Diwrnod prysur yn Llangollen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi!
Cafodd diwrnod llawn hwyl i blant bach a’u rhiant/gwarchodwr ei drefnu gan Fenter Iaith i ddathlu Diwrnod Dathlu Dewi.
Roedd nifer o sefydliadau yno yn cynnwys ein prosiect Camau Cerdd.
Cafodd sesiynau Cropian Cerdd a Chamau Cyntaf eu cynnal drwy gydol y dydd a chafodd pawb lawer o hwyl!
Trwy ganu a chreu cerddoriaeth gwnaethom ymweld â lan y môr, y fferm a’r jwngl. Dysgom ein do-re-mi gyda Mr Cerdd a theimlom guriad y gerddoriaeth gyda Plu Enfys. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys ein cân newydd am y cennin pedr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Cafodd Camau Cerdd amser llawn hwyl yn Llangollen ac rydym yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol agos.
Os nad oeddech yn y digwyddiad peidiwch a phoeni – rydym ni am wneud sesiynau tebyg yn Ninbych ar y 3ydd o Ebrill.
Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar Facebook.