Mae cyfres gyntaf Camau Cerdd yn Ninbych newydd ddirwyn i ben, ac mae Canolfan Gerdd William Mathias yn falch iawn o nodi llwyddiant y gyfres.
Mae Camau Cerdd yn gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Canolfan Gerdd William Mathias a’r cerddor Marie-Claire Howorth ers 2007. Tiwtor Camau Cerdd yn Ninbych yw Charlotte Green sydd hefyd yn arwain sesiynau mewn ardaloedd o Wynedd ac Ynys Môn yn dilyn cynnydd diweddar yn narpariaeth y cynllun.
Nod y prosiect yw cynnig addysg gerddorol i blant o’r cychwyn cyntaf. Mae gan addysg gerddorol y potensial i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu, deallusrwydd emosiynol, cydsymud a sgiliau cymdeithasol ynghyd â bod yn llesol i’r ymennydd a’r corff. Mae Camau Cerdd hefyd yn darparu sail gerddorol gadarn cyn i blant gychwyn gwersi offerynnol neu leisiol un i un.
Cafwyd cefnogaeth arbennig gan Fenter Iaith Sir Ddinbych a Celfyddydau Sir Ddinbych i ddatblygu’r cynllun yn Ninbych a chynhaliwyd sesiynau ar gyfer dau grŵp oedran:
Cynhaliwyd sesiynau Camau Cyntaf Cerdd i blant rhwng 15 mis a 3 mlwydd oed yn adeilad HWB Dinbych, gan anelu at ddarparu cyflwyniad cyffredinol i blant i fyd cerdd, gan hefyd ymdrechu i ysbrydoli rhieni / gofalwyr i ddefnyddio cerddoriaeth gyda hyder â’u plant.
Cynhaliwyd sesiynau Camau Nesaf Cerdd i blant rhwng 4 a 7 mlwydd oed ar ôl ysgol yn Theatr Twm o’r Nant lle mae’r Ganolfan Gerdd hefyd yn cynnig gwersi un i un i blant ac oedolion. Bwriad y sesiynau cerdd yma a gynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg yw datblygu dealltwriaeth y plant o gerddoriaeth mewn modd hwyliog trwy ddefnyddio amryw o ddulliau yn cynnwys gemau, sol-ffa ac offerynnau cerdd.
Cynhaliwyd sesiwn arbennig yn ystod yr wythnos olaf er mwyn dathlu llwyddiant y gyfres. Fe drefnodd Menter Iaith fod paned a chacen ar gael i bawb ar ddiwedd y sesiwn, gan roi cyfle i bawb gymdeithasu a thrafod y gyfres.
Cynhaliodd plant y grwpiau Camau Nesaf gyngherddau anffurfiol i’w rhieni ar ddiwedd y sesiynau er mwyn dangos y cynnydd a wnaethpwyd yn ystod y tymor. Roedd y plant yn falch o arddangos yr hyn roeddent wedi ei ddysgu gan gynnwys canu sol-ffa, chwarae y raddfa bentatonig ar glychau, dangos y rhythmau i’w rhieni a gorffen y cyngerdd trwy ddawnsio wrth chwarae rhythm Lladin-America ar Clave.
Roedd y rhieni wrth eu boddau yn gweld eu plant yn mwynhau eu hunain a chael blas o’r hyn yr oeddent wedi ei ddysgu. Dywedodd Elin Jones:
‘Mae fy mhlentyn wedi mwynhau y sesiynau’n arw iawn. Rwyf wedi bod yn ei chlywed yn canu do re mi yn aml. Mae’r gweithgareddau yn hwyliog, lliwgar a chofiadwy. Diolch i Charlotte am fod mor fywiog a chyfeillgar’.
Eglura Charlotte, tiwtor Camau Cerdd bwysigrwydd y prosiect i ddatblygiad cerddorol y plant:
‘Erbyn i blant gychwyn eu haddysg gerddorol yn yr ysgol neu gychwyn gwersi offerynnol neu leisiol, bydd Camau Cerdd eisoes wedi datblygu dealltwriaeth y plant o fyd cerdd – byddant yn deall rhythm; yn gallu darllen cerddoriaeth a byddant yn gyfarwydd gyda gwahanol offerynnau a’u seiniau. Byddant hefyd yn gallu gwrando a mynegi eu hunain trwy gerddoriaeth’.
Bydd cyfres nesaf Camau Cerdd yn Ninbych yn cychwyn ar y 11 Ionawr 2016 gyda nifer o’r plant yn edrych ymlaen at barhau gyda’u addysg gerddorol. Mae croeso i aelodau newydd.