Llwyddiant i Ddisgybl o Ddinbych mewn Cyngerdd yng Nghaernarfon

Cyhoeddwyd: 23 Hydref, 2015

Cynhaliwyd cyngerdd ar nos Wener y 18fed o Fedi gan Canolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon er mwyn cydnabod llwyddiannau’r Ganolfan Gerdd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Ymhlith y myfyrwyr a berfformiodd ac a dderbyniodd wobrau roedd Erin Swyn o Lannefydd sydd wedi bod yn derbyn gwersi gyda Ann Atkinson yng Nghangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias am sawl mlynedd bellach.

Gwobrwywyd Erin, disgybl yn Ysgol Glan Clwyd, gyda Chwpan a roddwyd gan Gôr Meibion Caernarfon er cof am un o’u cyn aelodau, Thomos William Jones. Derbyniodd y gwpan am iddi gael y marciau uchaf ymhlith disgyblion y Ganolfan Gerdd mewn arholiad ymarferol gradd 1 i 5 gan lwyddo i ennill 142 marc allan o 150 yn ei arholiad canu gradd 3 yn ddiweddar.

Roedd Erin sydd hefyd yn derbyn gwersi piano yn y Ganolfan Gerdd gyda Teleri-Siân, a gwersi clarinét yn yr ysgol gyda Dave Hopkins, wedi ei synnu wrth glywed ei bod wedi derbyn y marciau uchaf mewn arholiad ymhlith myfyrwyr y Ganolfan:

‘Doedd gennyf ddim syniad fy mod wedi ennill y gwpan nes clywed fy enw yn cael ei alw allan! Roedd y Ganolfan Gerdd wedi ei gadw’n sypreis i mi gan ddweud wrthyf mai perfformio ar y noson oeddwn yn ei wneud yn unig!’

Roedd Ann Atkinson, tiwtor canu Erin wrth ei bodd gyda’r newyddion. ‘Mae Erin wedi gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn – mae’n fraint cael ei dysgu, ac rwyf wrth fy modd o weld ei gwaith caled yn dwyn ffrwyth. Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at fynd ymlaen gyda Erin i ddysgu repertoire newydd a chychwyn paratoi ar gyfer ei arholiad gradd 4.’

Bu’r gantores ifanc yn rhannu’r llwyfan gyda rhai o gerddorion talentog eraill y ganolfan gerdd gan gynnwys Ensemble Cellos y Ganolfan, unawdwyr eraill, triawdau a phedwarawdau, perfformiad o ddau ddarn gan gyfansoddwyr ifanc y Ganolfan, ynghyd â pherfformiad o ambell i ddarn o Offeren Mozart gan Gôr Siambr y Ganolfan.

Dathlodd y Ganolfan Gerdd ei phen-blwydd yn 15 mlwydd oed yn ddiweddar ac dim ond yn ddiweddar yn 2012 y cychwynnodd ddarparu hyfforddiant cerdd yn Ninbych gyda darpariaeth o brosiectau megis Camau Cerdd i blant ifanc, grŵp telyn Telynau Clwyd a gwersi theori yn cael eu cynnig gan y Ganolfan yn Ninbych am y tro cyntaf ym mis Hydref.

Erthyglau Eraill

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o'n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o'r noson arbennig yma…. Pedwar Premier Byd - Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes Eisteddfod Tregaron 2022 Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George...