Diwrnod Piano
16 Tachwedd
Dyma gyfle gwych i bianyddion o bob cyrhaeddiad a phob oed i berfformio mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol fel rhan o weithgareddau sy’n arwain at Gŵyl Biano Rhyngwladol Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaernarfon yn 2025.
Cynhelir y diwrnod piano yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd o 9:30yb. Mae nifer o ddosbarthiadau (unawdol a deuawdau) ac mae croeso i bawb gymryd rhan mewn unrhyw nifer ohonynt, gyda’r pwyslais ar berfformio o flaen cynulleidfa a derbyn adborth gan bianyddion proffesiynol. Bydd bob pianydd sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif llwyddiant.
Yn hytrach na gosod perfformiadau yn 1af, 2il a 3ydd, bydd y pianyddion proffesiynol yn dewis nifer penodol o berfformiadau sydd wedi creu argraff arnynt yn ystod y dydd i berfformio mewn cyngerdd am 3:30pm.
Am ragor o fanylion: https://www.pianofestival.co.uk/cy/diwrnod-piano/