Ar Ddydd Gwener y 19eg a Dydd Sadwrn yr 20fed o Fehefin aeth Camau Cerdd i ymweld â’r cae Sioe ym Mona ar gyfer Gŵyl Teulu Ynys Môn.
Cafwyd tri sesiwn ar y ddau ddiwrnod ac mi ddoth amrywiaeth o blant i gyfarfod Mr. Cerdd a dysgu am gerddoriaeth.
Ar y Dydd Gwener roedd ysgolion o amgylch Môn yn yr Ŵyl ac roedd y rhai a ddoth i’r sesiynau Camau Cerdd gyda Charlotte a Gethin wedi dysgu am rythmau gwahanol a sut i’w chwarae nhw mewn amser gydag offerynnau taro. Wnaethon nhw hefyd dysgu i ganu sol-ffa gydag ystumiau dwylo.
Ar y Dydd Sadwrn roedd hi’n dro i blant ifanc cael sesiynau Cerdd tro yma gyda’i rhieni a Marie-Claire a Gethin. Wnaethon nhw gyfarfod Mr, Cerdd a chanu caneuon a chwarae offerynnau wrth glywed llyfr ‘Dwndwr yn y Jyngl’ (gan Andreae a Wojtowycz).
Cafwyd pawb amser bendigedig!