All
Brass
Keyboard
Percussion
Strings
Voice
Woodwind
Theory

Morwen Blythin

Telyn, Theori
Morwen Blythin

Telyn, Theori

Dechreuodd Morwen astudio'r delyn pan yn 9 oed ac yn dilyn llwyddiant yn yr Ŵyl Gerdd Dant ac Eisteddfod Genedlaethol parhaodd ei hastudiaethau yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, gan raddio yn 1988. Cafodd gyfle i berfformio mewn achlysuron ar gyfer aelodau o'r teulu Brenhinol, gan gynnwys y diweddar Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines: Diana, Tywysoges Cymru; Tywysog Philip, a hefyd wedi perfformio yn ninas Llundain mewn achlysuron a fynychwyd gan bum gwahanol Arglwydd Faer, y diweddar Farwnes Thatcher, John Major a boneddigion eraill.
Cafodd Morwen gyfle i deithio o amgylch y Deyrnas Unedig a pherfformio yn y West End gyda nifer o sioeau cerdd gan gynnwys The Sound of Music , Phantom of the Opera , Some Like it Hot , Sunday in the Park with George, Oklahoma!, Valentine’s Day ac wedi chwarae gyda gwahanol gerddorfeydd , cwmnïau opera a chwmnïau bale.
Fel unawdydd , mae hi wedi perfformio consierto Mozart i Ffliwt a Thelyn a consierto Handel i’r Delyn ac wedi rhoi datganiadau ac ymddangosiadau cyngerdd yng Nghymru a Lloegr. Dychwelodd Morwen i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ac enillodd radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1996 ac wedi hynny dechreuodd ei gyrfa addysgu , yn gyntaf yn Wrecsam , ac yna ymunodd ag Ysgol Howell’s yn 1998 lle bu'n dal y swydd o Bennaeth Cerdd ac yna Athrawes Hyn hyd nes y bu cau'r ysgol ym mis Awst 2013.
Ar hyn o bryd mae Morwen yn dysgu ar gyfer Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych ac i nifer o ysgolion yn Wrecsam. Mae ganddi nifer cynyddol o ddisgyblion telyn a phiano preifat ac mae hi wedi dechrau fel cyfeilydd i Gôr Cytgan yn ddiweddar. Mae Morwen yn cyfeilio i Gerdd Dant yn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd ac yn perfformio ar y delyn a'r piano ar gyfer achlysuron, priodasau a chyngherddau.

Helen Owen

Piano
Helen Owen

Piano

Wedi dysgu Cerddoriaeth mewn ysgolion yn y De, Canolbarth a Gogledd Cymru, mae hi erbyn hyn yn dysgu Cerddoriaeth a Chymraeg yn Ysgol Friars ym Mangor ers nifer o flynyddoedd.
Yn ei hamser hamdden mae hi’n mwynhau cyfeilio i gorau ac i unigolion, hyfforddi ar gyfer eisteddfodau yn ogystal â bod yn fam i ddau o blant!

Graham Land

Cit Drymiau
Graham Land

Cit Drymiau

Cychwynnodd Graham ddysgu’r drymiau o oedran uchel, ac yn fuan wedi iddo adael Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon cychwynnodd chwarae yn led-broffesiynol mewn bandiau lleol, teithio ar hyd a lled Prydain yn dysgu ei grefft. Symudodd Graham i Gaerdydd yn y wythdegau cynnar i chwarae yn broffesiynol, gan chwarae mewn nifer o gyngherddau, ar y teledu a radio ac mewn sesiynau recordio, ac mae’n parhau i wneud hyn hyd heddiw.
Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd, bu Graham yn teithio yn ôl ag ymlaen i Lundain i weld ei diwtor a hyfforddwr drymiau Robbie France, drymiwr byd enwog o Awstralia. Dyma restr fer o artistiaid o ddisgyddiaeth Graham. The Drifters, Cerddorfa’r BBC, Bryn Terfel, Cerys Matthews, Rhys Meirion, Meic Stevens, Caryl Parry Jones, John Owen-Jones. Mae’r rhestr yn mynd ymlaen.
Mae wedi bod yn aelod o Bryn Fôn a’r Band ers canol y nawdegau gan recordio nifer o’i albymau mwyaf poblogaidd. Mae Graham yn dysgu’r drymiau o gradd 1 i gradd 8 ac mae wedi bod yn dysgu i’r Ganolfan ers 14 mlynedd.

Neil Browning

Giâr, acordion
Neil Browning

Giâr, acordion

Mae diddordebau cerddorol a gweithgareddau hyfforddi Neil Browning yn amrywiol iawn. Fel prif diwtor gitâr CGWM am dros ddeng mlynedd, mae’n dysgu mewn nifer o arddulliau o glasurol i roc, ynghyd â bod yn diwtor ar gyfer prosiect Galeri ar gyfer grwpiau gitâr drydanol, Sbarc!
Mae llawer o ofyn amdano hefyd yn y sîn cerddoriaeth draddodiadol fel hyfforddwr cwrs ac arweinydd gweithdai. Mae Neil wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer y teledu ac wedi chwarae mewn pob math o sioeau byw, gan gynnwys cynyrchiadau theatr deithiol a gigs ledled Ewrop ac America.
Mae wedi dysgu amrywiaeth o gyrsiau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio yng Ngholeg Addysg Bellach Yale yn Wrecsam, lle bu iddo hefyd ennill ei gymhwyster T.A.R. Yn fwy diweddar mae Neil wedi chwarae a recordio gyda Cajuns Denbo (acordion), band roc wedi ei sefydlu yng Nghaerdydd Bluehorses (gitâr) a Billy Thompson Gypsy Style (gitâr), ynghyd â’i band sy’n herio categorïau genre Never Mind the Bocs, a ryddhaodd eu hail albwm yn 2014.

Ann Atkinson

Llais
Ann Atkinson

Llais

Ar ôl ennill ei B.Add o Brifysgol Cymru dilynodd yrfa addysgu. Fodd bynnag, yn 1990, enillodd Ann ysgoloriaeth i astudio canu gyda Kenneth Bowen yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Ers hynny mae hi wedi perfformio fel cantores ledled y DU a thramor , mewn amrywiaeth o leoliadau a gyda llawer o Gwmnïau Opera Prydain, gan gynnwys Scottish Opera a Opera Gŵyl Glyndebourne.
Mae gyrfa Ann wedi mynd â hi i lawer o wahanol rannau o'r byd , gan gynnwys Ewrop , yr Unol Daleithiau , Asia ac Awstralia . Yn ystod haf 2005 bu'n daith Seland Newydd ac Awstralia fel unawdydd gyda Chôr Llewod. Penllanw'r daith oedd cyngerdd gala yn y Sydney Opera House. Yn ychwanegol at ei gyrfa canu mae Ann yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru', yn arweinydd Côr Meibion Bro Glyndŵr a Threlawnyd yn ogystal â bod yn diwtor llais i Ganolfan Gerdd William Mathias.
O 2002 i 2009 roedd Ann hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Froncysyllte. Yn ystod y cyfnod hwn roeddynt yn enillwyr gwobrau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yng Ngŵyl Harmonie yn yr Almaen.
Yn 2006 bu i'r Côr sicrhau cytundeb gyda Universal a daeth CDs y 'Voices of the Valley' i fodolaeth gan werthu dros 1 miliwn o gopïau. Cafodd pob un o'r pedwar CDs eu henwebu ar gyfer 'Albwm y Flwyddyn' yng ngwobrau'r Brits Clasurol. Mae Ann yn ymfalchïo o fod yn arweinydd ac unawdydd ar y CDs . Yn 2007 buont yn perfformio yng Ngwobrau Brits Clasurol yn Neuadd Albert ac maent wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu ac mewn cyngherddau lu yn ystod y cyfnod prysur hwnnw.

Dinbych, Rhuthun

Teleri-Siân

Piano
Teleri-Siân

Piano

Cafodd Teleri-Siân ei gwersi piano cyntaf gan ei thad yn dair oed, ac roedd wedi dechrau perfformio yn gyhoeddus ymhen blwyddyn.
Tra roedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd ymunodd âg adran iau Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion, lle parhaodd i astudio llawn amser, yn graddio yn 2000, wedi derbyn Gwobr Goffa Marjorie Clementi. Mae wedi teithio i sawl gwlad Ewropeaidd, Hong Kong ac America fel unawdydd, yn ogystal â lleoliadau ledled Prydain. Mae hi yn mwynhau perfformio yn gyson fel datgeiniad ac unawdydd consierto ac yn diwtor piano ym Mhrifysgol Bangor, adran iau Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd a Chanolfan Gerdd William Mathias.
Mae gan Teleri-Siân hefyd radd Meistr mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Manceinion.

Marie-Claire Howorth

Piano, Clarinét, Sacsoffon
Marie-Claire Howorth

Piano, Clarinét, Sacsoffon

Mae Marie-Claire Howorth yn gerddor proffesiynol creadigol sy’n ymdrechu i ysbrydoli. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion a chydweithio ag amryw o bartneriaid ar brosiectau. Mae ganddi nifer o flynyddoedd o brofiad yn dysgu chwythbrennau fel athrawes beripatetig i Gwasanaeth Ysgolion William Mathias ac wedi dysgu’r clarinét, sacsoffon a phiano yn y Ganolfan ers iddo gychwyn.
Mae Marie-Claire wedi ei chofrestru fel Ymarferwr Creadigol ar gynllun Celfyddydau a dysgu creadigol newydd y Cyngor Celfyddydau. Mae hi wedi gweithio gyda’r Ganolfan ar nifer o brosiectau megis Caru Cerdd, Clwb Plant y Rhyl, Doniau Cudd, a Singing for the Brain gyda’r Gymdeithas Alzheimer. Gyda diddordeb mewn sut mae pobl yn dysgu a rhyngweithio, mae hi yn mwynhau ei rôl fel siaradwr gwadd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ar gyfer y modiwl Cerdd yn y Gymuned.
Marie-Claire sy’n sgwennu cynlluniau’r gwersi a’r caneuon ar gyfer Camau Cerdd. Mae hi’n rhannu pob agwedd o’i dulliau arloesol a defnydd o’r adnoddau gydag ymarferwyr Camau Cerdd newydd y hyfforddir ganddi hi gan sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfleoedd i dderbyn y profiadau cyfoethog o ddysgu a ddarperir gan Camau Cerdd.

Nia Davies Williams

Piano, Telyn
Nia Davies Williams

Piano, Telyn

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, graddiodd Nia Davies Williams mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan fynd ymlaen i gwblhau gradd Meistr a ganolbwyntiai ar berthynas cerddoriaeth â dementia. Bu’n cydlynu grwpiau Singing for the Brain gan y Gymdeithas Alzheimers yng ngogledd Cymru am dair blynedd. Penodwyd Nia yn Gerddor Preswyl yng nghanolfan newydd Gofal Dementia Bryn Seiont yng Nghaernarfon, sydd yn rhan o sefydliad Parc Pendine yn Wrecsam. Y Delyn a'r piano yw ei phrif offerynnau. Cwblhaodd ddiploma dysgu gyda'r Coleg Cerdd Frenhinol ac mae bellach wedi bod yn rhoi gwersi piano ers dros bymtheg mlynedd.

Johanne Jones

Llais
Johanne Jones

Llais

Mae Johanne yn cynnig hyfforddiant mewn arddulliau pop, Disney a sioeau cerdd i'w myfyrwyr yn CGWM. Dechreuodd berfformio o flaen cynulleidfaoedd yn 11 oed, yn yr eglwys leol, mewn cynyrchiadau ysgol ac fel aelod o gôr.
Datblygodd ei llais ymhellach drwy gystadlu a chael hyfforddiant lleisiol clasurol ac opera. Fe aeth ymlaen i astudio’r Celfyddydau fel pwnc Lefel A, a graddio gydag anrhydedd mewn Celfyddydau Perfformio a’r Cyfryngau. Cafodd swydd fel ‘Cot Goch’ cyn mynd ymlaen i sefydlu gyrfa fel cantores hunan-gyflogedig gan berfformio mewn canolfannau ledled Cymru..
Mae Johanne wedi bod yn cynnig hyfforddiant lleisiol a datblygu hyder perfformio ers 2004. Mae'n trefnu i'w myfyrwyr ddod at ei gilydd ddwywaith y flwyddyn i berfformio yn unigol ac fel grwpiau. Ei nod yw cynyddu hyder pobl i gredu ynddynt eu hunain, nid yn unig ym maes canu a pherfformio, ond yn ogystal yn eu bywydau bob dydd.

Jenny Jones

Piano
Jenny Jones

Piano

1 2 3 4
Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias.

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

You have Successfully Subscribed!