Llun o Elinor Bennett a Veronika Lemishenko

Dwy delynores nodedig yn dod at ei gilydd yng ngogledd Cymru i godi arian i blant yn Wcráin sydd wedi’u heffeithio gan y rhyfel

Cyhoeddwyd: 15 Tachwedd, 2024

Bydd dwy delynores fyd-enwog yn dod at ei gilydd mewn cyngerdd arbennig i godi arian i blant ag anableddau dysgu dwys yn Wcráin.

Bydd Veronika Lemishenko, sy’n hanu o Kharkiv yn nwyrain Wcráin, yn chwarae nifer o ddarnau unigol yn y cyngerdd yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor am 7.30pm nos Iau, Tachwedd 21 pan fydd hi hefyd yn perfformio deuawdau gyda threfnydd y cyngerdd Elinor Bennett.

“Bydd yn gyfle na ddylid ei golli i glywed telynores fyd-enwog yn perfformio yng ngogledd Cymru,” meddai Elinor, a astudiodd gyda’r telynor arloesol y diweddar Osian Ellis, cyn mynd ymlaen i gael gyrfa arbennig ei hun a helpu i sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.

Hefyd yn cymryd rhan yn y cyngerdd bydd cerddorion ifanc o Ganolfan Gerdd William Mathias, Côr Siambr Prifysgol Bangor dan arweiniad Guto Puw a Chôr Cofnod o Gaernarfon.

Mae’n un o nifer o gyngherddau codi arian elusennol a gynhaliwyd ledled Ewrop yn ystod 2024 gan Veronika Lemishenko o dan nawdd Sefydliad Elusennol Veronika Lemishenko, a sefydlwyd gan y delynores yn ei mamwlad bron i saith mlynedd yn ôl.

Mae mam Veronika, Alla, bellach yn byw yng Ngwynedd ac yn dysgu cerddorion ifanc yn lleol tra bod ei brawd wedi symud i’r Eidal. Mae ei nain yn byw gyda’i thad yn Lviv yng ngorllewin Wcráin.

Meddai Elinor: “Cyn ymosodiad milwrol Rwsia yn 2022, nod y Sefydliad oedd hyrwyddo celfyddyd y delyn yn Wcráin trwy gefnogi telynorion a chyfansoddwyr talentog o’r wlad.

“Mae’r Sefydliad hefyd yn cydweithio â’r Delyn Disglair (Glowing Harp) – prosiect telyn rhyngwladol, sy’n cynnwys cystadleuaeth, gŵyl, dosbarthiadau meistr, datganiadau a digwyddiadau cerddorol eraill.”

Ers dechrau’r rhyfel lansiodd Veronika ymgyrch codi arian a drefnwyd ar y cyd gan ei sefydliad elusennol a’r Delyn Disglair ac mae tua £34,000 wedi’i godi hyd yma.

“Mae’r holl arian yn mynd i gefnogi Wcráin. Mae’r Sefydliad yn derbyn rhoddion rhyngwladol ac yn darparu cymorth ariannol i brynu offer ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau meddygol, llochesi anifeiliaid ac ati.

“Mae’n gyfnod eithriadol o anodd i sefydliadau addysg yn Kharkiv lle mae’n amhosibl cael gwersi wyneb yn wyneb heb fynd i loches bomiau.

“Diolch i brosiect Delyn Disglair, cafodd 15 o fyfyrwyr rhwng wyth a 24 oed le newydd i barhau â’u haddysg broffesiynol yn Lloegr, y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, yr Almaen, Ffrainc a Chanada,” meddai.

Nid yw Veronika Lemishenko yn ddieithr i ogledd Cymru. Mae hi wedi mynychu Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru a lwyfannwyd yn Galeri Caernarfon yn rheolaidd ers 2014 ac mae ganddi lawer o ffrindiau yn yr ardal.

Ychwanegodd Elinor Bennett: “Mae Veronika yn dweud ei bod yn teimlo’n gartrefol iawn yng Nghymru. Ond wrth gwrs ers goresgyniad Rwsia mae bywyd wedi bod yn galed iawn i bobl Wcráin gan gynnwys y teulu Lemishenko.”

Yn ystod y cyngerdd ym Mangor bydd Elinor a Veronika yn perfformio deuawd o’r enw Cambria gan y telynor a’r cyfansoddwr o Gymru, John Thomas.

“Ei enw barddol oedd Pencerdd Gwalia a chwaraeodd delyn deires draddodiadol Gymreig a’r delyn bedol fodern a bu’n dysgu yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac Ysgol Gerdd y Guildhall yn Llundain pan gafodd ei benodi’n delynor i’r Frenhines Victoria yn 1872.

“Mae Cambria yn ddeuawd telyn sy’n seiliedig ar nifer o alawon Cymreig gan gynnwys Gadlys, Y Ferch o’r Scêr a Tros y Garreg,” meddai Elinor.

Dywedodd Elinor mai’r darn arall y bydd hi’n chwarae gyda Veronika yw Souvenir gan y cyfansoddwr Evgen Andreev o Wcráin.

“Cyfansoddwr o Kharkiv yw Evgen Andreev ac ymhlith ei weithiau mae sawl cyfansoddiad sydd wedi cael eu perfformio gan delynorion ifanc ledled y byd.

“Mae gan Evgen deulu cerddorol – mae ei wraig yn feiolinydd ac mae’r ddau blentyn yn fyfyrwyr yn lyceum cerddorol talaith Kharkiv. Yn ddiweddar ailddechreuodd y lyceum ar ei gwaith ond mae’r addysg ar-lein oherwydd lefel uchel y perygl bod mor agos iawn at yr ymladd,” meddai Veronika.

Mae’r cyngerdd yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor yn dechrau am 7.30pm nos Iau, 21 Tachwedd. Mae mynediad am ddim ond bydd casgliad yn cael ei wneud ar ddiwedd y cyngerdd.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...