Côr Hamdden Mathias
Ffurfiwyd Côr Hamdden Mathias yn Nhachwedd 2014 gan ddarparu cyfleoedd i drigolion lleol i ddod ynghyd â mwynhau canu. Sefydlwyd yn wreiddiol fel côr lleisiau cymysg, ac fe ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn gôr lleisiau merched.
Mae’r côr yn cael ei arwain gan Geraint Roberts. Mae gan Geraint brofiad helaeth o arwain corau – ef oedd arweinydd Côr Trelawnwyd rhwng 1981 – 2015, ac mae wedi ei wahodd ar draws y byd fel arweinydd gwadd.
Mae’r Côr wedi rhoi nifer o berfformiadau dros y blynyddoedd – gan cynnwys cyngherddau codi arian i Cyfeillion CGWM, Tonic Galeri, amryw o gyngherddau CGWM ac maen nhw’n perfformio yn rheolaidd i breswylwyr Bryn Seiont Newydd.
Cynhelir ymarferion y côr rhwng 1:00pm – 3:00pm ar brynhawniau Iau (yn cynnwys egwyl fer). Mae croeso mawr i aelodau newydd!!
Cysylltwch â ni ar gyfer rhagor o wybodaeth ac i gofrestru.
