Diwrnod Agored Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych!

Cyhoeddwyd: 26 Mehefin, 2017

Cynhelir Diwrnod Agored gan Canolfan Gerdd William Mathias yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar ddydd Sul y 9fed o Orffennaf.

Bydd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd gan gynnwys gwersi blasu am ddim ar y delyn, ffidil, canu a piano, sesiynau ‘Camau Cerdd’, sef prosiect i blant bach, Ensemble Telynau Iau i delynorion ifanc, ac i orffen cyngerdd gan fyfyrwyr presennol y Ganolfan Gerdd.

Bydd y diwrnod yn cychwyn gyda sesiwn blasu Camau Cerdd gyda’r tiwtor Charlotte Amy Green. Mae’r prosiect yn cyflwyno cerddoriaeth mewn modd sy’n llawn hwyl a dychymyg i blant bach. Bydd sesiwn i blant 15 mis – 3 mlwydd oed yn cael ei gynnal am 10:30yb, ac yna sesiwn i blant 4 – 7 oed i ddilyn am 11:30yb. Bydd y sesiwn blasu am ddim, ond mae angen archebu eich lle o flaen llaw.

Mae cyfres Camau Cerdd wedi bod yn cael ei gynnal yn Ninbych ers dwy flynedd bellach gyda prosiect yn cael ei gynnal yn Hwb Dinbych a Theatr Twm o’r Nant yn y prynhawniau yn ystod y tymor ysgol.

Bydd yr Ensemble Telynau Iau yn dilyn dan arweiniad Morwen Blythin a Dylan Cernyw ar gyfer telynorion ifanc hyd at safon gradd 3. Yn dilyn llwyddiant y prosiect ‘Telynau Clwyd’ sy’n cyfarfod unwaith y mis yn Hwb Dinbych, y diben yw medru ffurfio ensemble telynau i delynorion iau hefyd.

Dywedodd Morwen Blythin, un o arweinwyr y grŵp:

“Rwy’n edrych ymlaen at ddiwrnod agored CGWM Dinbych er mwyn cael cychwyn ensemble telyn newydd i delynorion iau. Mae ymarfer yn dasg unig weithiau ac felly mae cyfle yma i gyd-chaware â thelynorion eraill a chael hwyl fuddiol iawn ar gyfer telynorion yr ardal.”

Yn ychwanegol i’r prosiectau hyn, bydd cyfleoedd i dderbyn gwersi blasu am ddim gyda athrawon profiadol Canolfan Gerdd William Mathias. Yn ystod y diwrnod agored fe gynnigir gwersi blasu ffidil gyda Alfred Barker, telyn gyda Morwen Blythin, canu gyda Ann Atkinson a piano gyda Teleri-Siân.

Yn ôl Alfred Barker, tiwtor ffidil, “Mae’r diwrnod agored hwn yn gyfle gwych i bobl sydd wedi bod yn meddwl am gychwyn offeryn neu lais i gael gwers am ddim ac i gyfarfod y tiwtoriaid sydd gennym ni yma yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.”

Bydd angen archebu lle o flaen llaw ar gyfer y gwersi blasu drwy ffonio swyddfa CGWM.

I orffen y diwrnod cynhelir cyngerdd ‘Llwyfan Cerdd’ sef cyngerdd anffurfiol gan fyfyrwyr presennol y Ganolfan. Bydd tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn cael eu gwerthu ar y drws.

Er mwyn archebu eich gwers blasu am ddim, neu i archebu lle eich plentyn ar brosiect Camau Cerdd neu’r Ensemble Telynau Iau (am ddim), cysylltwch â Chanolfan Gerdd William Mathias ar 01286 685 230 neu ar ebost.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...