2017 Wales Harp Festival

Cyhoeddwyd ar 15 March, 2017

12 &13 Ebrill 2017: Dathlu Telynau Iwerddon a Chymru.

Cynhelir Gŵyl Delynau Cymru ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill yng nghanol bwrlwm Galeri Caernarfon. Y Cyfarwyddwr yw’r delynores Elinor Bennett a bydd yr Ŵyl yn cynnwys cwrs deuddydd i delynorion yn ogystal â chyngerdd, cystadleuaeth a darlith. Trefnir yr ŵyl flynyddol hon gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Bob pedair mlynedd bydd yn newid i fod yn ŵyl 

TELYNORION O IWERDDON YN DOD I GYMRU I GOFIO HEN HEN CHWEDL

Cynhelir y cwrs deuddydd rhwng 10am – 5pm ar y ddau ddiwrnod a chroesewir telynorion o bob oed a gallu. Daw dwy delynores wych draw o’r Iwerddon – Denise Kelly a Cliona Doris –  i roi gwersi ac ymuno gyda’r tiwtoriaid o Gymru –  Elinor Bennett, Catrin Morris-Jones ac Elfair Grug – i ddysgu a dathlu hanes hirfaith y delyn yn y ddwy wlad Geltaidd. Caiff aelodau’r Cwrs gyfle i ddysgu alawon telyn Gwyddelig gan wyth o fyfyrwyr telyn o Ddulyn, fydd yn ymweld â Chymru, ac yn perfformio yn ystod yr Ŵyl.

DARLITH YR ŴYL  

Dydd Mercher, Ebrill 12 am 4pm, bydd Dr Sally Harper yn rhoi sgwrs ar

‘Greu traddodiad ar y cyd : Telynorion Cymreig a Gwyddelig yng Nghyngor Canoloesol Glyn Achlach, Leinster’

Yng ngeiriau Dr Harper, bydd yn sôn am “Chwedl Glyn Achlach” sydd wedi swyno cerddorion a haneswyr o Gymru ers canrifoedd.  Mae’n disgrifio’r bartneriaeth gerddorol gynnar a ddatblygodd rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod blynyddoedd cynnar y 12fed ganrif. Yn ganolog i’r chwedl yr oedd y ‘cyngor’ o delynorion Gwyddelig a Chymreig a ddaeth ynghyd yng Nghlyn Achlach. Eu bwriad oedd trafod agweddau mwyaf cain eu crefft, ac i gofnodi’r rheolau ar gyfer diogelu’r traddodiad i’r dyfodol.   

Ond i ba raddau y gallwn ni gredu’r adroddiad hwn – neu  ai dim ond chwedl ddychmygol yw hi wedi’r cyfan?

“Er fod y chwedl yn dangos nodweddion mytholegol, mae manylion eraill yn ffeithiol gywir. Gwyddom mai Glendalough yn Leinster yw ‘Glyn Achlach’ a’i fod unwaith yn gartref i Sant Cefyn, ac mai Brenin Iwerddon, Muirchertach O’Briain, oedd yn llywyddu’r cyfarfod allweddol hwnnw. Ond efallai mai’r hyn sydd fwyaf diddorol i ni yw beth a ddaeth allan o’r cyngor – sef casgliad o “fesurau” cerdd, neu batrymau sydd yn dal i oroesi. Mae eu dylanwad yn amlwg mewn llawysgrif a gopïwyd gan y telynor o Fôn, Robert ap Huw. Nid cyd-ddigwyddiad yw hi fod stamp yr iaith Gymraeg a’r Wyddeleg ar deitlau’r mesurau.”

Dr Sally Harper yw’r awdurdod pennaf yn  rhyngwladol ar gerddoriaeth gynnar Cymru a bydd yn cynnig allwedd i ddatgloi dirgelion un o’n  chwedlau difyr sydd wedi hen  fynd yn angof.  Bydd yn adrodd fel y bu i Gruffydd ap Cynan (c.1055-1137) a alwyd yn ‘Dywysog Cymru’ ddod â nifer o gerddorion gydag ef o’r Iwerddon, a threfnu cyngres fawr, neu eisteddfod, i delynorion a cherddorion o Gymru ac Iwerddon yng Nghaerwys, Sir y Fflint. Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

Dywedodd Cyfawyddwr yr Ŵyl, Elinor Bennett:

                “Y delyn yw emblem cenedlaethol Iwerddon ac mae  i’w gweld ar fflagiau,  arian  – ac mae’n logo i Guiness! Mae’n offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae’r traddodiad o delynori yn ymestyn yn ôl am 1500 mlynedd i’r 6ed ganrif, yn ôl tystiolaeth y beirdd a’u cerddi. Edrychaf ymlaen yn eiddgar i glywed beth ddigwyddodd pan aeth “Tywysog Cymru” – Gruffydd ap Cynan – â thelynorion o Iwerddon i gyfarfod eu cefndryd Celtaidd yng Nghymru.

                “Ym mis Ebrill eleni, daw telynorion ifanc o’r Iwerddon draw i Ŵyl Delynau Cymru i ail-greu diddordeb yn y digwyddiad a gymerodd le bron 880 mlynedd yn ôl.

Nodwyd 2017 yn “Flwyddyn y Chwedl” gan Llywodraeth Cymru, ac rwyf wrth fy modd fod y Dr Sally Harper wedi cytuno i  ddod i’r Ŵyl i atgoffa telynorion ein cyfnod ni o’r hen chwedl hon.  Mae’n braf iawn gwybod  mai  cerddor a aned yn Lloegr, ac sydd wedi dod yn rhan o’n cymdeithas,   sydd  wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i’n  haddysgu fel  Cymry am ein etifeddiaeth hynafol!”

Mae’r Ŵyl eleni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Nansi Richards a bydd Cystadleuaeth flynyddol Ysgoloriaeth Nansi Richards ar gyfer telynorion ifanc o dan 25oed o Gymru yn cael ei chynnal yn Galeri am 6.30pm Nos Fercher y 12fed o Ebrill. Y beirniad fydd y delynores Ann Jones o Ddulyn sy’n dod yn wreiddiol o Gymru ac a gafodd ei gwers gyntaf gan Nansi Richards.

CYNGERDD YR ŴYL

Bydd Cyngerdd yr Ŵyl – “Telynau’r Môr Celtaidd” a gynhelir Nos Iau, 13 Ebrill am 7.30 pm yn cynnwys perfformiadau o gerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon gan rai o delynorion mwyaf talentog y ddwy wlad. Daw deg o fyfyrwyr   o’r Conservatory Cerdd yn Nulyn i berfformio gyda thelynorion o Gymru mewn rhaglen o gerddoriaeth amrywiol – yn draddodiadol a chlasurol – o ddau lan y Môr Celtaidd.

Y gantores werin, Gwenan Gibbard, fydd yn canu caneuon gwerin o Gymru a bydd ei chôr newydd “Côr yr Heli” yn ymuno efo hi i gynnal eu perfformiad cyntaf mewn cyngerdd yng Nghymru cyn croesi’r môr i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Carlow, Iwerddon, yr wythnos ganlynol.

Estynnir croeso cynnes i ddwy o gyn-ddisgyblion disglair Canolfan Gerdd William Mathias – Elfair Grug Dyer a Rhiain Awel Dyer – i berfformio unawdau a deuawd gan Lywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis a bydd Côr Telyn Gwynedd a Môn yn agor y cyngerdd o dan arweiniad, Alwena Roberts, sy’n diwtor telyn i Wasanaeth Ysgolion Wiliam Mathias.

Yn ystod y cyngerdd, fe lansir taflen ragarweiniol  Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018   fydd yn dathlu pen blwydd 90 oed  telynor amlycaf Cymru –  Osian Ellis –  sydd yn byw ym Mhwllheli.

Mae tocynnau i’r cyngerdd a’r ddarlith ar gael o Swyddfa Docynnau Galeri 01286 685222.

Gwneud Rhodd

Hoffech chi gefnogi gwaith elusen Canolfan Gerdd William Mathias?

Digwyddiadau i Ddod

Mar 30

Gŵyl Delynau Cymru 2021

30 March, 2021 - 31 March, 2021
Apr 30

Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru

30 April, 2021 - 3 May, 2021

Erthyglau Arall

Fideo Canfod y Gân yn ystod y Cyfnod Clo

Fideo Canfod y Gân yn ystod y Cyfnod Clo

https://youtu.be/nEa1Novc0Po Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth. Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â...

Gwersi a Gweithgareddau Ar-lein

Gwersi a Gweithgareddau Ar-lein

Mae drysau ein canolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun ar gau ar hyn o bryd ond gyda chydweithrediad ein tîm gwych o diwtoriaid mae’r gerddoriaeth yn parhau. Dyma flas o’r gweithgareddau sydd gennym ar-lein ac mae mwy i ddod yn yr wythnosau nesaf…...

COVID-19

COVID-19

Mae hi wedi bod yn gyfnod heriol, gyda’r sefyllfa yn newid o ddydd i ddydd. Iechyd a lles ein staff, tiwtoriaid a disgyblion yw’n blaenoriaeth ac felly mae holl weithgareddau wyneb yn wyneb wedi eu gohirio am y tro.   Dyma beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf o ran...

Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias.

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

You have Successfully Subscribed!

Share This