Bydd gwaith un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru yn cael ei ddathlu mewn cyngerdd i nodi 90 mlynedd ers ei eni.
Enillodd yr Athro William Mathias, a fu farw yn 57 oed yn 1992, glod byd-eang yn ystod ei oes a bydd teyrnged yn cael ei dalu i’w etifeddiaeth gerddorol yn y cyngerdd yn Neuadd Prichard Jones Prifysgol Bangor am 7.30pm ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd.
Mae’n fenter ar y cyd rhwng yr Ysgol Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle bu’n dysgu am 18 mlynedd, a Chanolfan Gerdd William Mathias a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.
Dangosodd yr Athro Mathias, a aned yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin, ei athrylith cerddorol o oed ifanc gan ddechrau chwarae’r piano yn dair oed a chyfansoddi cerddoriaeth erbyn ei fod yn bump oed.
Yn 1981 ysgrifennodd yr anthem, ‘Let the people praise thee, O God’, ar gyfer priodas frenhinol y Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana ar y pryd, a ddenodd gynulleidfa deledu fyd-eang o un biliwn o bobl.
Mae ei gyfraniad parhaol hefyd yn cynnwys Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ganddo yn 1972 ac sydd bellach yn un o’r uchafbwyntiau yng nghalendr diwylliannol y DU.
Bydd y cyngerdd, sy’n cael ei gefnogi gan Tŷ Cerdd, yn achlysur emosiynol i’w ferch, Dr Rhiannon Mathias, sy’n gerddor a ffliwtydd dawnus ei hun yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Meddai: “Daeth syniad y cyngerdd o’r gymuned ac rwy’n credu ei fod yn ffordd wych o nodi’r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd fy nhad yn 90 oed.
“Mae Neuadd Prichard Jones yn lle bendigedig i lwyfannu’r cyngerdd gan mai dyma oedd ei le gwaith am flynyddoedd lawer ac mae cymaint o’i ddarnau wedi cael eu perfformio yno.
“Bydd llawer iawn o bobl yn ei gofio yno mewn cyngherddau a’i weld yn cerdded drwodd. Alla i ddim aros am y perfformiad,” meddai.
Gwahoddwyd Rhiannon i gymryd rhan yn y cyngerdd ond roedd yn meddwl ei bod yn well rhoi’r cyfle i’w myfyrwyr.
“Enillodd dau o’m myfyrwyr eu diploma perfformio yr haf hwn. Er mwyn ennill y cymhwyster hwn roedd yn rhaid iddynt gyflwyno datganiad 30 munud a dewisodd y ddau un o ddarnau fy nhad, y sonatina ar gyfer y ffliwt a’r piano.”
Dywedodd Wyn Thomas, cadeirydd Canolfan Gerdd William Mathias, y bydd hanner cyntaf y cyngerdd yn cynnwys darnau unigol ar gyfer organ, ffliwt, telyn a phiano a darnau corawl hefyd.
Ymhlith yr artistiaid unigol sy’n cymryd rhan mae’r delynores Angharad Wyn Jones, yr organydd Elis Massarelli-Hughes, y pianydd Teleri Siân a’r ffliwtydd Gwenno Wyn a Christina Hutchinson-Rogers.
Bydd eitemau corawl yn cael eu perfformio gan Gôr Dre o Gaernarfon dan arweiniad Sian Wheway.
Uchafbwynt y noson fydd perfformiad o Culhwch ac Olwen – gwaith i gôr ac ensemble offerynnol sy’n seiliedig ar stori garu enwog o’r Mabinogion, y chwedlau Cymraeg cynnar o’r 12fed a’r 13eg ganrif.
“Nod yr achlysur yn Neuadd Prichard Jones yw nodi cyfraniad arbennig William Mathias i gerddoriaeth Gymraeg. Tachwedd 1af fyddai pen-blwydd William Mathias yn 90 oed ac felly mae’r digwyddiad yn amserol iawn,” meddai Mr Thomas.
Dywedodd Tudur Eames, cyfarwyddwr Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, fydd yn arwain y darn yn y cyngerdd, fod William Mathias yn cyfeirio at Culhwch ac Olwen fel ‘adloniant’.
“Nid opera, cantata nac oratorio mohono ond cyfuniad o sawl elfen gerddorol sy’n darlunio’r chwedl gan gynnwys storïwr, offerynnau, cyfeiliant dau biano a lleisiau plant,” meddai.
Ychwanegodd Wyn Thomas: “Roedd yn gyfansoddwr toreithiog ac yn gerddor amryddawn. Cynhyrchodd ddarnau ar gyfer offerynnau unigol, ensembles chwythbrennau a concertos, ond ei ddiddordeb pennaf oedd cerddoriaeth gorawl/lleisiol.
“Adeiladodd Mathias Adran Gerdd ym Mangor a oedd ymhlith y gorau yn Ynysoedd Prydain a sicrhaodd barch ac edmygedd cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol a chyd-gerddorion.
“Mae llawer ohonom yn ddyledus iddo am hyfforddiant cerddorol o’r radd flaenaf ac o ganlyniad mae ei gyn-ddisgyblion i’w gweld yn weithgar yn y byd cerddoriaeth yma yng Nghymru, ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau a thu hwnt.”
Mae’r cyngerdd yn Neuadd Prichard Jones, Bangor ar Dachwedd 2 yn dechrau am 7.30pm. Pris tocynnau yw £12 a £10 neu £5 i fyfyrwyr a phlant. Manylion pellach ar-lein yn www.cgwm.org.uk