Mae cyfarwyddwr Gŵyl Gitarau@Galeri, Neil Browning wrth ei fodd gyda llwyddiant digwyddiad i’r gitâr a lwyddodd i ddenu gitarwyr ar draws Cymru i Gaernarfon i ddysgu mwy am y gitâr ac i fynychu cyngerdd gan y gitarwr adnabyddus Gary Ryan.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y 22-24 Mai 2015, gan gychwyn gyda digwyddiad meic agored lle’r oedd pob aelod o’r cwrs yn cael eu gwahodd i berfformio yn y bar.
Fe barhaodd y penwythnos gyda chyfres o weithgareddau hyfforddiant a gweithdai gyda thiwtoriaid gwadd yn cynnwys Stuart Ryan, Neil Browning, Andy Maceknzie, Colin Tommis, a Dave King. Rydym wedi gwirioni wrth fod yn gallu cynnig amrywiaeth mor eang o arddulliau gitâr yn ystod y digwyddiad.
Uchod y mae llun o weithdy Rhythm Jazz Sipsi Andy Mackenzie lle gyflwynodd y sylfaen i chwarae rhythm ‘la pompe’ a chordiau.
Croesawodd yr Ŵyl hefyd gitarydd enwog Gary Ryan i roi dosbarth meistr ac i berfformio mewn cyngerdd ar nos Sadwrn. Perfformiwyd amrywiaeth o gerddoriaeth gan Gary gan gynnwys cerddoriaeth Pratorius, Dowland a Bach ynghyd â chyfansoddiadau ei hun oedd yn arddangos techneg arloesol ar y gitâr.