2017 Wales Harp Festival

Cyhoeddwyd: 15 Mawrth, 2017

12 &13 Ebrill 2017: Dathlu Telynau Iwerddon a Chymru.

Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill yng nghanol bwrlwm Galeri Caernarfon. Y Cyfarwyddwr yw’r delynores Elinor Bennett a bydd yr Ŵyl yn cynnwys cwrs deuddydd i delynorion yn ogystal â chyngerdd, cystadleuaeth a darlith. Trefnir yr ŵyl flynyddol hon gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Bob pedair mlynedd bydd yn newid i fod yn ŵyl 

TELYNORION O IWERDDON YN DOD I GYMRU I GOFIO HEN HEN CHWEDL

Cynhelir y cwrs deuddydd rhwng 10am – 5pm ar y ddau ddiwrnod a chroesewir telynorion o bob oed a gallu. Daw dwy delynores wych draw o’r Iwerddon – Denise Kelly a Cliona Doris –  i roi gwersi ac ymuno gyda’r tiwtoriaid o Gymru –  Elinor Bennett, Catrin Morris-Jones ac Elfair Grug – i ddysgu a dathlu hanes hirfaith y delyn yn y ddwy wlad Geltaidd. Caiff aelodau’r Cwrs gyfle i ddysgu alawon telyn Gwyddelig gan wyth o fyfyrwyr telyn o Ddulyn, fydd yn ymweld â Chymru, ac yn perfformio yn ystod yr Ŵyl.

DARLITH YR ŴYL  

Dydd Mercher, Ebrill 12 am 4pm, bydd Dr Sally Harper yn rhoi sgwrs ar

‘Greu traddodiad ar y cyd : Telynorion Cymreig a Gwyddelig yng Nghyngor Canoloesol Glyn Achlach, Leinster’

Yng ngeiriau Dr Harper, bydd yn sôn am “Chwedl Glyn Achlach” sydd wedi swyno cerddorion a haneswyr o Gymru ers canrifoedd.  Mae’n disgrifio’r bartneriaeth gerddorol gynnar a ddatblygodd rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod blynyddoedd cynnar y 12fed ganrif. Yn ganolog i’r chwedl yr oedd y ‘cyngor’ o delynorion Gwyddelig a Chymreig a ddaeth ynghyd yng Nghlyn Achlach. Eu bwriad oedd trafod agweddau mwyaf cain eu crefft, ac i gofnodi’r rheolau ar gyfer diogelu’r traddodiad i’r dyfodol.   

Ond i ba raddau y gallwn ni gredu’r adroddiad hwn – neu  ai dim ond chwedl ddychmygol yw hi wedi’r cyfan?

“Er fod y chwedl yn dangos nodweddion mytholegol, mae manylion eraill yn ffeithiol gywir. Gwyddom mai Glendalough yn Leinster yw ‘Glyn Achlach’ a’i fod unwaith yn gartref i Sant Cefyn, ac mai Brenin Iwerddon, Muirchertach O’Briain, oedd yn llywyddu’r cyfarfod allweddol hwnnw. Ond efallai mai’r hyn sydd fwyaf diddorol i ni yw beth a ddaeth allan o’r cyngor – sef casgliad o “fesurau” cerdd, neu batrymau sydd yn dal i oroesi. Mae eu dylanwad yn amlwg mewn llawysgrif a gopïwyd gan y telynor o Fôn, Robert ap Huw. Nid cyd-ddigwyddiad yw hi fod stamp yr iaith Gymraeg a’r Wyddeleg ar deitlau’r mesurau.”

Dr Sally Harper yw’r awdurdod pennaf yn  rhyngwladol ar gerddoriaeth gynnar Cymru a bydd yn cynnig allwedd i ddatgloi dirgelion un o’n  chwedlau difyr sydd wedi hen  fynd yn angof.  Bydd yn adrodd fel y bu i Gruffydd ap Cynan (c.1055-1137) a alwyd yn ‘Dywysog Cymru’ ddod â nifer o gerddorion gydag ef o’r Iwerddon, a threfnu cyngres fawr, neu eisteddfod, i delynorion a cherddorion o Gymru ac Iwerddon yng Nghaerwys, Sir y Fflint. Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

Dywedodd Cyfawyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett:

                “Y delyn yw emblem cenedlaethol Iwerddon ac mae  i’w gweld ar fflagiau,  arian  – ac mae’n logo i Guiness! Mae’n offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae’r traddodiad o delynori yn ymestyn yn ôl am 1500 mlynedd i’r 6ed ganrif, yn ôl tystiolaeth y beirdd a’u cerddi. Edrychaf ymlaen yn eiddgar i glywed beth ddigwyddodd pan aeth “Tywysog Cymru” – Gruffydd ap Cynan – â thelynorion o Iwerddon i gyfarfod eu cefndryd Celtaidd yng Nghymru.

                “Ym mis Ebrill eleni, daw telynorion ifanc o’r Iwerddon draw i Ŵyl Delynau Cymru i ail-greu diddordeb yn y digwyddiad a gymerodd le bron 880 mlynedd yn ôl.

Nodwyd 2017 yn “Flwyddyn y Chwedl” gan Llywodraeth Cymru, ac rwyf wrth fy modd fod y Dr Sally Harper wedi cytuno i  ddod i’r Ŵyl i atgoffa telynorion ein cyfnod ni o’r hen chwedl hon.  Mae’n braf iawn gwybod  mai  cerddor a aned yn Lloegr, ac sydd wedi dod yn rhan o’n cymdeithas,   sydd  wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i’n  haddysgu fel  Cymry am ein etifeddiaeth hynafol!”

Mae’r Ŵyl eleni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Nansi Richards a bydd Cystadleuaeth flynyddol Ysgoloriaeth Nansi Richards ar gyfer telynorion ifanc o dan 25oed o Gymru yn cael ei chynnal yn Galeri am 6.30pm Nos Fercher y 12fed o Ebrill. Y beirniad fydd y delynores Ann Jones o Ddulyn sy’n dod yn wreiddiol o Gymru ac a gafodd ei gwers gyntaf gan Nansi Richards.

CYNGERDD YR ŴYL

Bydd Cyngerdd yr Ŵyl – “Telynau’r Môr Celtaidd” a gynhelir Nos Iau, 13 Ebrill am 7.30 pm yn cynnwys perfformiadau o gerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon gan rai o delynorion mwyaf talentog y ddwy wlad. Daw deg o fyfyrwyr   o’r Conservatory Cerdd yn Nulyn i berfformio gyda thelynorion o Gymru mewn rhaglen o gerddoriaeth amrywiol – yn draddodiadol a chlasurol – o ddau lan y Môr Celtaidd.

Y gantores werin, Gwenan Gibbard, fydd yn canu caneuon gwerin o Gymru a bydd ei chôr newydd “Côr yr Heli” yn ymuno efo hi i gynnal eu perfformiad cyntaf mewn cyngerdd yng Nghymru cyn croesi’r môr i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Carlow, Iwerddon, yr wythnos ganlynol.

Estynnir croeso cynnes i ddwy o gyn-ddisgyblion disglair Canolfan Gerdd William Mathias – Elfair Grug Dyer a Rhiain Awel Dyer – i berfformio unawdau a deuawd gan Lywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis a bydd Côr Telyn Gwynedd a Môn yn agor y cyngerdd o dan arweiniad, Alwena Roberts, sy’n diwtor telyn i Wasanaeth Ysgolion Wiliam Mathias.

Yn ystod y cyngerdd, fe lansir taflen ragarweiniol  Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018   fydd yn dathlu pen blwydd 90 oed  telynor amlycaf Cymru –  Osian Ellis –  sydd yn byw ym Mhwllheli.

Mae tocynnau i’r cyngerdd a’r ddarlith ar gael o Swyddfa Docynnau Galeri 01286 685222.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...