Soprano byd-enwog i serennu mewn cyngerdd i ddathlu penblwydd Canolfan Gerdd

Cyhoeddwyd: 3 Medi, 2019

Bydd un o sopranos enwocaf Cymru yn cymryd rhan flaenllaw mewn cyngerdd i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu Canolfan Gerdd sydd â changhennau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun.

Ynghyd â bod yn unawdydd o fri rhyngwladol, mae Mary Lloyd-Davies wedi dysgu yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers y cychwyn cyntaf.

Sefydlwyd y Ganolfan yng Nghaernarfon, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ugain mlynedd yn ôl gan grŵp o bobl oedd â diddordeb mawr mewn addysg cerddoriaeth, gyda’r nod o alluogi cerddorion a chantorion i gyrraedd eu potensial.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn Galeri Caernarfon dydd Sadwrn y 7fed o Fedi, pan fydd nifer o gerddorion arbennig yn ymuno gyda Mary Lloyd-Davies i nodi’r garreg filltir arbennig hon.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill bydd perfformiadau gan y delynores nodedig Elinor Bennett, a fu’n allweddol yn sefydlu y ganolfan, a’r ffliwtydd hynod dalentog, Rhiannon Mathias, merch y cyfansoddwr blaenllaw, yr Athro William Mathias, yr enwyd y ganolfan ar ei ôl.

Er ei bod wedi mwynhau gyrfa sydd wedi ei gweld yn perfformio yn nhai opera gorau’r byd, mae Mary Lloyd-Davies, sy’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala, wedi aros yn agos at ei gwreiddiau trwy diwtora myfyrwyr llais yn y ganolfan.

Meddai: “Rydw i wedi bod yn perfformio ers tua 1969 ac wedi mwynhau gyrfa fendigedig. Mae ‘na nifer o uchafbwyntiau gwych ac wrth gwrs yn anochel ambell i bwynt isel hefyd.

“Un uchafbwynt oedd perfformio yn Nhŷ Opera  La Scala yn Milan mewn opera o’r enw 1984 sy’n seiliedig ar lyfr enwog George Orwell.

“Rwyf hefyd wedi perfformio yn Hansel a Gretel yn San Francisco a Houston ac yn Elecktra gan Strauss yn yr Opéra Bastille ym Mharis. Fe wnes i fy ymddangosiad cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol fel y person deud ffortiwn yn Arabella. Fe wnes i hefyd treulio 22 mlynedd efo Opera Cenedlaethol Cymru gan chwarae prif rannau yn Fidelio, Macbeth, Elektra, Tosca, Ballo in Maschera a Tristan and Isolde.”

“Daeth y ‘big break’ i mi yn 1992. Roeddwn wrth gefn ar gyfer y brif ran yn opera Richard Strauss  Elektra. Fe aeth y brif gantores yn sâl, a bu’n rhaid i mi gamu i mewn heb lawer o rybudd o gwbl.

“Yna cefais gynnig y brif ran yn Elektra ym 1995 ar gyfer cynhyrchiad arall gan WNO ac yna camu i mewn ar fyr rybudd ar gyfer yr un rôl yn Opéra  Bastille ym Mharis ar gyfer cynhyrchiad gwahanol. Roedd hynny hefyd yn hwb mawr i’m gyrfa.”

Ychwanegodd: “Yn ogystal a gweithiau operatig, byddaf yn perfformio rhai o ganeuon gwerin traddodiadol Cymru a drefnwyd gan William Mathias, gyda’r delynores Elinor Bennett yn y cyngerdd. Perfformiais y caneuon gwerin yma yn ystod gwasanaeth coffa y ddiweddar Yvonne Mathias, gweddw William Mathias ’, ar gais eu merch Rhiannon.

“Mae trefn y cyngerdd yn drawiadol iawn oherwydd ynghyd ag Elinor Bennett mae gennym y delynores Glain Dafydd a’r pianydd Glian Llwyd, y ddwy ohonynt yn gyn-fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias.

“Hefyd yn perfformio bydd cyn-fyfyriwr sydd wedi dod yn artist llwyddiannus dros ben, Casi Wyn; y sielydd Gwydion Rhys a’r sopranos Tesni Jones a Lisa Dafydd, y ddwy yn fyfyrwyr yng nghangen CGWM yn Ninbych cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion.

“Bydd yn noson fendigedig o gerddoriaeth ac yn ffordd wych o ddathlu 20 mlynedd o lwyddiant Canolfan Gerddi William Mathias.”

“Mae’n bwysig iawn bod gennym Ganolfan Gerdd William Mathias yng Ngogledd Cymru. Nid oes unrhyw le arall yn y rhanbarth mewn gwirionedd sy’n cynnig ystod mor eang o weithgareddau cerddoriaeth o ansawdd uchel. Ac mae’r cyngerdd hwn yn mynd i fod yn ddathliad o rywbeth eithaf arbennig.”

Yn ôl Cyfarwyddwr y Ganolfan, Meinir Llwyd Roberts, mae elusen Canolfan Gerdd William Mathias yn  le arbennig llawn bwrlwm cerddorol i gerddorion o bob oed.

Meddai: “Dechreuodd y Ganolfan 20 mlynedd yn ôl gan gynnig gwersi un i un ac erbyn hyn mae gennym dros 40 o diwtoriaid llawrydd. Yn ogystal â darparu gwersi yn ein prif gangen yn Galeri Caernarfon rydym hefyd yn darparu hyfforddiant yn Ninbych a Rhuthun gyda gwersi yn cael eu cynnal yno ddwy noson yr wythnos.

“Ond rydym yn gwneud cymaint mwy na chynnig hyfforddiant un i un. Mae gennym brosiect cerdd yn arbennig ar gyfer plant cyn oedran ysgol, rydym yn gweithio mewn cartrefi gofal yn cynnig cerddoriaeth i bobl sy’n byw gyda dementia, yn trefnu grwpiau canu mewn cymunedau gwledig ac yn ddiweddar, rydym wedi sicrhau grant sylweddol i ddatblygu ein darpariaeth ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu.

“Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o ensembles a dosbarthiadau meistr ac yn trefnu Gŵyl Delynau Cymru yn flynyddol yn ogystal â Gŵyl Delynau Ryngwladol a Gŵyl Biano Ryngwladol bob pedair mlynedd.

“Mae’r ystod o weithgareddau rydyn ni’n ymwneud â nhw wedi tyfu’n sylweddol ac yn parhau i wneud hynny. Ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn gerddorion llwyddiannus iawn. “

“Bydd yn noson arbennig o gerddoriaeth gyda rhywbeth at ddant pawb a byddwn yn annog pawb sy’n mwynhau cerddoriaeth i archebu eu tocynnau nawr a dod i ddathlu efo ni.”

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...