Telynau Clwyd
Sefydlwyd Telynau Clwyd ym mis Hydref 2015 yn dilyn sesiwn blasu llwyddiannus yn ystod diwrnod agored y Ganolfan yn Ninbych rhai misoedd ynghynt.
Morwen Blythin a Dylan Cernyw yw arweinyddion y grŵp, a dan eu arweiniad mae’r grŵp wedi cymryd rhan mewn cyngherddau yn Eglwys Santes Fair (2016), a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ynghyd â chyngherddau Llwyfan Cerdd CGWM.
Mae’r grŵp yn addas i delynorion oedran ysgol, ac mae gennym ni dau grŵp safon sy’n dod at eu gilydd unwaith y mis ar ddyddiau Sul yn Ninbych:
Telynau Clwyd Iau: I delynorion oed ysgol safon i fyny at gradd 3.
Telynau Clwyd Hŷn: I delynorion oed ysgol gradd 3 ac uwch.
Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Telynau Tandderwen i’r prosiect hwn.

Arweinyddion Telynau Clwyd: Dylan Cernyw a Morwen Blythin
Cofrestru
Telynau Clwyd Iau (Hyd at safon Gradd 3)
Cyfres Mawrth – Gorffennaf 2020
Yn addas i blant oedran ysgol hyd at safon gradd 3.
Dyddiadau’r gyfres:
Dyddiadau’r gyfres nesaf i’w cadarnhau.
Cynhelir yr ymarferion arferol rhnwg 10:30 – 12:00 yn Hwb Dinbych. Rhaid cofrestru o flaen llaw.
Telynau Clwyd Hŷn (Gradd 3+)
Cyfres Hydref 2019 – Mawrth 2020
Dyddiadau’r gyfres:
Dyddiadau’r gyfres nesaf i’w cadarnhau.
Cynhelir yr ymarferion arferol rhwng 11:00 – 1:15pm yn Hwb Dinbych.