Yn dilyn pedwar niwrnod o gystadlaethau, cyngherddau a dosbarthiadau daeth Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru i ben ar nodyn uchel Nos Lun (2il o Fai), gyda phianydd o Wlad Belg, Yulia Vershinina yn cyrraedd y brig yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Hŷn. Mae Yulia yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ac enillodd y brif wobr o £2,000 yn rhoddedig gan Gwmni Roberts of Port Dinorwic.
Domonkos Csabay o Hwngari enillodd y wobr gyntaf o £1,250 yn rhoddedig gan y Sickle Foundation yn y gystadleuaeth i Gyfeilyddion piano. Mae Domonkos yn astudio yn y Conservatoire yn Birmingham.
Aeth y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Piano Unawdol Iau i Callum McLachlan, 17, o Stockport. Derbyniodd Callum, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gerdd Chetham’s, wobr o £700 wedi ei chefnogi gan diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias.
Trefnwyd yr Ŵyl, a gynhaliwyd yn Galeri o’r 29 Ebrill – 2 Mai, gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Cyfarwyddwr yr Ŵyl oedd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones.