Tenor o Landudno yw Elgan Llŷr Thomas, sydd erbyn hyn wedi ymgartrefu ym Manceinion. Ynghyd â bod yn athro brwdfrydig mae’n dilyn gyrfa brysur fel canwr opera llawrydd ac wedi gweithio gyda’r English National Opera lle y mae’n Artist Harewood, Scottish Opera, Opera Holland Park, Théâtre des Champs-Elysées ym Mharis, Opéra National de Bordeaux, La Monnaie ym Mrwsel ac mae wedi perfformio mewn nifer o wyliau ar draws y byd yn gynnwys Gŵyl Gerdd Ojai yng Nghaliffornia, Gŵyl Adelaide yn Awstralia a Gŵyl Aldeburgh yn Suffolk.
Mae galw mawr amdano i berfformio mewn cyngherddau ac mae Elgan wedi perfformio gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Copenhagen, Cerddorfa Symffoni Xi’an, China, Orchest Symphonique de Bretagne, ac uchafbwynt iddo oedd perfformio fel unawdydd yn Messiah Handel yn y Royal Albert Hall gyda Cherddorfa’r Royal Philharmonic.
Hyfforddodd Elgan yng Ngholeg Cerdd Frenhinol y Gogledd ac Ysgol Cerdd a Drama Guildhall. Yn ystod ei gyfnod yn astudio fe dderbyniodd nifer o wobrau, yn cynnwys Gwobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows 2015 a’r wobr cynulleidfa, Gwobr Artist Ifanc 2015 a’r wobr cynulleidfa yng Ngŵyl Les Azuriales yn Nice, Gwobr Goffa Osborne Roberts 2012 a 1af yn yr unawd Theatr Gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, mae’n gyn-enillydd Ysgoloriaeth Genedlaethol yr Urdd Bryn Terfel.