd cerddorol.
“Mae un gystadleuaeth ar gyfer pianyddion o dan 18 oed, un arall ar gyfer rhai dros 18 oed ond o dan 26 oed ac yna gwobr arbennig i gyfeilyddion sy’n agored i bob oedran.
“Mae cyfeilyddion yn aml yn cael eu hanghofio ond maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn cyngherddau, datganiadau a chystadlaethau,” meddai.
Talodd Iwan deyrnged i’r unigolion a’r grwpiau a oedd wedi darparu arian ar gyfer y gwobrau.
“Nid yw’n hawdd codi arian ar gyfer digwyddiadau diwylliannol ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r rhai a gysylltwyd â nhw ac a ymatebodd yn gadarnhaol ac yn hael,” meddai.
Yn ôl y pianydd o Ynys Môn, mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyngherddau gan ddechrau gyda Chyngerdd Cerddoriaeth Siambr Ffrengig yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor ar ddydd Iau 16 Hydref.
Yn perfformio ar y llwyfan bryd hynny bydd y soprano Erin Gwyn Rossington, y sielydd Rosie Biss a’r feiolinydd Sara Trickey gydag Iwan Llewelyn-Jones ei hun ar y piano.
“Bydd y cyngerdd yn talu teyrnged i bedwar o gyfansoddwyr mwyaf nodedig Ffrainc, gan gynnwys Maurice Ravel, cyfansoddwr Bolero a Gabriel Fauré a gyfansoddodd rhai o darnau cerddoriaeth siambr gorau erioed ar gyfer y piano. Byddwn hefyd yn cynnwys detholiad o ganeuon gan Cécile Chaminade a Lily Boulanger.”
Y noson ganlynol, ddydd Gwener, Hydref 17 yn Galeri Caernarfon bydd gwaith comisiwn yr ŵyl a phrosiect addysg, Madam Wen, yn cael ei berfformio.
Wedi’i sgriptio a’i adrodd gan Manon Wyn Williams a’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan Guto Pryderi Puw, mae’r prosiect yn coffáu’r nofel Madam Wen a ysgrifennwyd gan William David Owen.
Ychwanegodd Iwan: “Cyn y cyngerdd bydd yr artist adnabyddus Catrin Williams, ynghyd â thiwtor offerynnau taro CGWM, Dewi Ellis Jones, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Bodedern i gynnal cyfres o weithdai celf lle bydd y plant yn creu offerynnau ac yn archwilio a dewis synau sy’n adleisio’r stori.
Cyhoeddwyd Madam Wen ar ffurf llyfr yn 1925 ond ymddangosodd gyntaf fel cyfres ym mhapur newydd y Genedl Gymraeg yn 1914.
Mae’r nofel yn adrodd stori arwres o Ynys Môn, nid annhebyg i gymeriad Robin Hood.
Nid yw’r cefndir yn glir ond dywedir ei fod yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol go iawn a oedd yn byw ar Ynys Môn ar ddiwedd y 19eg ganrif. Bu farw W.D. Owen bythefnos ar ôl i’r nofel gael ei chyhoeddi.
Mae’r cyngerdd yn cynnwys Côr Ysgol Gynradd Bodedern, gyda Dewi Elis Jones ar yr offerynnau taro, y pianyddion Elain Rhys Jones ac Angharad Wyn Jones a’r soprano Glesni Rhys Jones.
Bydd y pianydd jazz nodedig Gwilym Simcock yn perfformio yn Galeri yn nhrydydd cyngerdd gyda’r nos yr ŵyl.
Ganed Gwilym ym Mangor, ac astudiodd y piano clasurol, y corn Ffrengig a chyfansoddi yn Ysgol Chetham, Manceinion, lle cafodd ei gyflwyno i jazz gan ei diwtoriaid.
Ef oedd y cerddor jazz cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer cynllun Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 yn 2006 ac enwebwyd ei albwm Good Days At Schloss Elmau ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury yn 2011. Mae Gwilym yn Athro Piano Jazz yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Dywedodd Meinir Llwyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, fod yr ŵyl wedi’i sefydlu yn 2009 fel Gŵyl Biano Cymru a’i chynnal eto yn 2012.
“Ehangodd yr ŵyl yn 2016 gan ddod yn Ŵyl Biano Ryngwladol Cymru.”
Dywedodd fod ceisiadau ar gyfer y tair cystadleuaeth wedi cau ddiwedd mis Mehefin a bod nifer fawr wedi dod i law.
“Fel rhan o’r broses ymgeisio gofynnwyd i ymgeiswyr gyflwyno recordiad heb ei olygu o repertoire piano unigol heb fod yn fwy nag wyth munud.
“Mae’r rhain wedi cael eu hystyried ac mae mwy na 50 o wahoddiadau wedi myn dallan i bianyddion o bob cwr o’r byd i gymryd rhan yn yr ŵyl eleni.
“Maen nhw’n cynnwys llawer o Brydain ond hefyd cerddorion o Bortiwgal, Romania, Twrci, Japan, De Corea, Mecsico a hyd yn oed Awstralia,” meddai.
Mae rhagor o fanylion am yr ŵyl a sut i brynu tocynnau ar gael ar-lein yn https://www.pianofestival.co.uk/cy/