
Marie-Claire Howorth
Mae Marie-Claire Howorth yn gerddor proffesiynol creadigol sy’n ymdrechu i ysbrydoli. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion a chydweithio ag amryw o bartneriaid ar brosiectau.
Marie-Claire sy’n sgwennu cynlluniau’r gwersi a’r caneuon ar gyfer Camau Cerdd. Mae hi’n rhannu pob agwedd o’i dulliau arloesol a defnydd o’r adnoddau gydag ymarferwyr Camau Cerdd newydd y hyfforddir ganddi hi gan sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfleoedd i dderbyn y profiadau cyfoethog o ddysgu a ddarperir gan Camau Cerdd.

Elin Wyn Roberts
Graddiodd Elin o Birmingham Conservatoire yn 2014 gyda anrhydedd dosbarth cyntaf mewn perfformio.Yn ystod ei chyfnod yno, bu’n aelod o gerddorfeydd ac ensemble, cymerodd ran mewn dosbarthiadau meistr, a fe chyrhaeddodd rownd derfynol y BPO Concerto Prize ac enillodd y Birmingham Conservatoire Woodwind Prize.
Yn ddiweddar, cwblhaodd radd meistr ym Mhrifysgol Bangor. Mae Elin bellach yn diwtor chwythbrennau mewn amryw o ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Gogledd Cymru. Ers 2015, mae Elin wedi bod yn cyd-weithio gyda Marie-Claire ac ers 2016 wedi bod yn un o diwtoriaid Camau Cerdd.

Elin Taylor
Graddiodd Elin Taylor â gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Caerdydd ac fe dderbyniodd ysgoloriaeth er mwyn mynd ati i astudio ymhellach ar lefel Meistr gan raddio gyda rhagoriaeth. Fel aelod o gerddorfa, mae Elin wedi perfformio yn helaeth yn Lloegr a Chymru, ac ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol yn yr Almaen, Ffainc, Gwlad Belg a China. Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol cafodd ei apwyntio fel prif sielydd Cerddorfa symffoni Prifysgol Caerdydd yn ei blwyddyn gyntaf gan gadw’r rôl drwy gydol ei chyfnod yn astudio ei gradd isradd, ynghyd â Cherddorfa Siambr y Brifysgol, Cerddorfa Linynnol a Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes. Ar hyn o bryd mae hi’n perfformio gyda’r Ashdown Sinfonia sydd wedi ei leoli yn Llundain, Camerata Gogledd Cymru a’r Philharmonia Gogledd Cymru. Mae hi hefyd wedi derbyn gwahoddiadau i berfformio fel unawdydd ar gyfer cerddorfeydd Llinynnol a Chyngerdd Prifysgol Caerdydd.
Mae brwdfrydedd Elin ar gyfer cerddoriaeth siambr wedi ei harwain i sefydlu’r Pedwarawd Llinynnol Claret yn 2016. Mae’r pedwarawd yn gwneud ymdrech i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion drwy berfformio mewn ysgolion. Rhoddwyd perfformiadau hefyd yn Academi Prydain Iau Brwsel ac mewn digwyddiadau codi arian ar gyfer elusen ‘Making Music Changing Lives’ sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Hefyd fel un o’r aelodau a sefydlwyd y Camerata Gogledd Cymru, mae Elin yn gweithio i godi arian i gefnogi gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru drwy berfformio. Mae’r Camerata yn rhoddi arian yn gyson tuag at Gerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, cerddorfeydd mae Elin wedi gweld budd o fod yn aelod ei hun yn y gorffennol. Mae profiadau cymdeithasol cadarnhaol mae Elin wedi ei gael wrth berfformio cerddoriaeth wedi ei gadael yn angerddol ynghylch datblygiad cerddorol mewn cymunedau, ac wrth gwrs cynhaliaeth cerddoriaeth i’r ifanc ar gyfer y dyfodol, gan arwain iddi ddysgu. Yn 2015, fe greodd Elin Cyfres Cyngherddau Cymunedol Caerdydd, gan ddarparu cyngherddau am ddim i drigolion ynysig yng Nghaerdydd. Yn 2018 arweiniodd Elin cyfres o weithdai cyfansoddi cerddoriaeth yn Ysgol Gynradd Llanllechid ac mae hi’n dysgu i Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.