Mae un o brif arweinyddion a beirniaid canu Barbershop o’r Unol Daleithiau ar ei ffordd i Gymru i gynnig dau weithdy cyffrous yn y dull unigryw a phoblogaidd yma o ganu. Mae Paul Wigley sy’n dod o Minnesota, wedi cael profiad helaeth o arwain corau, cynnal gweithdai a darlithoedd ac wedi ennill parch mawr iddo’i hun yn rhyngwladol.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn falch iawn o gynnig cyfle i gantorion sydd yn ymddiddori yn y dull hyfryd hwn o ganu i ddysgu oddi wrth Paul Wigley trwy gymeryd rhan mewn dau weithdy. Bydd y cyntaf yn Galeri Caernarfon ar Chwefror 12fed, o 7 tan 9 pm, a’r ail ym Mhentyrch, Caerdydd ar Chwefror 18ed. O 7.30 tan 9.30pm. Bydd Paul yn arddangos ei arddull a’i sgiliau cyfarwyddo i ddechreuwyr yn ogystal â chantorion sydd wedi arfer canu yn y dull Barbershop gan dynnu ar ei brofiad helaeth yn y maes.
Ef oedd cadeirydd y panel beirniaid yng Nghystadleuaeth Cymdeithas International Barbershop Harmony yn 1991, 1994, 1997, 1999, 2002, 2008, 2011 and 2014 a bu’n dysgu athrawon ac arweinyddion corau Barbershop yn Efrog Newydd, Maryland, Kentucky, Wisconsin, Missouri, Washington and California, ac ar bwyllgor National Youth Outreach yn America. Ymddeolodd yn ddiweddar fel athro Cerdd wedi llawer iawn o lwyddiant gyda’i gôr yn Ysgol Lakeville, Minnesota.
Paul yw Cyfarwyddwr côr Minneapolis Commodores ac, ar hyn o bryd, ef sy’n dal y swydd o Arbenigwr Categori cerdd Cymdeithas y Barbershop Harmony yn rhyngwladol. Yn ystod ei ymweliad â Phrydain, bydd yn ddarlithio yn y Gynhadledd Brydeinig i arweinyddion Barbershop a gynhelir ddiwedd misf Chwefror yng Nghanolbarth Lloegr.
Os yw ei enw yn canu cloch, mae Paul Wigley yn gefnder pell i Dafydd Wigley, Ymfudodd ei hen, hen daid o Lanbrynmair, Sir Drefaldwyn yn 1857 i fyw ym Minnesota a daeth yn Senator yn y dalaith honno. Yn y 1970’au, roedd tad Paul, y diweddar Richard Wigley, hefyd yn Senator yn Nhalaith Minnesota.
Am dros 100 mlynedd, ni fu unrhyw gysylltiad gydag ochr Dafydd o’r teulu a’r criw ym Minnesota, ac mae’n hyfryd fod Canolfan Gerdd William Mathias yn helpu i adfer y cysylltiad teuluol! Bydd y Gweithdy yn Ne Cymru yn Acapela, Pentyrch. Mab Dafydd Wigley, Hywel yw perchennog y Ganolfan gelfyddydol lle cynhelir yr ail weithdy ar Chwefror 18fed. Yn 2004, bu Paul ar daith gyda’i gôr o Lakeville, Minnesota, yng Nghymru gan roi cyngerdd yn Theatr Seilo Caernarfon gyda Chôr Glanaethwy.