Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) wedi derbyn nawdd gan Music Challenge Fund mudiad Spirit 2012 (www.spiritof2012.org.uk) er mwyn rhedeg prosiect ‘Canfod y Gân/Discover the Song’ dros dair blynedd. Bydd y prosiect yn dod ag unigolion sydd ag anableddau ac unigolion sydd heb anableddau ynghyd i gymryd rhan cyfartal mewn gweithgareddau cerddoriaeth cyson gyda’r nod o wella iechyd meddwl a llesiant.
Bydd CGWM yn gweithio mewn partneriaeth gyda thîm Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd a fydd yn cyfeirio unigolion gyda anableddau dysgu i’r prosiect.
Rydym eisiau derbyn ceisiadau gan werthuswyr allanol i weithio gyda ni drwy gydol y prosiect er mwyn :
- casglu tystiolaeth o effaith y prosiect,
- cynorthwyo wrth baratoi adroddiadau i’r noddwr.
- cynorthwyo i rannu ein dysgu a’n canfyddiadau.
Gweler dolen i’r Tendr.