Graham Land

Graham Land

Cychwynnodd Graham ddysgu’r drymiau o oedran uchel, ac yn fuan wedi iddo adael Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon cychwynnodd chwarae yn led-broffesiynol mewn bandiau lleol, teithio ar hyd a lled Prydain yn dysgu ei grefft. Symudodd Graham i Gaerdydd yn y wythdegau cynnar i chwarae yn broffesiynol, gan chwarae mewn nifer o gyngherddau, ar y teledu a radio ac mewn sesiynau recordio, ac mae’n parhau i wneud hyn hyd heddiw.
Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd, bu Graham yn teithio yn ôl ag ymlaen i Lundain i weld ei diwtor a hyfforddwr drymiau Robbie France, drymiwr byd enwog o Awstralia. Dyma restr fer o artistiaid o ddisgyddiaeth Graham. The Drifters, Cerddorfa’r BBC, Bryn Terfel, Cerys Matthews, Rhys Meirion, Meic Stevens, Caryl Parry Jones, John Owen-Jones. Mae’r rhestr yn mynd ymlaen.
Mae wedi bod yn aelod o Bryn Fôn a’r Band ers canol y nawdegau gan recordio nifer o’i albymau mwyaf poblogaidd. Mae Graham yn dysgu’r drymiau o gradd 1 i gradd 8 ac mae wedi bod yn dysgu i’r Ganolfan ers 14 mlynedd.

Dewi Ellis Jones

Dewi Ellis Jones

Mae Dr Dewi Ellis Jones yn dod o Lanfairpwll, Ynys Môn ond bellach yn byw yn Y Bontnewydd. Graddiodd gyda BMus ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2001, ac yna dilyn gyda gradd MA, a diploma LRSM. Mae wedi ennill Doethuriaeth mewn Perfformio a Chyfansoddi, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie.
Dewi yw unawdydd offerynnau taro llawn amser cyntaf Cymru ac mae’n brysur hefyd fel unawdydd gyda sawl cerddorfa a band. Ef yw prif offerynnwr taro Ensemble Cymru, ddaeth i’r rhestr fer yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2006.
Mae’n diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yn athro Offerynnau Taro yn y Brifysgol ym Mangor. Enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr, sef Medal Goffa Grace Williams, yn 2001 yng Ngŵyl yr Urdd. Derbyniodd Dewi ysgoloriaeth gan S4C i’w noddi a helpu datblygu ei dalent fel perfformiwr. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Mae Dewi yn briod ag Einir Wyn Hughes, sy’n delynores broffesiynol. Mae ganddynt un ferch, Ela Non.

Charlie Britton

Charlie Britton

Daeth Charlie Britton i’r amlwg fel drymiwr i fandiau Cymraeg y 1970au ac yn un o arloeswyr cynnar y sîn roc Gymraeg.
Fe’i ganed yng Nghaeedydd. Astudiodd gynllunio graffeg ym Mhrifysgol Llundain ac yno daeth ar draws y ban Warhorse a ffurfiwyd gan gyn-chwaraewr gitâr fas y band Deep Purple, Nick Simper.
Daeth â gweledigaeth a chit drymio gydag ef yn ôl i Gymru. Ychydig yn ddiweddarach, aeth yn ei flaen i fod yn aelod o’r band ‘Edward H Dafis’. Mae’n gweithio fel cynllunydd a dylunydd graffig yng Nghaernarfon ac yn chwaraewr drymiau sesiwn a thiwtor.

Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias.

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

You have Successfully Subscribed!