Yn wreiddiol o Ben Llŷn, graddiodd Nia Davies Williams mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan fynd ymlaen i gwblhau gradd Meistr a ganolbwyntiai ar berthynas cerddoriaeth â dementia. Bu’n cydlynu grwpiau Singing for the Brain gan y Gymdeithas Alzheimers yng ngogledd Cymru am dair blynedd. Penodwyd Nia yn Gerddor Preswyl yng nghanolfan newydd Gofal Dementia Bryn Seiont yng Nghaernarfon, sydd yn rhan o sefydliad Parc Pendine yn Wrecsam. Y Delyn a’r piano yw ei phrif offerynnau. Cwblhaodd ddiploma dysgu gyda’r Coleg Cerdd Frenhinol ac mae bellach wedi bod yn rhoi gwersi piano ers dros bymtheg mlynedd.