Rydym yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer Cystadlaethau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2025 nawr ar agor!
Yn digwydd yn Galeri Caernarfon ym mis Hydref eleni, mae’r cystadlaethau’n rhan bwysig o’r ŵyl ac yn cynnig llwyfan cyffrous i bianyddion arddangos eu talent.
Mae categorïau cystadleuaeth eleni yn cynnwys:
Cystadleuaeth Unawdol Hŷn
Cystadleuaeth Unawdol Iau
Cystadleuaeth Cyfeilio Piano
Dyddiad cau cofrestru: Hanner nos ddydd Llun, 16 Mehefin 2025
Am fanylion llawn ac i gystadlu, ewch i’r tudalennau Cystadlaethau perthnasol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar post@pianofestival.co.uk
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Gaernarfon ym mis Hydref!