Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir.

Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf.

Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard Jones ym Mhrifysgol Bangor am 7.30pm nos Sadwrn, Hydref 22, i ddathlu 55 mlynedd o berfformio gan Elinor a chanmlwyddiantYsgol Gerddoriaeth y brifysgol.

Ymysg yr uchafbwyntiau eraill bydd perfformiadau gan y tenor Aled Wyn Davies, y soprano Mary Lloyd Davies, y ffliwtydd Rhiannon Mathias a Chôr Seiriol.

Bydd yn cynnwys darnau a chwaraewyd dros y blynyddoedd gan Elinor, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig yr ŵyl delynau ers 1978 ac mae hefyd yn dynodi diwedd ei chyfnod yn y swydd.

Ar ôl y lansiad, bydd Elinor yn cychwyn ar daith 12 cyngerdd a dosbarth meistr ledled Cymru lle bydd yn chwarae gyda gwahanol delynorion – y mae hi wedi dysgu’r rhan fwyaf ohonynt – ym mhob lleoliad.

Bwriad y daith yw ennyn diddordeb yn y delyn ymhlith cerddorion ifanc ac annog telynorion o bob oed i gystadlu yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

Wrth nesáu at ben-blwydd arwyddocaol fis Ebrill nesaf, dywedodd Elinor, sy’n byw yn y Bontnewydd ger Caernarfon gyda’i gŵr, cyn Lywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley, ei bod hi’n bryd camu’n ôl a chaniatáu i rywun arall gymryd yr awenau.

Wrth edrych ymlaen at y cyngerdd lansio, dywedodd: “Mae yna raglen amrywiol a fydd, gobeithio, yn apelio at bawb a hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r ŵyl delynau ei hun.

“Hon fydd fy ngŵyl delynau olaf, dydw i ddim yn mynd i wneud mwy o drefnu ar ôl hon a bydd y baton yn cael ei drosglwyddo i rywun arall.

“Dydw i ddim yn gwybod pwy eto ond mae yna lawer iawn o bobl sydd â’r gallu i fynd â’r ŵyl yn ei blaen ond rydw i eisiau mynd allan gyda thipyn o steil.”

Bydd Elinor yn chwarae’r Concerto enwog i’r Delyn gan Handel gydag Ensemble Prifysgol Bangor a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys Ensemble Telynau Gogledd Cymru, dan arweiniad Tudor Eames a oedd yn ddisgybl i Elinor.

Yn y cyfamser, bydd Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn yn perfformio ochr yn ochr ag aelodau Cymdeithas y Delyn Deires a Chôr Seiriol.

Ychwanegodd Elinor: “Mae gan yr artistiaid sy’n cymryd rhan rhyw gysylltiad â mi dros y blynyddoedd. Rwy’n falch bod Aled Wyn Davies, y tenor o fri, o Lanbrynmair yn perfformio, oherwydd ar un adeg roedd ei nain a’i daid yn byw yn y fferm lle’r bu fy rhieni yn byw.

Mae’r ffermdy hwnnw bellach o dan ddyfroedd Llyn Clywedog ond roeddwn i’n gallu mynd lawr yno efo Aled yn yr haf ar ôl i lefel y dŵr ostwng a chael gweld yr adeilad unwaith eto. Felly mae cael Aled yma i ganu yn hyfryd.

“Mae’r soprano Mary Lloyd Davies yn dod o Lanuwchllyn, lle treuliais ran helaeth o fy mhlentyndod.

“Yr unawdwyr eraill yw Mared Emlyn a fydd yn chwarae concerto gan Debussy ar y delyn a’r ffliwtydd Rhiannon Mathias. Mae hi wrth gwrs yn ferch i William Mathias ac mae’r cysylltiad efo fo yn bwysig iawn.”

Dywedodd Elinor fod y rhaglen yn amrywiol oherwydd bod ei gyrfa wedi bod yn eithaf amrywiol gan gynnwys perfformiadau clasurol fel unawdydd a chyda cherddorfeydd a chyfeilio ar sawl albwm hefyd i gerddorion roc.

“Roeddwn i eisiau iddo fod mor amrywiol ac mor hygyrch â phosibl,” meddai Elinor.

Bydd y daith cyn yr ŵyl o’r enw Dwylo ar Dannau’r Delyn yn cynnwys dosbarthiadau meistr dan arweiniad Elinor a rhai o’i chyn-fyfyrwyr a’i chydweithwyr, yn mynd i leoliadau cymunedol ledled Cymru, i hyrwyddo’r ŵyl ac ailgynnau diddordeb mewn cerddoriaeth telyn yn dilyn pandemig Covid.

Bydd y bumed Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn dod ag arbenigwyr blaenllaw’r offeryn o bedwar ban byd i Galeri Caernarfon rhwng Ebrill 5-11, 2023. Trefnir yr ŵyl gan Ganolfan Gerdd William Mathias a bydd yn cynnwys cyngherddau, dosbarthiadau meistr, gweithdai a darlith-ddatganiadau.

Yn ôl Elinor, bydd perfformiadau gan artistiaid o safon rhyngwladol yn cynrychioli gwahanol agweddau o ganu’r delyn.

“Bydd y telynor Lladin-Americanaidd, Edmar Castaneda o Colombia, yn rhannu cyngerdd gyda’r delynores Gymreig, Catrin Finch.

Mae’r artist Ffrengig gwych, Isobel Moretti, yn dychwelyd i Gaernarfon i berfformio clasuron y repertoire telyn Ffrengig, a bydd yn hyfryd hefyd croesawu’r eiconig Deborah Henson-Conant o UDA yn ôl, i gyflwyno noson jazz a byrfyfyr yn ei harddull ddihafal ei hun.

“Bydd Llywydd sy’n Ymddeol Cymdeithas Delynau’r Deyrnas Unedig, Sioned Williams, yn cyflwyno darlith-ddatganiad ar John Thomas, Pencerdd Gwalia, a bydd gweithdy cyfansoddi yn cael ei gynnal gan John Metcalf.

“Mae comisiwn yr ŵyl yn waith newydd, Llechi, gan y telynor a’r cyfansoddwr, Math Roberts, gyda barddoniaeth gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor Ap Glyn.

“Wedi’i ysgrifennu ar gyfer ensemble siambr ac unawdwyr lleisiol, bydd yn dathlu diwylliant unigryw ardaloedd chwareli llechi Gwynedd, a gafodd Statws Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn ddiweddar,” meddai Elinor.

Gwahoddir telynorion hefyd i gymryd rhan mewn pedair cystadleuaeth yn yr ŵyl, gyda’r nod o roi llwyfan i delynorion sy’n blant a phobl ifanc berfformio, derbyn sylwadau gan delynorion rhyngwladol o fri, a gwneud ffrindiau gyda cherddorion ifanc o rannau eraill o’r byd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y cystadlaethau yw Ionawr 2, 2023.

“O gystadleuaeth y Prif Gerddor i adran y telynorion ifanc, mae cyfleoedd ar gyfer nifer o arddulliau a genres amrywiol, gan gynnwys cystadleuaeth Cerddoriaeth y Byd ar unrhyw fath o delyn o’r Delyn Geltaidd i’r Delyn Deires, o’r Kora i’r delyn pedal.

“Anogir cyfranogwyr ym mhob un o’r pedwar categori i greu eu dewis eu hunain o raglenni, a chynnwys un neu ddwy eitem a restrir yn y maes llafur cyhoeddedig.

Dywedodd Elinor: “Yn y cystadlaethau i blant a phobl ifanc, bydd ysgoloriaethau cyfartal yn cael eu dyfarnu i’r tri pherfformiad gorau, er mwyn helpu telynorion ifanc dawnus i dderbyn hyfforddiant arbenigol parhaus.

Mae tîm Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Telynau Camac a Telynau Vining ac am nawdd gan lawer o gyrff cyllido eraill gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn noddi ysgoloriaethau a gwobrau yn yr Ŵyl i gysylltu.

“Ymunwch â ni dros y Pasg yng Nghaernarfon am brofiad llawen a chyfoethog.”

Mae manylion y cyngerdd lansio, y daith a’r cystadlaethau ar gael ar wefan yr Ŵyl www.walesharpfestival.co.uk

O Dresden i Dregaron

O Dresden i Dregaron

Braf gweld y bydd dau o’n cyn-ddisgyblion disglair, Gwenno Morgan a Patrick Rimes, yn rhan o’r noson arbennig yma….

Pedwar Premier Byd – Beethoven, ap Sion, Guto Puw a Rimes

Eisteddfod Tregaron 2022

Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anfonodd yr Albanwr George Thomson nifer o ganeuon gwerin o Iwerddon, Cymru a’r Alban at y cerddor o’r Almaen, Ludwig van Beethoven. Anfonodd rai at Franz Joseph Haydn yn ogystal. Roedd Thomson yn gyhoeddwr, yn gerddor ac yn gyfaill i’r bardd Robert Burns. Bu’n gyfrifol
am gyhoeddi’r cynhaeaf, sef cyfrolau o ganeuon gwerin gan y ddau gyfansoddwr, yn fuan yn yr 1800, wedi’u sgorio ar gyfer triawd piano a llais, yn arddull y Cyfnod Clasurol. Y ffaith syfrdanol yw fod Beethoven wedi cyfansoddi 179 o drefniannau o ganeuon gwerin y tair gwlad, mwy yn wir nag unrhyw genre arall o blith ei weithiau.

Penderfynwyd dod â’r rhain i olau dydd ac i glyw cynulleidfa Cymru yn 2020, 250 mlynedd ar ôl geni Beethoven. Ond daeth y covid i ddifetha’r cynlluniau. Roedd y syniad yn parhau i gyniwair yn 2022. Penderfynwyd ehangu’r syniad gan wahodd cyfansoddwyr eraill i gyfrannu at yr arlwy. Llwyfennir “O Dresden i Dregaron”, o’r Almaen i Gymru, gyda phedwar premier byd gan Beethoven, Pwyll ap Sion, Guto Puw a Patrick Rimes. Mae yna berfformiad hefyd o ddau waith gan Haydn ac un gan Sioned Webb, berfformiwyd gyntaf gan Elin Manahan Thomas a Cherddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd ddeng mlynedd yn ôl. Y canwr gwerin Dafydd Idris, Pontypridd, fydd yn perfformio’r caneuon gwerin ar eu ffurf wreiddiol. Gweddill y perfformwyr fydd Robyn Lyn Evans (tenor), Gwenno Morgan (piano), Patrick Rimes (ffidil), Jordan Williams (cello) a Sioned Webb (piano). Y canlyniad yw’r noson yn y Babell Lên nos Lun, Awst 1af am 7.30.

Y cerddor a’r cyflwynydd radio, Sioned Webb yw trefnydd a chynhyrchydd y noson.

Desmond y pensiynwr cerddorol yn graddio gyda’r sielo ar ôl bwlch o hanner canrif

Desmond y pensiynwr cerddorol yn graddio gyda’r sielo ar ôl bwlch o hanner canrif

Mae pensiynwr cerddorol wedi ychwanegu llinyn arall at ei fwa trwy basio ei arholiad sielo gradd 8 yn 74 oed.

Rhoddodd Desmond Burton y gorau i chwarae’r offeryn yn blentyn ond penderfynodd ailafael ynddo hanner canrif yn ddiweddarach ar ôl ymddeol o’i swydd fel tiwtor Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.

Yn 67 oed, ailddechreuodd ddysgu’r offeryn a chael gwersi gan y tiwtor Nicki Pearce yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.

Llwyddodd i basio’r radd uchaf posib mewn arholiad Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol gan ennill canmoliaeth uchel gan yr arholwr a ddywedodd ei bod yn fraint cael gwrando arno’n chwarae.

Ers ailddarganfod ei ddawn gyda’r sielo mae Desmond wedi ymuno â Cherddorfa Gymunedol Caernarfon a sefydlwyd gan Ganolfan Gerdd William Mathias i annog cerddoriaeth ymysg oedolion ar bob lefel o allu chwarae offerynnau cerdd.

Mae’r ganolfan yn darparu gwersi offerynnol a lleisiol o safon uchel i gannoedd o bobl ar ystod eang o offerynnau, yn ogystal â threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol ledled Cymru.

Tra bod mwyafrif y myfyrwyr o oed ysgol, mae Desmond yn un o dros 50 o oedolion sy’n mynychu gwersi cerddorol wythnosol naill ai yn Galeri Caernarfon neu yn y canolfannau lloeren yn Ninbych a Phwll-glas, ger Rhuthun.

Mae Desmond hefyd wedi chwarae mewn ensembles siambr a drefnwyd gan y ganolfan gerdd.

Cafodd ei annog i fwrw iddi gan ei ferch Carolyn, sy’n feiolinydd dawnus ei hun, a bellach mae’n mwynhau sesiynau cerddoriaeth anffurfiol gyda’i wraig Porjai, sy’n chwarae’r gitâr, yn eu cartref ym Mhorthaethwy.

Dywedodd: “Mae llawer o bobl yn meddwl fy mod i’n wallgof yn sefyll yr arholiadau hyn, a rhoi’r straen ychwanegol di-angen yma arnaf fy hun. Ac mae llawer o bobl sydd wedi ymuno â cherddorfa Canolfan Gerdd William Mathias yn gwneud hynny dim ond i fwynhau eu hunain yn creu cerddoriaeth.

“Ond rwy’n eithaf cystadleuol ac rwyf wrth fy modd yn gosod her i mi fy hun ac wrth sefyll arholiad rydych chi’n dysgu chwarae darnau cerddorol i safon uchel iawn a dyna’n union roeddwn i eisiau ei wneud.”

Cafodd Desmond, sy’n wreiddiol o Lichfield yn Swydd Stafford, wersi sielo yn yr ysgol yn ei arddegau ond ni safodd unrhyw arholiadau bryd hynny. Roedd yr offeryn a brynodd ei dad iddo gan aelod o Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham pan oedd yn 12 neu 13 oed wedi gorwedd yn segur yn hel llwch ac ni chafodd ei chwarae am fwy na 50 mlynedd.

Ychwanegodd: “Pan ymddeolais o Brifysgol Bangor saith mlynedd yn ôl, roedd gen i fwy o amser i ddilyn fy niddordebau ac roedd hi’n ymddangos yn briodol i mi gael gwersi sielo. Wnes i erioed ei gymryd o ddifrif fel plentyn, felly meddyliais y dylwn i ddod yn ôl a cheisio ychydig yn galetach.

“Nid yw offerynnau cerdd yn rhad ac roedd gen i sielo yn barod. Mae’n offeryn eithaf da, yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o’r Almaen ac rwy’n dal i’w chwarae. Rwyf wedi gorfod rhoi llinynnau newydd arno a phrynu bwa newydd oherwydd roedd wedi bod yn segur ers cymaint o flynyddoedd, ond mae’n dal yn sielo da iawn, does gen i ddim bwriad i’w newid.

“Mae Nicki yn athrawes wych. Mae hi mor amyneddgar ac yn gallu datrys unrhyw broblemau a allai fod gennyf yn gyflym. Mae hi’n ysbrydoledig. Ni fyddwn wedi gallu pasio’r arholiadau hebddi. Mae’r llwyddiant Gradd 8 yn llwyddiant iddi hi lawn cymaint â mi,” ychwanegodd.

Dywedodd Carolyn, merch Desmond, a astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham ac sydd bellach yn gweithio i Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, na allai geiriau ddisgrifio pa mor falch oedd hi o’i thad.

Dywedodd: “Roeddwn i’n gefnogol iawn pan ddechreuodd ailafael yn y sielo eto ar ôl iddo ymddeol. Mae wrth ei fodd yn chwarae’r offeryn ac rydw i wedi bod yn hapus i’w helpu i baratoi ar gyfer y gwahanol arholiadau y mae wedi’u sefyll.”

“Rwy’n falch iawn ei fod wedi pasio cymaint ac wedi cyrraedd y radd uchaf. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli eraill i roi cynnig ar chwarae offeryn cerdd beth bynnag fo’u hoedran,” ychwanegodd.

Dywedodd Nicki, y tiwtor cerdd: “Mae’n bleser mawr dysgu Desmond. Mae’n dod i’w wersi wythnosol ac mae bob amser wedi paratoi ymlaen llaw. Hyd yn oed os oes rhywbeth dyrys i’w chwarae, bydd bob amser yn bwrw iddi’n frwd ac mae’n ysbrydoliaeth.

“Nid yw arholwyr bob amser yn ysgrifennu sylwadau ychwanegol ar eu hadroddiadau, ond ar adroddiad Desmond roedd sylw gan yr arholwr oedd yn dweud ei bod yn fraint wirioneddol cael gwrando arno’n chwarae.

“Mae’n dangos nad oes ots pryd mewn bywyd rydych chi’n gwneud pethau fel yr arholiadau hyn, mae unrhyw beth yn bosib.

Ychwanegodd: “Rydym rŵan wrthi’n chwilio am fwy o aelodau ar gyfer y gerddorfa gymunedol. Mae’n ffordd wych i oedolion sydd efallai heb gyffwrdd yn eu hofferynnau cerdd ers blynyddoedd i’w codi eto a rhoi cynnig arni mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol,” ychwanegodd.

Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts: “Efallai bod pobl yn meddwl mai rhywbeth i blant a phobl ifanc yn unig yw gwersi cerddoriaeth ond mae croeso i bob oed yng Nghanolfan Gerdd William Mathias – dydi hi byth yn rhy hwyr i ddechrau cael gwersi. Mae nifer yr oedolion sy’n derbyn gwersi un-i-un wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n newyddion da iawn.

“Bu’r drysau ar gau am gyfnod yn ystod y pandemig a chawsom ein gorfodi i weithio mewn  ffyrdd eraill, ar-lein yn bennaf, ond mae pethau wedi ailddechrau o ddifrif erbyn hyn ac mae’n wych gweld y gerddorfa lawn yn ôl yn ymarfer. Gall unrhyw un ymuno beth bynnag fo’u profiad ac mae’r pwyslais yn fawr iawn ar fwynhau creu cerddoriaeth.”

Mae Cerddorfa Gymunedol Caernarfon, a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yn cyfarfod ar nos Fawrth, fel arfer rhwng 8pm-9.30pm yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon. Mae mwy o wybodaeth ar-lein yn www.cgwm.org.uk neu drwy ffonio 01286 685230.

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Penddelw Beethoven mwyaf y byd yn syfrdanu

Mae penddelw enfawr o Beethoven yn syfrdanu ymwelwyr â chanolfan gelfyddydau – ac yn anelu i dorri record.

Credir mai’r cerflun pȃpier-maché a phren enfawr yn Galeri yng Nghaernarfon yw’r cerflun mwyaf yn y byd o ben y cyfansoddwr nodedig.

Gwnaed y model enfawr, sy’n 5 troedfedd 6 modfedd o uchder ac sy’n pwyso pum stôn, ar gyfer yr Ŵyl Biano Ryngwladol sydd wedi dynodi digwyddiad eleni yn ddathliad hwyr 250 mlwydiant geni Beethoven

Wedi’i threfnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias bob pedair blynedd, mae’r ŵyl biano yn rhoi llwyfan i ddatganiadau gan gerddorion proffesiynol, a chynnal cystadlaethau piano o fri – gyda gwobrau yn dod i gyfanswm o bron i £10,000.

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr Ŵyl yn 2020, ond bu’n rhaid ei gohirio oherwydd pandemig Covid-19 ac mae bellach yn digwydd rhwng Hydref 15 a 18.

Ond mae’r trefnwyr yn parhau â’u teyrnged i’r athrylith cerddorol o’r Almaen y mae ei weithiau ymhlith y rhai a berfformir amlaf yn y byd.

Cafodd y gosodiad cyfareddol ei greu gan yr artist enwog o ogledd Cymru, Catrin Williams, a’i gŵr Bedwyr ab Iestyn a ddefnyddiodd weiren a deunyddiau wedi’u hailgylchu i’w wneud.

Gyda llygaid tywyll iasol a gwallt gwyllt, mae’r penddelw’n hongian o brif nenfwd y cyntedd yn Galeri lle mae eisoes wedi cael ymateb trawiadol.

Cymerodd y cerflun bron i ddwy flynedd i’w wneud, a chafodd ei greu yn ystod anterth  cyfnodau clo y pandemig a meddiannu’r rhan fwyaf o ofod garej Catrin a Bedwyr yn eu cartref ym Mhwllheli.

Meddai Catrin: “Roedd yn amser od iawn, ac mi wnaethon ni ddod i gael perthynas eithaf rhyfedd gyda’r ffigwr enfawr hwn yn ein garej. Roedd yn rhan o’n ‘swigen’ yn y cyfnod clo.

Meddai: “Mi wnes i ei baentio yn yr ardd yn ystod tywydd braf dros yr haf ac fe gododd hynny chwilfrydedd mawr ymhlith ein cymdogion a allai ei weld o ffenestri eu llofftydd. Mae’n siŵr eu bod nhw’n methu deall beth yn y byd oedd yn digwydd. ”

Dywedodd y pianydd cyngerdd rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones sydd hefyd yn gyfarwyddwr artistig yr ŵyl biano fod y cerflun yn unigryw.

Meddai: “Yn artistig mae’r arddull yn debyg i un o weithiau celf Damian Hurst, mae ychydig yn frawychus, ond fedrwch chi ddim tynnu eich llygaid oddi arno. Dyna’r union beth roeddem ei eisiau pan wnaethon ni ofyn i Catrin roi ei dawn greadigol ar waith.

“Cafodd Beethoven fywyd ingol, roedd yn gyfansoddwr godidog ond dioddefodd yr anffawd o fynd yn fyddar yn gynnar yn ei fywyd fel oedolyn. Felly roeddem am i’r cerflun gyfleu peth o’r ing hwnnw.”

Mae Iwan a Catrin hefyd wedi bod yn arwain gweithdai creadigol mewn ysgolion lleol, gan gysylltu dehongli celf a cherddoriaeth.

Meddai Iwan: “Nod ein gŵyl biano yw canolbwyntio ar dri maes – perfformio, cystadlu ac addysgu. Mae diwylliant cyfoethog o gerddoriaeth ac addysg cerddoriaeth wedi bod yng Nghymru erioed a thrwy ein prosiectau cymunedol rydym yn anelu at adeiladu ar hyn, gan helpu i feithrin diddordeb mewn cerddoriaeth ymhlith disgyblion o oed ifanc iawn.”

Yn ystod y gweithdai yn Ysgol Llanrug, Caernarfon, ac Ysgol Glancegin, Bangor, chwaraeodd Iwan weithiau Beethoven ac arweiniodd Catrin sesiwn gelf lle byddai disgyblion Blwyddyn Pump yn dehongli’r gerddoriaeth trwy arlunio.

Gosodwyd cynfas papur mawr ar draws y llawr a defnyddiodd y plant botiau inc, paent a deunyddiau lliwio eraill i greu dyluniadau gwreiddiol greddfol.

Dywedodd athrawes yn Ysgol Llanrug, Alaw Tecwyn, ei bod yn hyfryd croesawu Catrin ac Iwan i’r ysgol ar ôl cymaint o fisoedd pan maen nhw wedi colli gwersi cerdd a chanu mewn grŵp oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Meddai: “Mae cael sain cerddoriaeth fyw yn ein neuadd eto a gweld disgyblion yn cael eu hysbrydoli fel hyn yn cynhesu’r galon. Mae’n dod â theimlad o normalrwydd yn ôl i’r ysgol.”

Yn raddedig o Goleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, mae Alaw yn gantores operatig fedrus ac yn dysgu cerddoriaeth. Ar ddiwedd y sesiwn gelf canodd ddarn soprano unigol ar gyfer y grŵp, sef cyfansoddiad Meirion Williams, Mai, gydag Iwan yn cyfeilio ar y piano.

Roedd dwy ysgol arall, Ysgol Cybi, Caergybi, ac Ysgol Edmund Prys, Blaenau Ffestiniog, hefyd yn rhan o brosiectau cymunedol a ddatblygwyd gan Ganolfan Gerdd William Mathias gyda chyllid gan raglen Culture Step Celfyddydau a Busnes Cymru i gefnogi’r bartneriaeth ar y cyd â Roberts Portdinorwic sy’n noddi’r brif wobr yn yr Ŵyl. Bydd y prosiect hwn yn gorffen gyda chyngerdd rithwir ar thema Carnifal yr Anifeiliaid gan Saint Saens, gyda’r cerddorion Elin Taylor ar y sielo, Teleri-Sian ar y piano a Glian Llwyd hefyd ar y piano.

Bydd y cyngerdd ar gael i’w wylio ar-lein ddydd Sul Hydref 17, am 6.30pm, fel rhan o fformat hybrid yr ŵyl a ddyfeisiwyd er mwyn cadw at fesurau pellhau cymdeithasol y pandemig.

Mae cyngherddau eraill ar gael lle gellir gwylio cerddorion clasurol gwych ar-lein gan gynnwys y maestro piano enwog a aned yn Wrecsam a’r arbenigwr Beethoven, Llyr Williams. Mi fydd Llŷr yn arwain cyngerdd noson agoriadol yr ŵyl, a fydd yn cael ei ffrydio ar-lein ar ddydd Gwener, Hydref 15.

Hefyd yn rhan o’r rhaglen rithwir y mae cyngerdd o gerddoriaeth siambr gan y feiolinydd Sara Trickey, y sielydd Sebastian van Kuijk ac Iwan Llewelyn-Jones, a premières rhyngwladol pedwar gwaith sydd newydd eu comisiynu gan gyfansoddwyr amlwg o Gymru, sef Pwyll ap Sion, Joseph Davies, Sarah Lianne Lewis a Bethan Morgan-Williams ynghyd â’r Soprano Alys Roberts.

Yn ogystal, gwahoddir cynulleidfaoedd i Galeri i wylio perfformiadau byw wrth i gyfres o gystadlaethau gwefreiddiol gael eu cynnal. Bydd 16 cystadleuaeth ym mhob un o dri chategori ar gyfer pianyddion unigol iau, pianyddion unigol hŷn, a chyfeilyddion. Ymhlith y cystadleuwyr mae pianyddion ifanc talentog sawl rhan o’r byd gyda’r potensial i fod yn enwau mawr y dyfodol.

Bydd cyfle hefyd i fwynhau perfformiadau byw yn atriwm Galeri gan y ddeuawd Sian James a Sioned Webb a Gwenno Morgan, un o gyn-fyfyrwyr CGWM.

Pwysleisiodd y trefnwyr na fyddai’n bosibl llwyfannu’r ŵyl heb gefnogaeth ei noddwyr gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Bangor, Ymddiriedolaeth Colwinston, Sefydliad Foyle, Cyngor Gwynedd, sefydliad gofal Parc Pendine trwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, Roberts  Portdinorwic, Tŷ Cerdd, Amddiffyn Tân Eryri, A&B Cymru a sawl rhoddwr unigol.

I gael mwy o fanylion am amserlen yr ŵyl, i archebu tocynnau cyngerdd rhithwir neu i ddarganfod sut i noddi nodyn ewch i https://www.pianofestival.co.uk/cy/ 


Y meistr piano Llŷr Williams yn un o’r prif berfformwyr mewn gŵyl arbennig

Y meistr piano Llŷr Williams yn un o’r prif berfformwyr mewn gŵyl arbennig

Bydd y pianydd byd-enwog Llŷr Williams yn un o’r prif artistiaid mewn cyngerdd rhithwir mewn gŵyl arbennig.

Bydd y meistr piano o Wrecsam yn perfformio gweithiau gan Beethoven, Chopin a Schubert ar biano Steinway newydd syfrdanol ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r seren gerddoriaeth glasurol ymddangos yn yr ŵyl a gynhelir bob pedair blynedd, sy’n cael ei threfnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon.

Mae’r digwyddiad yn rhoi llwyfan i ddatganiadau gan gerddorion proffesiynol rhagorol yn ogystal â chynnal cystadlaethau piano o fri – gyda gwobrau eleni yn gyfanswm o bron i £10,000.

Er gwaethaf 18 mis o rwystrau trefniadol a achoswyd gan bandemig Covid-19, mae gŵyl 2021 wedi sicrhau cyflenwad llawn o ymgeiswyr i’r cystadlaethau.

Bydd 16 o gystadleuwyr ym mhob un o’r tri chategori ar gyfer pianyddion unigol iau, pianyddion unigol hŷn, a chyfeilyddion. Mae’r ŵyl yn un o ddim ond llond llaw o wyliau cerdd rhyngwladol sy’n cynnwys categori cyfeilio.

Eleni mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar ffurf hybrid gyda’r cyngherddau hwyr wedi’u recordio ymlaen llaw a’u ffrydio ar-lein, tra bydd cystadlaethau a digwyddiadau eraill yn digwydd yn fyw yn Galeri Caernarfon.

Dywed y trefnwyr na fyddai’n bosibl cynnal yr ŵyl heb gefnogaeth y noddwyr sy’n cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Colwinston, Sefydliad Foyle, Cyngor Gwynedd, sefydliad gofal Parc Pendine trwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, Roberts o Portdinorwic, Tŷ Cerdd, Snowdonia Fire Protection, A&B Cymru a sawl rhoddwr unigol.

Mae cyngerdd Llŷr Williams wedi’i recordio ymlaen llaw a bydd yn cael ei ffrydio ar-lein ar Hydref 15 i agor yr ŵyl.

Bydd pobl sy’n hoff o gerddoriaeth yn gallu prynu tocynnau i wylio’r datganiad rhithwir ar wefan yr ŵyl www.pianofestival.co.uk a fydd ar gael i’w weld am 24 awr.

Mae Llŷr yn berfformiwr rhyngwladol o fri ac mae wedi arbenigo ar berfformio gwaith Ludwig van Beethoven gan chwarae nifer o gylchoedd sonata cyflawn y cyfansoddwr. Mae wedi perfformio yn rhai o brif leoliadau cerddoriaeth y byd gan gynnwys Carnegie Hall, Efrog Newydd, a Wigmore Hall, Llundain.

Mae ei gysylltiad â cherddoriaeth Beethoven yn asio’n berffaith â thema ganolog Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2021, sy’n talu gwrogaeth i Beethoven a’i etifeddiaeth sylweddol. Bydd rhaglen Llŷr yn cynnwys Sonata Opus 31, rhif 3 (Yr Helfa) gan Beethoven a Sonata fawreddog Frédéric Chopin, ‘Gorymdaith Angladdol’.

Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl: “Mae Llŷr yn gerddor rhyfeddol ac yn berfformiwr cyflawn ac rydym yn falch iawn o’i groesawu i ŵyl 2021.

Recordiwyd y cyngerdd yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor gyda Llŷr yn perfformio ar biano cyngerdd Steinway newydd godidog a brynwyd yn ddiweddar gan y brifysgol.

Ar ôl y recordiad, disgrifiodd Llŷr y Steinway fel offeryn eithriadol: “Mae wir yn tynnu allan holl liwiau gwahanol y gerddoriaeth.”

Yn wreiddiol, roedd yr ŵyl i fod i gael ei llwyfannu ym mis Mai 2020 i nodi 250 mlynedd ers geni Beethoven ym mis Rhagfyr 1770.

Ond oherwydd effeithiau cyfnod clo y pandemig byd-eang a chau lleoliadau cyngherddau ledled y byd bu’n rhaid ei gohirio ddwywaith.

Dywedodd Iwan: “Ar ôl ansicrwydd y 18 mis diwethaf a sefyllfa’r pandemig parhaus mi wnaethon ni gymryd y penderfyniad beiddgar i fabwysiadu fformat hybrid. Mae’n golygu y bydd pobl yn gallu mwynhau gwylio’r perfformiadau gwych hyn ar-lein o gysur eu cartrefi eu hunain.”

Meddai Llŷr: “Mae’n anrhydedd i mi helpu i nodi’r ddwy ganrif a hanner sydd wedi mynd heibio ers genedigaeth Beethoven, ac yn enwedig felly gan na chawsom ddathlu mor llawn ag yr oedd yn ei haeddu y llynedd, sef blwyddyn y 250 mlwyddiant.”

Hefyd ar raglen rithwir yr ŵyl mae cyngerdd o gerddoriaeth siambr gyda pherfformiad o ‘Driawd yr Archddug’ gan Beethoven gyda Sara Trickey (ffidil), Sebastian van Kuijk (sielo) ac Iwan Llewelyn-Jones.

Bydd y Soprano Alys Roberts, yn ymuno â nhw i berfformio première rhyngwladol pedwar darn comisiwn newydd gan y cyfansoddwyr Cymreig amlwg Pwyll ap Sion, Joseph Davies, Sarah Lianne Lewis a Bethan Morgan-Williams.

Gan ddefnyddio cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg draddodiadol a thynnu ysbrydoliaeth o Beethoven, mae’r cyfansoddwyr wedi creu gweithiau atgofus iawn sy’n archwilio amser a lle gydag awyrgylch a drama.

Bydd y cyngerdd olaf gyda’r nos yn cynnwys perfformiad o gampwaith eiconig y cyfansoddwr Ffrengig Camille Saint-Saens ‘Carnifal yr Anifeiliaid’ sydd hefyd yn ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau allgymorth cymunedol a gweithdai ysgol y mae tîm yr ŵyl yn ymgymryd â nhw yn y cyfnod cyn y prif benwythnos.

Mae mwy o fanylion ar sut i wylio’r tri chyngerdd rhithwir ar wefan yr ŵyl, www.pianofestival.co.uk

Yn y cystadlaethau piano mae ymgeiswyr yn cystadlu am brif wobr o £700 yn y categori iau, £3,000 yn y categori hŷn a £1,500 yn y categori cyfeilio.

Dywedodd Catrin Morris Jones, sy’n un o’r tîm gweinyddol sy’n trefnu’r ŵyl: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu’r cystadleuwyr i Galeri Caernarfon a bydd hefyd yn bosibl i aelodau’r cyhoedd ddod i wylio’r cystadlaethau. Cyhoeddir yr amserlen derfynol a’r manylion ar y wefan yn fuan.”

“Mae wedi bod yn 18 mis heriol ond rydym yn benderfynol o gyflwyno gŵyl wych. Mae agen i ni godi ychydig mwy o arian er mwyn cyrraedd ein targed ariannol ac rydym wedi rhoi ffurflenni ar ein gwefan i bobl gymryd rhan drwy Noddi Nodyn – sef ffordd o’n noddi trwy ddewis eich hoff nodyn ar y piano.”

I gael mwy o fanylion am amserlen yr ŵyl, i archebu tocynnau neu i ddarganfod sut i noddi nodyn ewch i www.pianofestival.co.uk

Llun: © Hannan Images

Charli Britton

Charli Britton

Gyda thristwch mawr y clywsom am farwloaeth Charli Britton.

Gwnaeth Charli gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg fel drymiwr y banc roc Edward H Dafis a sawl band arall.

Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am rannu ei angerdd a’i arbenigedd gyda dwsinau o ddrymars ifanc Gogledd Orllewin Cymru yn sgil ei waith fel tiwtor drymiau yn y Ganolfan am 15 mlynedd. Roedd yn diwtor annwyl a phoblogaidd oedd yn ysbrydoli ei ddisgyblion.

Roedd hefyd yn ddylunydd talentog a fu’n gyfrifol am lawer o ddeunyddiau marchnata y Ganolfan. Bob amser yn barod ei gymwynas ac yn bleser i gydweithio ag o.

Bydd colled fawr ar ei ôl. Cwsg yn dawel Charli a diolch.

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Llwyddiant ein Diwrnod Piano Rhithiol

Ar ôl y Diwrnod Piano hynod lwyddiannus y llynedd roeddem yn benderfynol o beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ein trechu, felly dyma ni’n trefnu Diwrnod Piano ar-lein eleni.

Roedd yr ymateb yn galonogol iawn gyda 65 o berfformiadau gan bianyddion o bob safon ac oedran, nid yn unig o’r DU ond cyn belled â’r Almaen a Gwlad Thai. Roedd y repertoire a berfformiwyd yn amrywio o ddarnau Clasurol a Rhamantaidd i Jazz, Ragtime & Blues a’r 20fed Ganrif.

Y pianyddion blaenllaw Dafydd Meurig Thomas, Gwawr Owen ac Evgenia Startseva oedd yn gwrando ac yn rhoi adborth adeiladol i’r holl berfformwyr. Adlewyrchodd Evgenia ei bod “yn bleser aruthrol ac yn brofiad pleserus. Roedd y perfformwyr wedi creu argraff dda iawn. ”

Roedd yr adborth gan rieni a pherfformwyr yn frwd iawn gyda llawer o arsylwadau cadarnhaol:

“Diolch yn fawr iawn am y cyfle i’n plant chwarae yn y Diwrnod Piano a chael adborth mor ddefnyddiol gan rhoi hwb a hyder iddynt!”

“Fe aeth y cyfan yn llyfn iawn a sylwadau’r tri yn hynod werthfawr. Mae’n werth y byd i’r pianyddion i gael cyfle i chware tu hwnt i awyrgylch cystadleuol, ac felly ry’ ni’n gwerthfawrogi’r diwrnod yn fawr.”

“Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn gyda theimlad cartrefol iawn er y ZOOM – diolch am eich gwaith caled.”

Cawsom sesiwn ‘Holi ac Ateb’ addysgiadol a goleuedig iawn yn ystod y prynhawn a ddaeth â’r sylw canlynol gan aelod o’r gynulleidfa:

“Mi wnes i fwynhau’r sesiwn Holi ac Ateb yn fawr. Yn aml, gall rhywun deimlo’n ynysig iawn fel tiwtor a chredaf yn gryf fod sesiynau o’r fath, lle gellir datrys problemau a rhannu arferion da, o fudd enfawr i lawer ohonom.”

Rydym yn falch iawn ein bod wedi creu’r gymuned hyfryd yma o bianyddion, rhieni ac athrawon ar-lein ac edrychwn ymlaen at gynllunio llawer mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol agos.

Osian Ellis (1928-2021)

Osian Ellis (1928-2021)

Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru.

Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn Ninbych, yn fab i’r Parch T.G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid, a’i  athrawes gyntaf oedd  Alwena Roberts (Telynores Iâl). Fel plentyn, bu’n canu penillion a chaneuon gwerin mewn cyngherddau yng Nghymru gyda’i fam ac aelodau eraill o’i deulu.

Yn dilyn cyfnod yn astudio’r delyn gyda Gwendolen Mason yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, olynodd ei athrawes fel Athro’r delyn yn y sefydliad hwnnw 0 1959 i 1989.  Yn gynnar yn ei yrfa, ymddangosodd mewn rhaglenni teledu poblogaidd ar y BBC yng Nghymru,  a rhoddodd nifer o berfformiadau  o farddoniaeth a cherddoriaeth  gydag actorion megis Dame Peggy Aschcroft, Dame Sybil Thorndyke, Cecil Day-Lewis, Hugh Griffith a Richard Burton.

Fel telynor gorau ac amlycaf ei gyfnod, fel athro telyn, cyfansoddwr, trefnydd, canwr penillion ac ysgolhaig, cyfrannodd yn helaeth i fyd cerddoriaeth werin y genedl yn ogystal â cherddoriaeth glasurol Ewropeaidd ei ddydd. Trwy gyfrwng recordiadau gyda chwmni Sain, Philips, Lyrita, Meridian a Decca, llwyddodd i ddwyn sylw i repertoire amrywiol y delyn, gan gynnwys cyfansoddiadau y 18fed, y 19eg a’r 20fed ganrif o Gymru.  Teithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa, a hyrwyddodd y delyn a cherddoriaeth ei fam-wlad ym mhellafoedd byd.

Osian Ellis oedd Prif Delynor y London Symphony Orchestra o 1961 ymlaen, a gweithiodd gydag arweinyddion mawr y cyfnod megis Pierre Monteux, Pierre Boulez, Colin Davis, Antal Dorati, André Previn a Claudio Abbado.  Bu’n unawdydd cyson gyda’r gerddorfa honno ac, fel telynor gwreiddiol y grŵp siambr Melos Ensemble, enillodd ei recordiad  o’r  Introduction et Allegro  gan Ravel y Grand Prix du Disque ym Mharis yn 1962.

O ddechrau’r 60’au bu cydweithio dygn ac arwyddocaol rhyngddo ef a’r cyfansoddwr mawr Seisnig,  Benjamin Britten, a chwaraeodd Osian mewn llawer perfformiad a recordiad yng Ngŵyl Britten yn Aldeburgh. Bu’r  cyswllt a’r cydweithio parod hwn yn gyfrwng i’r delyn ennill ei lle yng ngweithiau  Britten – gweithiau fel y War Requiem (1962),  Midsummer Night’s Dream, Curlew River (1964), The Prodigal Son (1968) a’r gwaith pwysig i’r delyn – Suite for Harp(1969).

O 1973 – 1980 wedi salwch Benjamin Britten, cynhaliodd Osian Ellis lawer o gyngherddau gyda Peter Pears, ac ysgrifennodd sawl gwaith newydd ar eu cyfer. Yn ddiweddarach, ffurfiodd ddeuawd gyda’i fab, y diweddar  Tomos Ellis (tenor), gan roi llawer perfformiad yng Nghymru a thramor.

Anogodd Osian Ellis nifer o gyfansoddwyr cyfoes o Gymru a thu hwnt i lunio gweithiau newydd ar gyfer y delyn – gan gynnwys William Mathias, Alun Hoddinott, Rhian Samuel, David Wynne, Malcolm Arnold, Robin Holloway, Elizabeth Machonchy, William Alwyn, Carlo Menotti a Jorgen Jersild.  

Fel ysgolhaig, ymddangosodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfrolau ac erthyglau o sylwedd ar hanes y delyn yng Nghymru, Llawysgrif Robert ap Huw, John Parry ‘Ddall’ (Rhiwabon) a Cherdd Dant. Cyhoeddwyd ei The Story of the Harp in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru a chymerodd ran mewn myrdd o raglenni teledu a radio yng Nghymru a Llundain.

Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.

Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, deffrodd yr awen, a chyfansoddodd ddau waith newydd :   ‘Cylch o Alawon Gwerin Cymru’  (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn ‘Lachrymae’.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i fab, Richard Llywarch, ei ferch-yng-nghyfraith Glynis, a’i wyrion, David a Katie,  yn eu profedigaeth.

Newid i ddosbarthiadau ar-lein yn galluogi telynores flaenllaw i ddysgu disgybl 7,500 milltir i ffwrdd ym Mhatagonia

Newid i ddosbarthiadau ar-lein yn galluogi telynores flaenllaw i ddysgu disgybl 7,500 milltir i ffwrdd ym Mhatagonia

Mae newid i ddosbarthiadau ar-lein oherwydd argyfwng Covid-19 wedi galluogi canolfan gerddoriaeth nodedig yng ngogledd Cymru i ddarparu gwersi ledled y byd.

Ymhlith y tiwtoriaid yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun, y mae’r delynores o fri Elinor Bennett sydd bellach yn dysgu un o’i phrotégés ifanc 7,500 milltir i ffwrdd yng ngwladfa Gymreig Patagonia yn yr Ariannin.

Mae’r tiwtora o bell trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwireddu breuddwyd i’r delynores ddawnus Helen Green sydd wrth ei bodd yn cael gwersi gan ei heilun cerddorol.

Mae’r Ganolfan Gerdd wedi llwyddo i barhau i gynnal 65 y cant o’i gwersi un i un ers i’r pandemig coronafeirws daro.

O fewn wythnos i gychwyn y cyfnod clo ym mis Mawrth, symudodd y Ganolfan ei gwersi ar-lein – rhywbeth a oedd hefyd yn caniatáu iddi ymestyn ei gweithgareddau ymhell y tu hwnt i’w hardal draddodiadol.

Erbyn hyn mae rhai gwersi wyneb yn wyneb wedi ailddechrau ond datgelodd cyfarwyddwr y Ganolfan, Meinir Llwyd Roberts, fod y gwersi rhithwir yma i aros i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu gwersi yn bersonol.

Roedd hynny’n fiwsig i glustiau Helen, 15 oed, a ddywedodd: “Rwy’n teimlo mor ffodus bod gennym y dechnoleg i wneud hyn. Mae cael Elinor fel fy mentor yn fraint go iawn, ac yn gyfle i ddysgu cymaint. Dyma’r peth ail orau i’w chael hi yn yr ystafell gyda mi. Mae hi’n athrawes eithriadol, yn delynores anhygoel.”

Mae’r cysylltiad traws-Iwerydd yn un o lwyddiannau rhyfeddol y Ganolfan sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod gwersi cerdd yn parhau i fod ar gael a chadw ei hathrawon mewn gwaith trwy’r pandemig.

Mae’r gwersi byw yn digwydd ar-lein trwy gyfrwng platfform cyfathrebu fideo Zoom.

Dywedodd Elinor ei bod hi’n edrych ymlaen yn fawr at y gwersi bob pythefnos gyda Helen ac yn mwynhau dal i fyny â’r newyddion o ‘Batagonia hyfryd’, gan iddi fod yno ar ymweliad deirgwaith.

Meddai: “Mae gwyrthiau technoleg fodern wedi bod yn hynod fuddiol yn ystod y cyfnod anodd hwn i gerddorion ledled y byd.

“Er gwaethaf yr anawsterau rydym wedi ffurfio cyswllt cyffrous y mae Helen a minnau yn edrych ymlaen ato bob pythefnos.

“Mae’n cymryd tipyn o waith paratoi ar y ddwy ochr i wneud iddo weithio, ac mae’n rhaid i ni ystyried y gwahaniaeth amser tair awr ond hyd yma mae’r gwersi wedi mynd yn rhyfeddol o dda.”

Mae gan Elinor OBE ac mae wedi perfformio gyda Cherddorfa Siambr Lloegr, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa’r Philharmonia, yn ogystal â rhoi datganiadau rheolaidd ar radio a theledu’r BBC. Mae ei chyn-fyfyrwyr yn cynnwys Catrin Finch, sydd bellach yn gerddor clasurol enwog ac a fu’n delynores swyddogol i’r Tywysog Charles rhwng 2000-2004.

Dywedodd Elinor na fyddai’n gallu mentora Helen mor hwylus heb gymorth Canolfan Gerdd William Mathias, canolfan y mae hi wedi ei chefnogi ers blynyddoedd lawer.

Sefydlwyd Canolfan Gerdd William Mathias yn 1999 er mwyn gwella mynediad i wersi offerynnol a chanu ar gyfer cymuned gogledd Cymru a darparu ffynhonnell o waith rheolaidd i athrawon cerdd hunangyflogedig.

Mae’n cwmpasu 42 o diwtoriaid sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain ac sy’n cynnig hyfforddiant unigol a grŵp i fwy na 500 o bobl yn wythnosol, yn amrywio o blant oed cyn-ysgol i bobl hŷn o oed pensiwn.

Mae’r rhain fel arfer yn weithgareddau wyneb yn wyneb yn Galeri Caernarfon, neu ganolfannau lloeren yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, a Chapel Tabernacl, Rhuthun ac yn y gymuned ehangach.

Gohiriwyd gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ystod cyfnod clo’r haf a chyfnod clo dros dro diweddar Cymru. Ond gyda chymorth cyllid o gronfa sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol, a pharodrwydd tiwtoriaid i addasu, trosglwyddwyd y rhan fwyaf o brosiectau cerdd y Ganolfan ar-lein.

Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts: “Does dim dwywaith ein bod ni wedi wynebu rhwystrau digynsail wrth geisio cynnal y ddarpariaeth addysg gerddorol yn ystod y pandemig, ond rydym wedi llwyddo i addasu ein holl brosiectau rheolaidd i gynnig rhywfaint o ddarpariaeth ar-lein. Mae wedi agor ein llygaid i’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio hyn fel dull o ddarparu gweithgareddau yn y dyfodol.

“Gwersi wyneb yn wyneb yw’r opsiwn gorau ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i allu dychwelyd i gynnal ein holl brosiectau wyneb yn wyneb, ond mewn rhai amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosibl mae’r cyfleuster ar-lein yn opsiwn amgen gwych. Byddwn yn parhau i’w gynnig yn y tymor hir, ar ôl y pandemig.”

“Nid oes ond rhaid edrych ar enghraifft ryfeddol Elinor a Helen i weld sut y gall addysg gerddorol fynd y tu hwnt i ffiniau – rhai daearyddol, corfforol neu emosiynol.”

Rhoddwyd Elinor mewn cysylltiad â Helen a’i theulu sy’n caru cerddoriaeth, gan un arall o’i chyn-fyfyrwyr, sef Esyllt Roberts de Lewis, a gafodd ei magu yng Nghymru ond a symudodd i Batagonia i ddysgu.

Ar ôl iddynt gyfarfod, mi welodd Esyllt fod gan Helen botensial mawr ac y byddai’n elwa o diwtora mwy datblygedig. Cysylltodd Esyllt gydag Elinor i ofyn a allai argymell mentor da ac roedd wrth ei bodd pan benderfynodd Elinor ymgymryd â’r dasg ei hun.

Roedd Helen a’i mam, sy’n feiolinydd, wrth eu boddau.

Meddai Elinor: “Mae Helen yn fyfyriwr mor frwd a hunanysgogol, ac mae’n bleser pur gweithio efo hi. Roedd hi’n gwella’n amlwg ar ôl pum sesiwn yn unig ac ar hyn o bryd mae’n paratoi i ymuno â pherfformiad rhithwir ar-lein gyda myfyrwyr eraill Canolfan Gerdd William Mathias. A’r gobaith yw trefnu hynny’n fuan. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn gŵyl gerddoriaeth yn Buenos Aires.”

Gwladfa Gymreig ar ffin yr Ariannin a Chile yw Patagonia a wladychwyd gyntaf gan ymfudwyr o Gymru yn y 19eg ganrif. Dyma’r unig ran o’r byd heblaw Cymru lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn gyffredin. Mae Helen yn byw yn Gaiman, ger Trelew, yn ardal Chubut.