Ganwyd Mary Lloyd-Davies yn Llanuwchllyn, pentref bychan ym Meirionnydd sy’n gryf ym mhob agwedd o draddodiadau gwir Gymreig. Aeth i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle’r astudiodd gyda Ruth Packer a Gordon Stewart. Tra yn y Coleg, enillodd wobrau lu, – gwobr Henry Leslie, gwobr Harry Evans, “Geoffrey Tankard Lieder Prize” – Rhuban Glas (Osborne Roberts) yn Eisteddfod Rhuthun, Canwr y Flwyddyn yn Llangollen. Bu yn rownd derfynol Gwobr Kathleen Ferrier ddwywaith, a thrwy ennill Ysgoloriaeth Miriam Licette aeth i astudio i Baris gyda Pierre Bernac.
Treuliodd ddyddiau cynnar ei gyrfa yn canu mewn cyngherddau ac Oratorios ar hyd a lled y wlad, a thramor. Teithiodd i’r Almaen, De a Gogledd America , Canada , Yr Iseldiroedd ac Israel. Perfformiodd amryw rannau mewn opera yn Vermont ,U.D.A. Ymddangosodd mewn Neuaddau ac Eglwysi Cadeiriol mwyaf blaenllaw ein gwlad, ynghyd a’r B.B.C Proms.
Dechreuodd ei gyrfa Operatig gyda Chwmni Glyndebourne. Bu’n Unawdydd gyda Chwmni Opera Cymru (Die Walkure, Tosca, Fidelio, Elektra, Macbeth,Turandot, Tristan ac Isolde , Turn of the Screw, Der Fliegende Hollander, Hansel a Gretel Cwmni Opera Lloegr (Lohengrin, Isolde, Turn of the Screw, Barber of Seville, Traviata) ynghyd ac amryw o berfformiadau cyngerdd o Operâu. Bu’n canu rhan Ortlinde yn Bayreuth trwy gyfnod y cynhyrchiad hwnnw, (gyda James Levine) rhan a gannodd hefyd i Ŵyl Caeredin (gyda Antonio Pappano)
Dramor mae wedi perfformio i Houston Grand Opera, San Francisco Opera, Y Bastille ym Mharis a Nurnberg.
Ei ymddangosiad cyntaf gyda “Covent Garden” oedd yn “Arabella” yna cafodd ran yn Opera newydd Lorin Maazel – “1984”- rhan a ail –ganodd yn Valencia ac yn La Scala, Milan. Gwahoddwyd hi hefyd i ganu mewn gwaith Symphonig o “1984”. i ddathlu pen blwydd Lorin Maazel yn 80 oed yn Vienna, gyda Cherddorfa Philharmonic Vienna.
Mae Mary yn dysgu yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon, ac wrth ei bodd wrth basio’i gwybodaeth a’i hyfforddiant ymlaen at gantorion ifanc.