- Mae'r digwyddiad hwn wedi bod.
Tonic Doniau Cudd
21 Chwefror, 2019 @ 2:30pm
Grŵp cerddoriaeth greadigol integredig i bobl sydd ag anableddau dysgu yw ‘Doniau Cudd’. Mae’n cael ei redeg gan Canolfan Gerdd William Mathias o dan arweiniad medrus Arfon Wyn.
Yn ystod y cyngerdd heddiw bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth y prosiect yn ogystal ag ambell unawd gan y cyfeillion sy’n gweithio gyda’r criw megis Arfon ei hun a’r chwaraewr soddgrwth proffesiynol, Elin Taylor.