Athrawon cerdd yn taro’r nodau uchel mewn achlysur codi arian

Cyhoeddwyd: 7 Tachwedd, 2019

Bydd tiwtoriaid cerdd o ganolfan gerddoriaeth nodedig yn gweld y byrddau’n cael eu troi fis nesaf pan fyddant yn perfformio o flaen cynulleidfa sy’n llawn myfyrwyr fel rhan o achlysur i godi arian i ŵyl biano arbennig.

Yn ymuno â’r pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones bydd llond gwlad o gerddorion Cymreig dawnus o Ganolfan Gerddi William Mathias ar gyfer cyngerdd arbennig am 3yp ar ddydd Sul, Tachwedd y 10fed, er budd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.

Bydd y tiwtoriaid yn cychwyn ar daith gerddorol ledled y byd, o Ewrop i America ac Awstralia, gan berfformio deuawdau a thriawdau o repertoire clasurol, poblogaidd a jazz.

Sefydlwyd y ganolfan gerdd, sydd â lleoliadau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun, ddau ddegawd yn ôl yng Nghaernarfon gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn helpu offerynwyr a chantorion o bob oed a gallu i gyrraedd eu potensial.

Mae gan y ganolfan, sydd wedi helpu i lansio gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol degau o gerddorion, bellach mwy na 40 o diwtoriaid yn gweithio ar eu liwt eu hunain gan gynnwys y delynores ryngwladol o fri Elinor Bennett, sydd wedi dysgu yn y ganolfan o’r cychwyn cyntaf.

Bydd cyngerdd y mis nesaf, a gynhelir yn Galeri, Caernarfon am 3yp ar ddydd Sul, Tachwedd y 10fed, yn arddangos doniau naw o diwtoriaid piano’r ganolfan mewn digwyddiad cymunedol hwyliog sy’n cynnwys amrywiaeth o glasuron poblogaidd.

Bydd y cyngerdd, a drefnwyd gan Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, yn codi arian tuag at noddi gwobr gystadleuaeth yn yr ŵyl piano fydd yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

Meddai: “Mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol ac mae croeso i bawb. Mae’r tiwtoriaid i gyd wedi gwahodd eu myfyrwyr hefyd ac felly bydd y disgyblion yn cael cyfle unigryw i weld eu tiwtoriaid yn perfformio.

“Mae llawer o waith yn mynd i baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau a chystadlaethau ac mae hon yn ffordd braf i droi’r byrddau.

“Rydyn ni i gyd yn ffrindiau a’r peth braf am wneud rhywbeth fel hyn drwy ddod at ein gilydd fel ensemble, yw ei fod yn gymaint o hwyl. Does dim rhaid i chi siarad, dim ond chwarae. Rydych chi’n gadael i’r gerddoriaeth wneud y siarad drosoch chi.

“Mi wnaethon ni gynnal cyngerdd tebyg yn 2015 i lansio gŵyl 2016. Roedd rhywfaint o nerfusrwydd ymlaen llaw, wrth gwrs, gan nad oes gan rai o’r tiwtoriaid yr amser i berfformio’n gyhoeddus yn aml ond roedden nhw wrth eu boddau, roedd yn brofiad gwefreiddiol i ni i gyd. Dyma yw hanfod y peth.”

Bydd y cyngerdd yn cynnwys Glian Llwyd, Nia Davies-Williams, Steven Evans, Ann Peters Jones, Helen Owen, Hawys Price, Teleri-Siân, Sian Wheway ac Iwan.

Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd perfformiadau o glasur poblogaidd Saint Saens ‘Carnifal yr Anifeiliaid’, ‘En bateau’ Debussy, Symffoni Rhif 5 Beethoven a’r Nutcracker Suite gan Tchaikovsky yn cael eu perfformio ar ddau biano mawr.

“Mae hwn yn un o ddau ddigwyddiad lansio sy’n dod â’r ganolfan gerddoriaeth a’r bobl sy’n gweithio ynddi at ei gilydd i gael cyfle i arddangos eu doniau,” meddai Iwan,

“Rydw i wedi rhoi llawer o feddwl i’r detholiad o gerddoriaeth ac wedi ceisio ei wneud mor ddeniadol â phosib. Mae’r pianyddion i gyd yn rhoi o’u hamser eu hunain am ddim ar gyfer y cyngerdd hwn a byddai’n hyfryd gweld y lle’n llawn fel y gwnaethom yn ôl yn 2015. Mae croeso i bawb.”

Ychwanegodd Meinir Llwyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias: “Mae’n rhaglen liwgar a diddorol iawn a fydd yn apelio at deuluoedd a phobl o bob oed.

“Mae hefyd yn gyfle gwych i glywed y tiwtoriaid eu hunain yn perfformio, yn enwedig ar gyfer eu myfyrwyr eu hunain. Maen nhw i gyd yn dysgu ar wahanol adegau ar wahanol ddiwrnodau a chyda’r nos ac mae’n braf dod â nhw at ei gilydd i berfformio fel tîm. “

Mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei chynnal rhwng 1-4 Mai 2020 a bydd yn archwilio’r tri maes allweddol o berfformio, cystadlu ac addysgu.

Bydd gŵyl y flwyddyn nesaf yn talu gwrogaeth i Ludwig van Beethoven a’i etifeddiaeth bianyddol fel rhan o ddathliadau sy’n nodi 250 mlynedd ers ei eni.

Mae Diwrnod Piano hefyd yn cael ei gynnal ar Dachwedd 23 yn yr Ysgol Gerdd ym Mhrifysgol Bangor fel digwyddiad lansio pellach i’r ŵyl www.pianofestival.co.uk.

I archebu tocynnau ar gyfer Cyngerdd y Tiwtoriaid Piano ewch i: www.galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685222

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...