Roedd Theatr Galeri Caernarfon yn fyw efo seiniau cerddoriaeth y piano o bedwar ban byd brynhawn Sul yr 8fed o Dachwedd. Er gwaetha’r tywydd garw, prin iawn oedd y seddau gwag a’r gynulleidfa frwdfrydig – oedd yn amrywio o 4 mis i 80+ mewn oedran – wedi cael gwledd gerddorol i lansio Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016.
Fe berfformiodd dim llai na deuddeg o diwtoriaid piano Canolfan Gerdd William Mathias raglen o ddeuawdau a thriawdau o’r repertoire clasurol, jazz a phoblogaidd gyda delweddau i gyd-fynd efo’r gerddoriaeth. Ar ôl y cyngerdd fe fwynhaodd y gynulleidfa baned a darn o gacen a wnaethpwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Enlli Vaughan o Langernyw.
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Iwan Llewelyn-Jones ragflas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn yr Ŵyl yn 2016. Bydd y rhaglen yn cynnwys datganiad gan y pianydd byd-enwog Peter Donohoe, noson yn cynnwys y gorau o gerddoriaeth a cherddorion Cymru, a chyngerdd gala ‘Ffiesta’ i’r teulu oll. Gyda chystadlaethau, dosbarthiadau a chyngherddau anffurfiol mae Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn addo i fod yn bedwar diwrnod bythgofiadwy
Yn ystod y gyngerdd cafwyd lansiad swyddogol menter codi arian yr Ŵyl – Noddi Nodyn – cyfle arbennig i unigolion a busnesau gyfrannu tuag at yr Ŵyl drwy noddi unrhyw nodyn ar y piano am £50.
Yng ngeiriau Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts:
Roedd o’n deimlad ffantastig gweld ein tiwtoriaid piano yn dod at ei gilydd i rannu llwyfan. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt ac i Gyfarwyddwr yr Ŵyl Iwan Llewelyn-Jones am eu gwaith caled. Rydym hefyd yn estyn ein gwerthfawrogiad i Ian Jones (Pianos Cymru) am gefnogi’r cyngerdd. Yn gryno, roedd yr achlysur yn llwyddiant ysgubol!
Bydd Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn cael ei chynnal rhwng Dydd Gwener 29ain o Ebrill a Dydd Llun yr 2il o Fai 2016 yn Galeri Caernarfon.